Gŵyl Ffilmiau Antur newydd i’w chynnal yng Nghanolfan S4C Yr Egin
Fe fydd Canolfan S4C Yr Egin yn croesawu’r gwanwyn wrth lwyfannu Gŵyl Ffilmiau Antur Yr Egin. Fe’i cynhelir yng Nghaerfyrddin ar 20–23 Mawrth yn y ganolfan sydd â’r nod o wasnaethu Cymru, tanio ei dychymyg creadigol a meithrin talentau’r dyfodol.
Yn ddigwyddiad arloesol, wedi ei lleoli yn y gorllewin, fe fydd yr Ŵyl Ffilmiau Antur yn agored i bawb, boed yn anturiaethwyr brwd, yn unigolion sy’n mwynhau chwaraeon awyr agored neu’n anturiaethwyr tywydd teg sy’n gwerthfawrogi stori dda.
Nod yr ŵyl yw dathlu’r gorau o blith yr anturiaethwyr a’r crewyr cynnwys sy’n dangos y byd antur ar ei gorau. Fe fydd y ffilmiau’n cael eu dangos ar y sgrin fawr yn yn y theatr yng Nghanolfan S4C Yr Egin yn ystod yr ŵyl.
Yn ŵyl wyneb yn wyneb ac ar-lein, wedi ei hariannu gan Ffilm Cymru, fe fydd cyfle i westeion fwynhau detholiad o ddangosiadau ffilm a sgyrsiau, yn ogystal â chlywed gan arbenigwyr yn y maes.
Ymhlith y siaradwyr gwadd y mae Tori James – Y Gymraes gyntaf erioed i ddringo Mynydd Everest, Mari Huws – warden Ynys Enlli a Huw Erddyn – Cyfarwyddwr Teledu Cwmni Da.
Cefnogir diwrnod agoriadol yr ŵyl, Mercher 20fed Mawrth, gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe fydd yn gyfle i fyfyrwyr prifysgolion a cholegau ledled y wlad ddod ynghyd ar gyfer cynhadledd antur a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar sut mae ymateb i heriau’r hinsawdd.
Trwy gydol yr ŵyl fe fydd dangosiadau o ffilmiau arloesol gan anturiaethwyr a chwmnïau arbennig megis Coldhouse Collective, Summit Fever Media a Cwmni Da, yn ogystal â chyfle unigryw i fynychu gweithdai ffilm i ddysgu hanfodion beth sy’n gwneud ffilm wych.
Un o agweddau mwyaf cyffrous yr ŵyl i anturiaethwyr uchelgeisiol, boed yn wneuthurwyr ffilm, myfyrwyr, ysgolion, unigolion creadigol neu’n grwpiau cymunedol, yw’r cyfle i gyflwyno gwaith newydd yng nghystadleuaeth Gŵyl Ffilmiau Antur Yr Egin.
Fe fydd panel feirniadu yn gwylio’r holl ffilmiau a gyflwynwyd i Wŷl Antur Yr Egin ac yn gyfrifol am gyflwyno enillwyr ar gyfer y categorïau canlynol:
- Ysbryd Antur
- Ymateb i heriau hinsawdd
Bydd y gystadleuaeth yn agored i ffilmiau o unrhyw fath a hyd sy’n gystylliedig a’r categorïau uchod.
Ymhlith y gwobrau y bydd Y Ffilm Artistig Gorau, Y Trac Sain Gorau, Y Ffilm Gorau yng Nghymru a’r Ffilm Gorau Tu Hwnt i Gymru.
Dyddiad cau y gystadleuaeth yw Gwener 23ain Chwefror ac fe fydd enillwyr yr holl gategorïau yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr ŵyl.
Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin; “Mae’n bleser ac yn anrhydedd cael cyhoeddi ein bod ni’n paratoi at Ŵyl Ffilmiau Antur Yr Egin.
“Mae gorllewin Cymru yn ganolbwynt i chwaraeon awyr agored a pha le gwell i gynnal gŵyl o’i math nag yma yng Nghanolfan S4C Yr Egin.
“Yn ogystal â chroesawu nifer o anturiaethwyr profiadol Cymru i’r ŵyl i rannu eu profiadau gyda’r gynulleidfa, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld gwaith newydd gan ddarpar anturiaethwyr a chynhyrchwyr ffilm.
“Dyma gyfle arbennig i ni ddathlu ac ymhyfrydu yn ein talent lleol a roi sylw haeddianol i’n tirwedd a’n anturiaethwyr ar y sgrin fawr.”
Fe fydd tocynnau i’r ŵyl ar werth o ddydd Iau 1af Chwefror yma.
Nodyn i’r Golygydd
Mae Canolfan S4C Yr Egin (Yr Egin) yn ganolfan greadigol a digidol wedi’i lleoli ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Roedd datblygiad Yr Egin yn bartneriaeth rhwng y Brifysgol, S4C, Llywodraethau Cymru a’r DU, Cyngor Sir Caerfyrddin a’r sector creadigol. Agorwyd y ganolfan yn 2018.
Cynhyrchodd Yr Egin effaith economaidd o £21.6m yn economi Cymru yn 2022-23 ac effaith economaidd o £7.6m yn economi Sir Gaerfyrddin yn 2022-23.
Roedd cyfanswm o 174.5 o staff yn cael eu cyflogi yn Yr Egin ym mis Medi 2023, gydag ychydig dros hanner ohonynt (102 o staff) yn byw yn Sir Gâr.
Darperir cyfleoedd yng nghanolfan Yr Egin i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a’u profiad drwy gynnig cyfleoedd profiad gwaith, clybiau sgiliau ac hyfforddiant yn y ganolfan yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o yrfaoedd a’r byd gwaith ymhlith disgyblion ysgol drwy weithgarwch allgymorth.
Am fwy o wybodaeth am yr ŵyl, cysylltwch â ni ar helo@yregin.cymru neu ffoniwch 01267 611 600.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476