ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Maggie Lovitt, a raddiodd yn 2021 mewn MA Anthropoleg Ymgysylltiedig o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn defnyddio ei gradd ym maes newyddiaduraeth adloniant wrth iddi gyfweld ag enwogion fel Ewan McGregor a Masie Williams. 

Dyn a menyw yn esitedd ar lwyfan yn siarad
Maggie gyda Ewan McGregor

Roedd Maggie, sydd wedi’i lleoli y tu allan i Washington D.C wrth ei bodd o ddarganfod cwrs ôl-radd ar-lein Anthropoleg Ymgysylltiedig y Drindod Dewi Sant gan ei fod yn cyd-fynd yn berffaith â’i hangerdd dros gadwraeth hanesyddol a threftadaeth ddiwylliannol.  

Roedd hyblygrwydd y rhaglen yn ei galluogi i gydbwyso astudiaethau â chyflogaeth, ac mae’n credydu’r staff addysgu cefnogol am gryfhau ei hyder yn y fenter academaidd hon.  

Mae Maggie yn trosoli ei mewnwelediad anthropolegol yn awr yn ei rôl fel Golygydd Newyddion Arweiniol ar gyfer cyhoeddiad adloniant ar-lein, , lle mae byd anthropoleg ac adloniant yn cydblethu. 

Mae ei hadolygiadau a’i herthyglau yn seiliedig ar ei dealltwriaeth o ryngweithiadau a naratifau dynol, gan wella ei sgiliau fel beirniad adloniant.

Menyw yn dal cennin pedr

Dywedodd Maggie:

“Yn fy swydd, rwy’n ymgolli ym myd ffilm a theledu, gan gysylltu â’r gweledigaethwyr y tu ôl iddynt, gan gynnwys actorion, awduron a chyfarwyddwyr. Rwyf wedi canfod bod astudio anthropoleg wedi fy helpu i edrych yn ddyfnach ar eu gwaith ac wedi fy ngwneud yn feirniad llawer gwell, oherwydd yn y bôn, anthropoleg yw astudiaeth pobl - ein hymddygiad a’n rhyngweithio cymdeithasol - a dyna sail pob adrodd straeon.”

Yn ogystal ag adolygu ffilm a theledu, mae Maggie hefyd yn cyfweld ac yn llywio paneli trafod gydag actorion a gwneuthurwyr ffilm, ac mae wedi holi pobl fel Ewan McGregor, seren ‘Game of Thrones’, Maisie Williams, a’r actorion ‘Harry Potter’ Jason Issacs a Matthew Lewis, i enwi ond ychydig.

Tri person yn eistedd ar lwyfan gyda meicroffonau

Dywedodd hi:

“Wrth siarad â’r bobl greadigol hyn, rwy’n cael ymdeimlad eu bod yn gwerthfawrogi dyfnder y dadansoddiad rwy’n ei gymhwyso i’w gwaith. Maent yn atseinio ac yn cysylltu â’r ffordd ddwys rwy’n archwilio naratif a chymeriadau eu prosiectau, sy’n arwain at gyfweliadau sydd nid yn unig yn ddiddorol ond sydd hefyd yn ymgysylltu’n gyfoethog. Mae cymaint o’r hyn rwy’n ei ddefnyddio yn deillio o’r wybodaeth a gefais drwy fy ngradd ôl-raddedig.”

Y tu hwnt i ryngweithiadau enwogion trwy ei swydd dydd i ddydd, mae ysbryd creadigol Maggie’n ffynnu yn ei hysgrifennu’i hun. Mae ei phortffolio personol yn brolio amrywiaeth o weithiau gan gynnwys straeon byrion, a cerddi, a nofelau sy’n rhychwantu genres yn amrywio o ffuglen wyddonol a rhamant i’r goruwchnaturiol. Mae ei doniau ysgrifennu wedi cael eu hanrhydeddu mewn amryw o wyliau ffilm, gan gynnwys Big Apple Film Festival a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Los Angeles.

Menyw gyda gwyneb ar ei breichiau

Dywedodd Maggie:

“Mae cymaint o ddrysau allan yna ar agor i wahanol arddulliau o adrodd straeon ac rwyf wedi gweld bod ysgrifennu yn y cyfryngau wedi dod â chymaint o lawenydd a chyfleoedd i mi. Ond neges bwysig yw nad oes rhaid i chi roi’r gorau i’ch hobïau, gallwch barhau i’w dilyn ar yr ochr a’u gweithio i’ch gyrfa, efallai hyd yn oed un diwrnod ei wneud yn yrfa unig i chi.”


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon