Darlithwyr Blynyddoedd Cynnar, Canolfan Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn ennill grant Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae darlithwyr Blynyddoedd Cynnar o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi ennill grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnal cyfres o weithdai chwarae a dysgu ymarferol ar gyfer myfyrwyr o’r 6ed dosbarth a Cholegau Addysg Bellach.
Prosiect ar y cyd rhwng y Brifysgol a Phanel Astudiaethau Addysg, Plentyndod ac Ieuenctid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw hwn lle maent yn gweithio ar draws sefydliadau Addysg Uwch sy’n cynnig cyrsiau Plentyndod, Addysg a Ieuenctid. Mae’r prosiect yn ariannu ymweliadau a Cholegau Addysg Bellach, chweched dosbarth a chyrsiau prentisiaeth er mwyn cynnig gweithdai ymarferol sy’n rhoi blas ar Addysg Uwch ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Pwrpas y gweithdai yw rhoi’r cyfle i fyfyrwyr archwilio’r cysylltiadau rhwng chwarae a dysgu ymarferol o ran addysg a lles plant a phobl ifanc. Mae’r gweithdai yn cefnogi cyrsiau megis Gofal Plant, Iechyd a Gofal, Seicoleg, ac yn cefnogi nodau’r Cwricwlwm Newydd ar gyfer Cymru 2022 sy’n annog dysgu drwy ddarganfod a chwilfrydedd.
Mae’r gweithdai wedi ymweld â nifer o ardaloedd o gwmpas Cymru, ac maent wedi profi i fod yn fuddiol iawn.
Yn ystod y gweithdai, mae myfyrwyr wedi derbyn arweiniad ar chwarae ymarferol gyda sachau stori, basgedi trysor a gweithdai celf. Mae’r gwaith ymarferol hefyd yn cefnogi’r trafodaeth academaidd a damcaniaeth sy’n rhan annatod o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
Dywedodd Glenda Tinney, Tiwtor Derbyn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar y Brifysgol:
“Mae wedi bod yn grêt ymweld gyda myfyrwyr a chynnig cyfle gweld budd a chyfleoedd astudio yn y Gymraeg. Rydym hefyd wedi gwerthfawrogi y cyfle i weithio ar draws y sector Addysg Uwch gyda chyfleoedd cyd-gynllunio a chyd-cyflwyno’r gweithdai.
“Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yn hyn, gyda myfyrwyr yn nodi bod y sesiynau yn hwyl, yn cefnogi eu dealltwriaeth ac yn datblygu syniadau am bwysigrwydd chwarae i ddatblygiad cyfannol plentyn.”
Ychwanegodd Natasha Jones, Darlithydd Blynyddoedd Cynnar y Drindod Dewi Sant:
“Nod y gweithdai yma i mi oedd ymroi dealltwriaeth well o beth i ni fel prifysgol yn gallu cynnig i’m myfyrwyr, o fewn ein cymuned glos Cymraeg. Nid yn unig oedd y gweithdai yma yn gyfle i ddatblygu gwybodaeth yn seiliedig ar chwarae, ond hefyd yn gyfle gwych i ddefnyddio’r iaith a chodi hyder wrth wneud. Braf oedd gweld unigolion yn cael hwyl wrth ddysgu, ac rydym yn awyddus o allu agor drysau iddynt yn ei dyfodol gyda’r iaith Cymraeg yn ei arwain.”
Meddai Sian Dickie, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:
“Roedd yn gyfle gwych i ymweld â gwahanol ysgolion uwchradd a cholegau i drafod yr hyn rydym yn ei gynnig yn y Drindod ac i roi rhagflas o’r hyn y mae ein cyrsiau addysg yn ei chynnwys. Erbyn diwedd y sesiynau, rydw i wir yn teimlo ein bod ni wedi gwneud argraff ac wedi helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau addas ar gyfer eu dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476