Cyn-fyfyrwraig yn cyfuno Technoleg ac Anthropoleg mewn cyhoeddiad newydd
Llongyfarchiadau i’r cyn-fyfyrwraig, Lianne Potter (MA Anthropoleg Ymgysylltiedig, 2017) ar ryddhau ei gwaith diweddaraf yn ddiweddar, pennod yn yr antholeg EmTech Anthropology: Careers at the Frontier, a gyhoeddwyd ym mis Awst.
Mae’r llyfr yn archwilio croestoriad anthropoleg a meysydd technoleg sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys mewnwelediad gan anthropolegwyr, megis Lianne, sy’n llunio dyfodol diwydiannau megis Deallusrwydd Artiffisial, roboteg, a seiberddiogelwch.
A hithau’n dechnolegydd ac yn weithiwr proffesiynol ym maes seiberddiogelwch, mae pennod Lianne, ‘Towardsan Anthro-Centric Cybersecurity,’ yn tynnu ar ei chefndir academaidd i gyflwyno ymagwedd sy’n canolbwyntio ar bobl ym maes technoleg, gan roi sylw i ddeinameg ddiwylliannol y modd rydym yn rhyngweithio â thechnoleg yn ein bywydau pob dydd.
Drwy gymhwyso’r egwyddorion a’r dulliau ymchwil a ddysgwyd ar ei gradd Meistr Anthropoleg Ymgysylltiedig, mae Lianne yn canolbwyntio ar y modd y gall dealltwriaeth anthropolegol gyfoethogi arferion seiberddiogelwch yn sylweddol. Mae’n pwysleisio er yr ystyrir technoleg yn aml yn brif amddiffyniad yn erbyn tor diogelwch data, ni ddylid anghofio’r elfen ddynol sy’n gyfrifol am 85-95% o ddigwyddiadau diogelwch.
Meddai Lianne: “Yn rhy aml ym maes seiberddiogelwch, byddwn yn canolbwyntio ar y dechnoleg i ddarparu’r rhan fwyaf o’r amddiffyniad ar gyfer ein data sensitif. Fodd bynnag, o’r braidd y gall y rheini ohonom sy’n gweithio yn y diwydiant seiberddiogelwch fforddio esgeuluso’r ffaith bod diwylliant seiberddiogelwch, yn enwedig ynghylch cyfathrebu a gweithredu rheolaeth diogelwch, yn bwysig dros ben o ran lleihau’r tebygolrwydd o ddigwyddiadau diogelwch a lleihau eu heffaith.
Yn ei phennod, mae Lianne hefyd yn rhannu’i thaith o’r byd academaidd i ddiwydiant, gan gynnig cyngor ymarferol ar gyfer cymhwyso dulliau anthropolegol mewn byd sy’n cael ei yrru gan dechnoleg. Lluniwyd ei gwaith i ysbrydoli graddedigion a gweithwyr proffesiynol anthropoleg sydd â diddordeb mewn pontio’r bwlch rhwng y Dyniaethau a thechnoleg.
Mae EmTech Anthropology: Careers at the Frontier yn dilyn cyfraniad blaenorol Lianne i The Rise of the Cyber Women: Volume 2 (Lisa Ventura MBE, gol.), lle archwiliodd am y tro cyntaf rôl ymagweddau sy’n canolbwyntio ar bobl ym maes seiberddiogelwch.
Mae’r llyfr ar gael nawr ac mae modd ei brynu yn
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;+447482256996