Myfyrwyr Gwneud Ffilmiau Antur yn arddangos eu prosiectau terfynol.
Roedd adran Diwydiannau Dylunio a Pherfformio campws Caerfyrddin ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o gyflwyno penllanw tair blynedd o waith caled gan eu myfyrwyr BA (Anrh) Gwneud Ffilmiau Antur yn y digwyddiad Naratifau Cudd.
Cynhaliwyd yr arddangosfa hon yng Nghanolfan S4C Yr Egin, ac roedd yn cynnwys amrywiaeth eang o brosiectau, gan gynnwys rhaglenni dogfen a oedd yn mynd i’r afael â llygredd môr, hygyrchedd mewn syrffio, a manteision nofio gwyllt, ochr yn ochr â gwaith ffotograffiaeth a chyhoeddi.
Roedd y digwyddiad hwn yn llwyfan i fyfyrwyr arddangos eu gwaith caled a’u hymroddiad i gynulleidfa o ffrindiau, teulu a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Rhoddodd gyfle iddynt brofi gweld eu gwaith ar y sgrin fawr ac ymarfer siarad cyhoeddus mewn amgylchedd proffesiynol.
Roedd Josh Knight yn un o’r myfyrwyr a oedd yn arddangos ei waith. Meddai:
“Mae arddangos darn o waith o flaen cynulleidfa bob amser yn mynd i fod yn brofiad nerfus. Y digwyddiad hwn oedd y dorf fwyaf o ddigon rydw i wedi sgrinio unrhyw un o’m ffilmiau o’u blaen nhw. Fodd bynnag, mae gweld rhywbeth rydych chi wedi cysegru llawer o amser ac ymdrech iddo yn ymddangos ar y sgrin fawr, bob amser yn deimlad gwerth chweil iawn.â€
Myfyriwr arall a oedd yn arddangos ei waith oedd Joseph Morris. Meddai:
“Roedd yn broses eithaf nerfus i bob un ohonom, i bobl greadigol fel ni, dyw ein prosiectau byth yn teimlo’n orffenedig, mae rhagor y gallech chi ei ychwanegu a’i newid bob amser, felly roedd yn wych cael ymateb mor gadarnhaol i’n holl brosiectau.
“Gall fod yn eithaf anodd gwybod ar ba lefel o ansawdd y mae’ch gwaith chi gan fod pawb ohonom ni’n eithaf beirniadol, felly roedd cael adborth a gweld ymateb pobl mewn amser real yn ddefnyddiol dros ben.â€
Ychwanegodd y myfyriwr Molly Austin:
“Roedd hi’n nerfus iawn i ddechrau gan fy mod wedi gweithio’n galed iawn ar y prosiect ac felly roeddwn i eisiau i bobl ei fwynhau. Cyn gynted ag y daeth y ffilm i ben, dyma’r dorf yn dechrau cymeradwyo, teimles i ryddhad o lawenydd ac roedd hi’n teimlo bod fy holl waith caled wedi talu ar ei ganfed.
“Mae wedi gwella fy hyder yn aruthrol ac wedi rhoi’r hwb y mae ei angen arnaf i symud ymlaen gyda fy ngyrfa gwneud ffilmiau. Rwy’n credu bod hyn yn hynod bwysig i mi yn fyfyriwr gwneud ffilmiau oherwydd ei fod yn ein paratoi ni ar gyfer y byd go iawn, lle efallai y bydd disgwyl i ni roi sgyrsiau mewn sioeau ffilmiau yn y dyfodol.â€
Cynhaliwyd trafodaeth banel gyda’r myfyrwyr ar ddiwedd y digwyddiad a oedd yn rhoi cyfle iddyn nhw fyfyrio ar eu taith fel gwneuthurwyr ffilmiau, gan adrodd eu stori o’r dechrau, a rhoi rhagor o gyd-destun i’r gwaith a’r ymdrechion sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni i wneud y ffilmiau hyn yn bosibl.
Meddai Josh:
“Mae’r profiad o siarad yn gyhoeddus ac arddangos fy ngwaith o flaen cynulleidfa wedi cynyddu fy hyder yn unigolyn ac wedi dangos i mi y gallaf fod yn falch o’r gwaith rwy’n ei greu. Yn weithiwr creadigol, mae’n anodd teimlo’n hollol fodlon â ffurf orffenedig darn o waith rydych chi’n ei greu, ond ers y digwyddiad hwn rydw i wedi darganfod mai ei ddangos i gynulleidfa a chael eu hymateb nhw i rywbeth rydych chi’n ei greu yw’r darn coll sy’n cwblhau prosiect weithiau.â€
Meddai Rheolwr y Rhaglen Gwneud Ffilmiau Antur Dr Brett Aggersberg:
“Rwy’n hynod falch o’r gwaith ar lefel broffesiynol a wnaeth y myfyrwyr ar gynnwys y sioe. Yn ystod sesiwn banel holi ac ateb perfformiodd pob myfyriwr yn rhagorol wrth iddyn nhw drafod natur bod yn wneuthurwr ffilmiau antur. Gobeithio y bydd y digwyddiad yn ysbrydoli egin o wneuthurwyr ffilmiau.
“Roedd y noson yn ddathliad i deulu a ffrindiau sydd wedi gwylio a chefnogi’r unigolion hyn dros y tair blynedd ddiwethaf. Os yw’r sioe hon yn argoeli unrhyw beth, mae gan bob un ohonyn nhw ddyfodol disglair o’u blaenau nhw yn y diwydiant.â€
Gellir gweld y gwaith nesaf yn Theatr y Lyric Caerfyrddin ar 3 Mehefin am 7:30pm.
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs BA (Anrh) Creu Ffilmiau Antur yn Y Drindod Dewi Sant, ewch i: Creu Ffilmiau Antur (Amser Llawn) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (pcydds.ac.uk)
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07449&²Ô²ú²õ±è;998476