Llyf – archwilio proses a ffurf ffotograffig
Mae Coleg Celf Abertawe PCYDDS yn falch o gyflwyno Llyf – prosiect curadurol sy’n datblygu i archwilio proses a ffurf ffotograffig.
Mae’r arddangosfa i’w gweld yn Stiwdio Griffith, ar gampws Dinefwr y Brifysgol yn Abertawe a daw i ben ar ddydd Iau, Mawrth 21, gyda digwyddiad mewn sgwrs rhwng Folium, Tamsin Green, a Gareth Phillips.
“Fel cyfrwng, mae ffotograffiaeth yn gwrthsefyll categoreiddio ac yn parhau i dreiglo a newid siâp yn unol â phob cyfnod technolegol y daw ar ei draws. Ar ei thaith esblygiadol, mae gallu’r cyfrwng i ‘siarad’ â’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, yn parhau’n sylfaenol i’w ddealltwriaeth.
“Mae ein profiad cyfoes o lif y delweddau yn aml yn teimlo fel presennol tragwyddol, heb unrhyw berthynas â’r gorffennol neu’r dyfodol. Man cychwyn cysyniadol yr arddangosfa hon oedd myfyrio ar ffotograffiaeth fel cyfrwng sy’n ein galluogi i weld beth sy’n mynd yn ddisylw yn aml, trwy ganolbwyntio ar ei pherthynas unigryw â hanes, cof personol a chyfunol, technoleg, perthnasedd, a lle.”
Gan weithio gyda thri artist/cydweithfa ryngwladol, Gareth Phillips, Folium a Tamsin Green dros gyfnod o fis o hyd mae llyf- yn broses guradurol sy’n datblygu dros amser drwy sgwrs rhwng staff yr Adran Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe a’r artistiaid sy’n arddangos. . Mae’r sgyrsiau hyn wedi myfyrio ar y ffurfiau amlochrog y mae ffotograffiaeth yn eu cymryd ac yn amlygu natur safle-benodol ymateb i hanes y safle arddangos; Stiwdio Griffith fel hen lyfrgell a llestr gwybodaeth.
Er bod gwaith pob artist yn mynd i’r afael â chyd-destun cysyniadol gwahanol, maent yn cael eu dwyn ynghyd trwy awydd i herio paramedrau’r cyfryngau, i gwestiynu ei ‘ymylon’ a’i wthio tuag at orwelion cynrychioliadol newydd.
Yn llyf- mae ystyr yn cael ei siapio gan y cyd-destunau lluosog y mae gwaith celf yn dod i’r fei, trwy wneud llyfrau, print traddodiadol ac arbrofol, fideo, cerflunwaith, a gosodwaith.
Mae PCYDDS yn gyntaf yng Nghymru am Ffotograffiaeth ac yn 4ydd yn y DU yn Nhabl Cynghrair y Guardian 2024.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071