Myfyriwr graddedig yn ymuno â’r Osgordd Frenhinol fel Cadwraethwr Dodrefn
Mae Hannah Evans, a raddiodd yn 2023 o gwrs BA Dylunio Cynnyrch a Dodrefn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi dechrau ar yrfa gyffrous fel Cadwraethwr Dodrefn gyda’r Osgordd Frenhinol.
Yn hanu o Bort Talbot, dechreuodd taith academaidd Hannah yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, lle cwblhaodd ei chymwysterau TGAU a Lefel A. Dewisodd Y Drindod Dewi Sant am ei bod yn agos at ei chartref ac oherwydd y cwrs arbenigol a oedd yn cyd-fynd â’i dyheadau gyrfaol.
Yn ystod ei hastudiaethau yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant, manteisiodd Hannah yn llawn ar y cyfleusterau a’r offer blaengar, y mae’n eu disgrifio fel uchafbwynt ei phrofiad.
Dywedodd: “Fy hoff beth oedd y rhyddid i ddefnyddio’r gweithdy a’r peiriannau. Roedd y gweithle agored yn darparu awyrgylch braf ac ysgogol a oedd yn annog cynhyrchiant a chydweithio.”
Llwybr i’r Osgordd Frenhinol
Yn ystod ei blwyddyn olaf, arddangoswyd doniau Hannah yn arddangosfa New Designers yn Llundain, digwyddiad a fynychir yn rheolaidd gan fyfyrwyr Coleg Celf Abertawe sy’n darparu mewnwelediadau amhrisiadwy i’r diwydiant ac sy’n aml yn arwain at gyfleoedd a chysylltiadau newydd i fyfyrwyr. I Hannah, agorodd y drws i ddatblygu ei sgiliau ymhellach yn y Snowdon School of Furniture sy’n rhan o Sefydliad y Brenin, lle cymerodd ran yn eu rhaglen fawreddog Create. Yno, mireiniodd dechnegau traddodiadol a modern o adfer dodrefn, gan fireinio ei sgiliau llaw a mainc.
Mae arbenigedd Hannah bellach yn cael ei gymhwyso i gynnal a chadw’r dodrefn hanesyddol a gwerthfawr a geir mewn gwahanol Balasau a phreswylfeydd Brenhinol. Mae ei rôl o ddydd i ddydd yn cynnwys adfer eitemau ar gyfer y Casgliad Brenhinol, gyda thasgau’n amrywio o ailosod argaenau a sefydlogi strwythurau i sgleinio â llathrydd Ffrengig, oelio, a cherfio cymhleth. Mae hi hefyd yn defnyddio technegau arbenigol iawn i atal dirywio, gan sicrhau bod pob eitem yn parhau’n gadarn.
Wrth feddwl am ei chyfnod yn y rôl hyd yma, dywed Hannah: “Mae fy mhrofiad wedi bod yn wych. Rwyf nid yn unig wedi ennill gwybodaeth helaeth am gadwraeth dodrefn, ond rwyf hefyd wedi cael y cyfle i arsylwi ar adrannau eraill a chymryd rhan mewn digwyddiadau eraill o fewn y Staff Brenhinol.”
Mae Hannah yn priodoli llawer o’i llwyddiant i’r addysg a’r profiadau a gafodd ar ei chwrs BA Dylunio Cynnyrch a Dodrefn yn Y Drindod Dewi Sant. Dywedodd: “Heb fy ngradd, ni fyddwn wedi cael y cyfle i fod yn rhan o Gwrs Sylfaen y Brenin, sydd wedi fy arwain at fy ngyrfa nawr,” esboniodd.
Rhoi yn ôl
Yn ddiweddar, dychwelodd Hannah i’r Brifysgol i ysbrydoli myfyrwyr presennol drwy rannu ei thaith.
“Roedd hi’n bwysig i mi rannu fy stori oherwydd byddwn i wedi gwerthfawrogi cael y canllawiau hyn pan oeddwn i ar yr un cam â nhw,” meddai. “Roeddwn i eisiau dangos, gyda hyder ac ymrwymiad, y gallwch gyflawni’r hyn rydych chi ei eisiau. Mae profi syndrom y ffugiwr (impostor syndrome) yn iawn, ac mae’n bwysig ymfalchïo ym mhob cyflawniad. Mae’r Drindod Dewi Sant yn rhan o’m taith, ac roeddwn i eisiau rhoi yn ôl drwy gynnig cyngor ac ysbrydoliaeth.”
Mae stori Hannah yn dyst i ansawdd addysg yn Y Drindod Dewi Sant a’r cyfleoedd y mae’n eu darparu. Mae ei chyflawniadau’n adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i feithrin talent ac arwain myfyrwyr tuag at yrfaoedd boddhaus a mawreddog.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;+447482256996