Cyn-fyfyriwr yn ennill gwobr Person Busnes Ifanc y Flwyddyn
Rydym yn falch o ddathlu llwyddiant ein cyn-fyfyriwr Ken Pearce, sylfaenydd y cwmni argraffu 3D, , sydd wedi cael ei enwi’n Berson Busnes Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2024, cydnabyddiaeth sy’n amlygu ei daith entrepreneuraidd a thwf trawiadol ei gwmni.
Ac yntau’n wreiddiol o Gasnewydd, argraffu arwyddion oedd cychwyn gyrfa Ken, ond gyda diddordeb brwd mewn argraffu 3D, roedd am wella ei sgiliau ymhellach trwy archwilio ffiniau technolegol newydd.
Fe’i arweiniwyd at y Drindod Dewi Sant i ddilyn cwrs mewn BSc Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg, bellach , lle roedd yn gallu integreiddio argraffu 3D i’w astudiaethau gan ddefnyddio arbenigedd darlithwyr a defnyddio
Dechreuodd ei daith entrepreneuraidd yn ei sied ardd yn 2020 ar ddiwedd ei astudiaethau, gan greu tariannau wyneb i weithwyr iechyd yng nghanol y pandemig.
Dywedodd Ken: “Dechreuodd fel hobi yn gwneud eitemau i deulu a ffrindiau, ond wnaeth y profiad o greu tariannau wyneb agor fy llygaid i botensial enfawr argraffu 3D fel ateb i broblemau’r byd go iawn, ac fe wnaeth hyn fy ysbrydoli i sefydlu Lunia 3D.â€
O’r dechreuadau diymhongar hyn, mae Lunia 3D wedi esblygu i wasanaethu amrywiaeth o ddiwydiannau, o adfer ceir clasurol a modelu pensaernïol i brosiectau addysgol.
Meddai Ken: “Rydym wedi bod yn ffodus i weithio gyda chleientiaid proffil uchel fel FIFA, Christian Louboutin, a’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae’r prosiectau hyn yn dangos amlochredd a photensial argraffu 3D.â€
Mae Lunia 3D hefyd yn ymroddedig i ehangu hygyrchedd argraffu 3D drwy lansio ystod o weithdai addysgol, gan gynnig cyfle i bobl o bob oedran a chefndir ddysgu sgiliau’r dyfodol. Mae’r agwedd arloesol hwn wedi cyfrannu’n fawr at lwyddiant Ken, gan arwain at iddo ennill gwobr Person Busnes Ifanc y Flwyddyn.
Mae Gwobrau Busnes Caerdydd yn dathlu busnesau eithriadol ym mhrifddinas Cymru, ac mae’r buddugoliaeth hon yn anrhydedd arall iddo yn y rhestr gynyddol o gyflawniadau. Ynghyd â’i bartner busnes a’i hen ffrind ysgol, Yousef Ahmed, mae Ken wedi ennill nifer o wobrau mawreddog ar gyfer Lunia 3D gan gynnwys cydnabyddiaeth gan Wobrau STEM Cymru, Gwobrau Busnes Bro Morgannwg a Gwobrau Cychwyn Busnes Cymru 2023. Eleni, o ganlyniad i ymroddiad Ken i entrepreneuriaeth, daeth yn feirniad rhanbarthol ar gyfer Gwobrau StartUp UK.
Meddai Ken:
“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill Person Busnes y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd. Mae hon yn garreg filltir mor enfawr i mi a Lunia 3D ac rwy’n ddiolchgar tu hwnt i bawb sydd wedi ein cefnogi ar hyd y ffordd. Mae gweld ein gwaith caled yn cael ei gydnabod yn atgof pwerus o ba mor bell yr ydym wedi dod. Nid yw’r wobr hon yn ymwneud â’r gorffennol yn unig—mae’n gymhelliant ar gyfer y dyfodol.â€
Chwaraeodd cyfnod Ken yn Y Drindod Dewi Sant ran hanfodol wrth ei siapio ef a’i gwmni. Dyweodd: “Roedd y gefnogaeth ges i gan y staff yn amhrisiadwy. Rwy’n dal i gysylltu â fy narlithwyr a’m tiwtoriaid, sydd wedi bod yn eiriolwyr gwych dros y busnes. Mae eu hanogaeth hyd yn oed wedi ein helpu i sicrhau prosiectau drwy gymeradwyaeth y brifysgol.â€
Wrth i fusnes Ken barhau i ffynnu, mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod wedi chwarae rhan ar ei daith ac yn edrych ymlaen at weld cerrig milltir Lunia 3D yn y dyfodol.
Mae ymrwymiad y Brifysgol i feithrin arloesedd ac entrepreneuriaeth yn amlwg wrth iddi gael ei chydnabod yn un o’r prifysgolion gorau am gefnogi busnesau newydd gan raddedigion. Tystir i hynny wrth iddi gyrraedd y brig am gymorth i fusnesau yn Arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch - Busnes a Chymuned 2022/23. Parhawn i feithrin arloeswyr y dyfodol fel Ken, gan arfogi myfyrwyr â’r sgiliau sydd eu hangen i droi syniadau creadigol yn fentrau llwyddiannus.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;+447482256996