ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae mam o Bort Talbot wedi cael ei hysbrydoli i fynd i’r brifysgol ar ôl cymryd rhan mewn rhaglen ehangu mynediad yn ei chymuned ei hun.

Port Talbot widening access group photo in blue graduation gowns

Derbyniwyd Liz Watkins i raglen Gradd Sylfaen Addysg Gynhwysol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar ôl cwblhau cyfres o gyrsiau camu ymlaen a gynigir gan y brifysgol, a gynyddodd ei hyder a’i sgiliau, gan ei pharatoi ar gyfer addysg uwch.

Mae adran Ehangu Mynediad PCYDDS yn ymgysylltu ag unigolion ledled de orllewin Cymru, o blant ysgol gynradd i oedolion. Nod eu gwaith yw codi dyheadau a chael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl rhag cael mynediad i addysg uwch a chyfleoedd dysgu pellach.

Dywedodd Donna Williams, swyddog Ehangu Mynediad yn PCYDDS, “Dechreuais weithio yng nghymuned Port Talbot ym mis Mawrth 2023, gan ddarparu cwrs llesiant pedair wythnos o’r enw Byw Bywyd i’r Eithaf, yn seiliedig ar egwyddorion therapi ymddygiad gwybyddol.

Dyma pryd wnes i gyfarfod Liz gyntaf. Roedd hi’n dawel i ddechrau, ond cymerodd ran yn dda, ac roedd yn wych gweld ei hyder yn cynyddu bob wythnos wrth iddi gofleidio’r hyn a ddysgodd. Ers cwblhau’r cwrs cychwynnol hwn, mae Liz wedi dilyn tri chwrs pwnc arall o fewn ein rhaglen dysgu oedolion.

Cadarnhaodd y cwrs pedair wythnos Cyflwyniad i’r Blynyddoedd Cynnar ei hawydd i ddatblygu ei haddysg yn y maes hwn. Ym mis Gorffennaf 2023, mynychodd Liz a chyfranogwyr eraill o Dde Orllewin Cymru ddigwyddiad Dathlu Graddio yn Abertawe, lle gwnaethom gydnabod eu cyflawniadau gyda thystysgrifau. Roedd profi seremoni raddio wedi ysbrydoli Liz i barhau â’i hastudiaethau a dilyn ei breuddwyd o fynd i’r brifysgol.

Rwy’n hynod falch o gynnydd Liz dros yr 16 mis diwethaf; mae ei hyder wedi ffynnu, ac mae’r cyrsiau wedi’i galluogi i nodi ei chryfderau a gwneud penderfyniadau gwybodus am ei dyfodol. Edrychaf ymlaen at ei gweld ar Gampws Glannau Abertawe ym mis Medi.”

Rhannodd Liz Watkins ei phrofiad, “Fe wnes i fwynhau’r cwrs Byw Bywyd i’r Eithaf yn fawr iawn, a wnaeth i mi ystyried fy sgiliau a lle rwy’n gweld fy hun yn y dyfodol.

Roedd holl gyrsiau camu ymlaen y Drindod Dewi Sant yn bleserus ac yn fy annog i roi cynnig ar bethau newydd. Cadarnhaodd y cwrs Blynyddoedd Cynnar fy awydd i ddilyn gyrfa yn gweithio gyda phlant, gan fy arwain i gwblhau fy nghymwysterau Lefel 2 a 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD). Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r cyrsiau wedi rhoi hwb i fy hyder, ac mae Donna wedi gwneud i mi deimlo’n groesawgar ac wedi fy annog i fachu ar bob cyfle. Wnes i erioed ddychmygu flwyddyn yn ôl y byddwn i’n cael fy nerbyn i astudio yn y brifysgol. Mae fy mhlant a fy nheulu estynedig yn falch iawn o fy nghyflawniadau. Rydw i eisiau dangos i fy mhlant y gallwch chi gyflawni unrhyw beth os ydych chi’n credu ynoch chi’ch hun.”

Dywedodd Sarah Walters, cyflwynydd gweithdai Cymunedol Blynyddoedd Cynnar PCYDDS a chyn-fyfyriwr, “Un o’r agweddau mwyaf gwerth chweil ar gyflwyno gweithdai yn y gymuned yw gweld yr effaith gadarnhaol ar hyder dysgwyr. Efallai nad yw llawer o unigolion wedi ystyried prifysgol fel opsiwn, ond trwy ddysgu a arweinir gan y gymuned, mae PCYDDS yn ysbrydoli llwybrau amrywiol i addysg uwch. Rwy’n falch iawn o Liz, a fynychodd lawer o’n cyrsiau ac a gyflawnodd ei Lefel 3 mewn CCPLD wedyn, gan ei harwain i wneud cais am y Radd Sylfaen yn PCYDDS.”

Mae’r rhaglenni Gradd Sylfaen seiliedig ar waith (FdA) mewn Addysg Gynhwysol a’r rhaglenni BA Addysg Gynhwysol Atodol yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr anhraddodiadol ddatblygu sgiliau yn eu hamgylcheddau gwaith, fel ysgolion. Mae’r rhaglenni hyn yn darparu ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu na fyddant efallai’n gallu mynychu darlithoedd yn ystod y dydd oherwydd ymrwymiadau gwaith neu deuluol. Traddodir darlithoedd gyda’r nos ar Gampws Abertawe ac yng nghymuned Penfro, gydag opsiynau ar gyfer cyfranogiad o bell.

Mae’r rhaglenni FdA a BA Addysg Gynhwysol yn dilyn strwythur dysgu cyfunol, gyda 50% o gyfarwyddyd wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth a 50% yn dysgu ar-lein. Mae sesiynau dosbarth hefyd ar gael o bell trwy Teams, a chaiff darlithoedd eu recordio ar gyfer myfyrwyr na allant fynychu sesiynau byw. Mae’r rhaglenni hyn yn cefnogi’r rhai sy’n dychwelyd i addysg neu’n ansicr o’u gallu i astudio ar lefel uwch. Mae cymorth bugeiliol yn elfen hollbwysig, gan roi anogaeth ac arweiniad i’n carfannau o fyfyrwyr anhraddodiadol.

Dywedodd Cindy Hunt, Rheolwr Rhaglen a Darlithydd Addysg Gynhwysol, “Roedd yn wych cwrdd â Liz cyn iddi wneud cais i astudio yn PCYDDS ac i weld ei hymroddiad i ddatblygiad proffesiynol. Edrychaf ymlaen at weld ei chynnydd yn y rhaglen Gradd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol yn dechrau ym mis Medi. Bydd Liz yn datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, a’r sgiliau myfyriol sydd eu hangen i weithio gydag ystod eang o ddysgwyr ac ennill nifer o sgiliau hanfodol ar gyfer y system addysg. Croeso i chi, Liz!

Ewch i wefan PCYDDS i ddarganfod mwy am Raddau Sylfaen y brifysgol:

/cy/cyrsiau/radd-sylfaen


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
ô:&Բ;07384&Բ;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon