PCYDDS ar frig y tabl am gefnogi busnesau newydd gan raddedigion
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yw’r sefydliad addysg uwch sy’n perfformio orau yn y DU am helpu busnesau newydd i raddedigion sydd dal yn weithredol ymhen 3 blynedd. Mae ffigurau o’r arolwg Addysg Uwch - Rhyngweithio â Busnes a Chymuned (HE-BCI) 2022/23 yn dangos bod PCYDDS yn y safle cyntaf allan o 220 o brifysgolion ar draws y DU am fusnesau newydd gan raddedigion sy’n parhau’n weithredol ar ôl 3 blynedd (894) ac mae hefyd wedi sicrhau’r safle cyntaf am nifer y busnesau gweithredol (1,056).
Yr arolwg yw’r prif gyfrwng ar gyfer mesur maint a chyfeiriad y rhyngweithio rhwng darparwyr addysg uwch y DU a busnes a’r gymuned ehangach. Mae hanes balch gan y Brifysgol am ei haddysg entrepreneuraidd a menter a dyfarnwyd teitl Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn iddi yng ngwobrau Triple E 2022.
Mae’r safle arobryn diweddaraf hwn yn rhoi sylw nid yn unig i’r cymorth cychwynnol y mae’r myfyrwyr yn ei gael ond hefyd i’r perthnasoedd parhaus sy’n cael eu meithrin rhwng cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr cyfredol a staff y Brifysgol. Mae graddedigion entrepreneuraidd PCYDDS yn arweinwyr yn eu meysydd priodol ac maent yn rhannu eu harbenigedd a’u profiadau’n hael, gan greu rhwydwaith bywiog, cefnogol sy’n sbarduno dysgu a llwyddiant parhaus.
“Mae’r ffigurau diweddaraf yn fwy na rhifau’n unig; maen nhw’n adlewyrchu calon ac enaid ein cymuned,” meddai’r Athro Kathryn Penaluna, Athro Addysg Fenter, Pennaeth Menter, a Chyfarwyddwr yr Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol yn PCYDDS. “Mae ein darlithwyr ymroddedig a thimau proffesiynol yn gwneud mwy na lansio busnesau newydd; maen nhw’n ymgymryd â pherthnasoedd gydol oes â’n graddedigion. Nid yn unig y mae’r cysylltiadau parhaus hyn yn helpu busnesau newydd i ffynnu, maen nhw hefyd yn dod â chipolwg gwerthfawr ar y byd go iawn yn ôl i’n hystafelloedd dosbarth.
“Rydym ni’n falch dros ben o’n cyn-fyfyrwyr, sy’n cyfrannu’n sylweddol i’r brifysgol a’r gymuned fusnes ehangach. Gyda mwy na 1,000 o entrepreneuriaid llwyddiannus yn gysylltiedig â PCYDDS, mae’u bodlonrwydd i roi yn ôl a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes yn wir yn ysbrydoli.
“Mae arnom ddyled aruthrol o ran diolch i’n cyn-fyfyrwyr. Rwy’n estyn ‘diolch’ o waelod calon iddyn nhw i gyd am eu cymorth ac ymgysylltu parhaus. Mae’u cyfraniadau’n hollbwysig o ran ein helpu i gynnal ein safle arweiniol mewn addysg fusnes a llwyddiant entrepreneuraidd.”
Mae PCYDDS yn parhau i fod yn ymroddedig i feithrin amgylchedd lle mae profiad ymarferol a gwybodaeth academaidd yn croestorri’n ddi-dor, gan wella addysg myfyrwyr a deilliannau entrepreneuraidd.
Mae tîm Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter (INSPIRE) y Brifysgol yn cynnig ystod o gymorth i fusnesau cychwynnol, y mae’r rhan fwyaf ohono wedi’i ysbrydoli gan gyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd a’i ddylunio mewn cydweithrediad â nhw, ac yn cael ei gefnogi gan fenter Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd yr Athro Penaluna: “Ni fu’r galw am sgiliau entrepreneuraidd ymhlith ein graddedigion erioed yn gryfach. Mae meddwl creadigol a beirniadol, hyblygrwydd i ymateb i heriau a chyfleoedd, yn ogystal â deall busnes a chynaliadwyedd yn allweddol ac yn ein helpu i symud gyrfaoedd ein dysgwyr ymlaen ym mha bynnag faes y byddan nhw’n ei ddewis. Mae gweithiwr sy’n deall hanfod cwmni’n weithiwr gwerthfawr yn wir.”
Dywedodd Yr Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd a Phennaeth INSPIRE:
“Mae hyn yn gydnabyddiaeth bwysig o ymrwymiad ein staff wrth gefnogi dysgu ac addysgu entrepreneuraidd, busnesau newydd a BBaChau.
“Mae buddsoddiad parhaus y Brifysgol wedi gweld entrepreneuriaeth ac egwyddorion cyflogadwyedd yn cael eu hymgorffori ar draws y sefydliad i gyd, yn cynnwys ei haddysgu, partneriaethau â diwydiant a rhaglenni ymchwil.
“Rydym ni wedi creu diwylliant o fenter sy’n ymgysylltu â nifer cynyddol o fyfyrwyr a graddedigion drwy ein prosiectau a rhaglenni arloesol. Rydym ni hefyd yn gyrru ymgysylltu â busnes drwy brosiectau ymchwil cydweithredol gyda diwydiant ac yn cefnogi busnesau i dyfu ac i uwchsgilio.”
Un cyn-fyfyriwr sydd wedi elwa o gefnogaeth y tîm menter yw Naomi Seaward o Naomi Elizabeth Design. Astudiodd Naomi Patrwm a Thecstilau Arwyneb yng Ngholeg Celf Abertawe y Brifysgol lle darganfyddodd ei hangerdd am Argraffu ar gyfer y cartref a thu mewn wrth iddi ddysgu a datblygu ei sgiliau yn y Brifysgol.
Ar ôl graddio â gradd MDes mewn Dylunio Patrwm Arwyneb, penderfynodd Naomi fynd â’i chariad at chwedlau chwilfrydig a hanesion chwedlonol i fyd dylunio, gan sefydlu Naomi Elizabeth Design fel ffordd o ddod â rhyfeddodau ein byd naturiol i mewn i’r cartref.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071