ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Gan godi ysbryd a llenwi cartrefi â naws y gwanwyn, mae un gyn-fyfyrwraig ddawnus o Goleg Celf Abertawe, y Drindod Dewi Sant, Marie Wilkinson, yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn ei gyrfa wrth i’w chynlluniau ymddangos am y tro cyntaf yn siopau Tesco ledled y wlad.

Merch yn gwenu yn dal dwy glustog
Cyn-fyfyrwraig, Marie Wilkinson gyda chynnyrch a dyluniodd ar gyfer archfarchnad Tesco

Ers graddio gyda gradd Meistr mewn Dylunio Patrymau Arwyneb yn 2021, mae Marie, sy’n wreiddiol o Lanymddyfri ac sydd bellach yn byw yn Sir Benfro, wedi archwilio sawl gweithgarwch creadigol, gan gynnwys gwaith llawrydd ar gyfer stiwdios rhyngwladol a rheoli ei siop Etsy ei hun.

Lansiodd ei gyrfa lawrydd tra roedd hefyd yn gweithio’n rhan-amser yn Tesco Mobile, a arweiniodd yn y pen draw at ei rôl bresennol fel Dylunydd Cynorthwyol i Tesco - gwaith sy’n cyd-fynd yn agosach â’i hymdrechion artistig - lle mae’n chwarae rhan ganolog wrth gefnogi’r tîm dylunio ehangach trwy’r holl broses o ddatblygu cynnyrch.

Plât mewn siâp wy

Gan fyfyrio ar siwrnai'i gyrfa

“Dechreuodd fy rôl yn Tesco fel secondiad dros gyfnod mamolaeth, a drodd yn swydd amser llawn yn y pen draw. Fel Dylunydd Cynorthwyol, rwy’n cyfrannu at ddylunio amrywiaeth o gynhyrchion ar draws yr adran gartref, yn amrywio o decstilau i nwyddau caled a phapur.â€

Roedd gweld ei chreadigaethau ar silffoedd siopau Tesco am y tro cyntaf yn foment falch a swreal i Marie. Ar ôl gwneud ymchwil helaeth i dueddiadau  a dadansoddiad o’r farchnad, aeth hi a’i thîm ati’n drylwyr i ddatblygu briffiau, gan ddod ag amrywiaeth hyfryd o gynhyrchion yn fyw, o ddillad gwely clyd i glustogau deniadol, mygiau a llestri bwrdd wedi’u haddurno mewn patrymau sy’n ymgorfforiad o’r gwanwyn. 

Mae taith Marie o’r brifysgol i’w rôl bresennol mewn cadwyn fanwerthu flaenllaw yn dyst i’r profiad amhrisiadwy a gafodd drwy ei gradd Dylunio Patrymau Arwyneb. 

Merch yn gwenu yn dal cwpan gwydr

Ei phrofiad academaidd

“Yn sgil natur amlddisgyblaethol fy ngradd datblygais sgiliau dylunio traddodiadol a digidol, gan fy ngalluogi i addasu i wahanol rolau yn y diwydiant. Roeddwn wrth fy modd â’r elfen astudiaethau cyd-destunol o fewn y cwrs ac rwy’n gweld bod y ffordd y dysgais ysgrifennu a meddwl wedi ffurfio sut rwy’n cyfleu syniadau a thueddiadau yn fy ngwaith nawr.â€

Yn ystod ei hamser ar y cwrs, cafodd Marie brofiad gwerthfawr hefyd trwy interniaethau yn RMJ Print Studio a phencadlys Peacocks lle bu’n mireinio ei sgiliau fformatio ffeiliau, creu gwaith celf, a chael cipolwg ar dimau dylunio mewnol.

Wrth edrych ymlaen, mae Marie yn awyddus i fynd i’r afael ymhellach â’i hangerdd dros archwilio creadigol a chysyniadu syniadau newydd. Ei huchelgais yw mynd i faes ymchwil ac ysgrifennu, gan ehangu ei gorwelion tra’n aros yn driw i’w gwreiddiau fel dylunydd.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru a 3ydd yn y DU ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau (The Guardian University Guide 2024). Am ragor o wybodaeth ar y cwrs, ewch i: Patrymau Arwyneb a Thecstilau (Llawn amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon