ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o longyfarch myfyriwr graddedig  BSc ʱԲïٳ 2024, Drew Dennehy ar ei lwyddiant diweddar yng Ngwobrau Myfyrwyr Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW) 2024.

Student standing in front of drawing of urban vertical farm

Mae Gwobrau Myfyrwyr RSAW yn ddathliad blynyddol o fyfyrwyr pensaernïaeth yng Nghymru, gyda’r nod o gydnabod a gwobrwyo’r dalent fwyaf disglair, a thynnu sylw at brosiectau arloesol sy’n gwthio ffiniau dylunio a chynaliadwyedd. 

Enillodd Drew Wobr Myfyrwyr RSAW am ei fferm fertigol drefol acwaponeg. Ers graddio’r haf hwn, mae wedi dechrau gweithio fel Cynorthwyydd Pensaernïol Rhan 1 yn KTA Architects yng Nghaerwys.   Roedd y prosiect a gafodd ei greu ar gyfer ei sioe radd blwyddyn olaf yn rhagorol. Roedd nid yn unig wedi arddangos ei dalent a’i greadigrwydd, ond hefyd wedi tynnu sylw at rôl pensaernïaeth wrth fynd i’r afael â mater cyflenwad bwyd cynaliadwy.  

Mae’r strwythur ei hun yn ymarferol ac yn drawiadol yn weledol, gyda grisiau cyhoeddus sy’n caniatáu i ymwelwyr ymgolli yn y broses ffermio. Canmolodd y beirniaid y prosiect fel un ‘arloesol’, gan bwysleisio’r elfennau dylunio meddylgar sy’n cyfuno addysg ag estheteg yn ddi-dor.  

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dathlu taith dwf ryfeddol Drew fel dylunydd ac fel unigolyn, yn enwedig gan mai ef oedd y cyntaf yn ei deulu i fynychu’r brifysgol a goresgyn nifer o heriau i ddilyn ei freuddwyd o astudio pensaernïaeth.

Mae ei gyflawniad yn rhan o lwyddiant ehangach i’r Drindod Dewi Sant yng Ngwobrau Myfyrwyr RSAW lle cafodd dau gyn-fyfyriwr arall, Ben Steward a Victoria Weeks, ganmoliaeth am eu prosiectau eithriadol. 

Tri dyn yn sefyll o flaen sgrin yn dweud Gwobrau RSAW
Yn y llun o'r chwith i'r dde: Ryan Stuckey, Uwch Ddarlithydd ʱԲïٳ; Drew Dennehy, Enillydd y Wobr; Gavin Traylor; Darlithydd mewn ʱԲïٳ ac Adeiladu

Ar y cwrs BSc ʱԲïٳ, daeth Drew o hyd i gymuned fywiog lle’r oedd cystadleuaeth frwd ond roedd cefnogaeth bob amser wrth law.  

Dywedodd: “Mae’r darlithwyr a’r myfyrwyr yn wych. Mae’r cyfnod un-i-un gyda’r darlithwyr, wyneb yn wyneb ac ar-lein, wedi bod yn amhrisiadwy ac yn rhywbeth sy’n unigryw i’r Brifysgol hon.  

“Yn y dosbarth, mae gwir ymdeimlad o gyfeillgarwch - mae pawb eisiau bod ar eu gorau, ond rydyn ni hefyd yn rhannu’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu. Rydym wedi ffurfio cyfeillgarwch parhaol ac mae gweld pawb yn datblygu wedi bod yn un o’r uchafbwyntiau i mi.” 

Roedd ei ymrwymiad i ddysgu yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, gan iddo gynrychioli’r Drindod Dewi Sant yn nigwyddiad WorldSkills UK ar gyfer adeiladu digidol. Yn ogystal, cymerodd ran yng nghynllun mentoriaeth RSAW gan ennill profiad a mewnwelediadau amhrisiadwy gan arferion pensaernïol enwog fel Powell Dobson.  

Ynglŷn â derbyn y wobr, dywedodd Drew: “Roedd yn anrhydedd i mi dderbyn y wobr ochr yn ochr â chymaint o brosiectau gwych a grëwyd gan fy nghyfoedion.

“Roedd y fferm fertigol yn gysyniad heriol a aeth y tu hwnt i estheteg, gan fynd i’r afael ag ystyriaethau llawer dyfnach. Er mwyn i bensaernïaeth fod yn wirioneddol gynaliadwy, rhaid iddi roi cyfrif am effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ei hadeiladu a’i chynnal, rhywbeth yr oedd y prosiect hwn yn gyfarwydd iawn ag ef.

“Ers dechrau yn fy rôl, rwyf wedi dysgu pa mor heriol y gall fod i gynnal y gwerthoedd hyn wrth wynebu cleientiaid a phwysau peirianneg gwerth. Roedd yn werth chweil ailymweld â’r prosiect hwn a chael cydnabyddiaeth i’w weledigaeth.”


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;+447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon