Cydnabod Gwasanaeth Nodedig: Maria Stedman yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan PCYDDS
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi bod Maria Stedman wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd.
Cyflwynwyd yr anrhydedd mawreddog hwn yn ystod y seremoni raddio heddiw, i ddathlu cyfraniadau eithriadol Maria i gyllid cyhoeddus, addysg a llywodraethu.
Yn ystod y seremoni, dywedodd Sarah Clark, Clerc Cyngor y Brifysgol: “Mae’n bleser mawr i mi gyflwyno Maria Stedman ar gyfer y Gymrodoriaeth er Anrhydedd hon. Mae Maria wedi dangos ymrwymiad diwyro ac arweinyddiaeth eithriadol drwy gydol ei gyrfa. Mae ei chyfraniadau wedi cael effaith ddofn, ac rydym wrth ein bodd yn cydnabod ei hymroddiad a’i chyflawniadau heddiw.â€
Ganed Maria Stedman yn Llundain i rieni Cymreig ac yn ddiweddarach symudodd i Gymru, lle cafodd ei magu mewn awyrgylch ddwyieithog. Mynychodd yr ysgol yng Nghaerfyrddin ac i ddechrau dilynodd radd mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn darganfod ei gwir angerdd am gyllid cyhoeddus a llywodraethu. Dechreuodd ei gyrfa yng Nghyngor Sir Dyfed, lle sylweddolodd ei brwdfrydedd dros y maes. Yn benderfynol o ddatblygu ei chymwysterau, cwblhaodd OND mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr ac yn ddiweddarach enillodd gymhwyster cyfrifeg proffesiynol gyda CIPFA - Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth.
Mae gyrfa ddisglair Maria yn cynnwys uwch rolau yng Nghynghorau Sir Dyfed a Chaerfyrddin ac fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi wedi bod yn ymwneud yn weithgar â rhwydweithiau proffesiynol ac wedi cyflawni rolau gwirfoddol amrywiol o fewn CIPFA. Ar ôl datganoli, fe’i penodwyd yn Bennaeth CIPFA Cymru, lle sefydlodd y swyddfa Gymreig a gwella statws proffesiynol y rheini ym maes cyllid cyhoeddus ymhellach.
Ers ymddeol, mae Maria wedi parhau i gyfrannu drwy nifer o rolau gwirfoddol, gan gynnwys llywodraethwr ysgol, trysorydd yr Å´yl Ffilmiau Celtaidd Rhyngwladol, aelod o Bwyllgor Archwilio Comisiynydd y Gymraeg, ac Is-Gadeirydd Ffederasiwn Lleol Ysgolion Cynradd. Mae’n cydbwyso’r rolau hyn gyda’i bywyd teuluol ac fel nain i wyth o wyrion ac wyresau.
Dechreuodd cysylltiad hir Maria â’r Brifysgol dros 20 mlynedd yn ôl, pan yr oedd yn cael ei adnabod fel Coleg y Drindod. Wedi hynny fe’i penodwyd i Gyngor PCYDDS, lle bu’n gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ac Is-Gadeirydd i Randolph Thomas nes i’r ddau roi’r gorau iddi yn 2023. Estynnodd ei harweinyddiaeth i fyrddau llywodraethu colegau partner y Brifysgol, Coleg Sir Gâr a’r Coleg Ceredigion, lle daeth yn Gadeirydd yn 2015.
Wrth dderbyn y wobr, mynegodd Maria Stedman ei diolchgarwch, gan ddweud, “Mae’n anrhydedd mawr cael fy nghydnabod gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae gan y sefydliad hwn le arbennig yn fy nghalon, ac rwy’n hynod ddiolchgar am y gydnabyddiaeth hon. wedi bod yn fraint cael cyfrannu at fy maes a fy nghymuned, ac edrychaf ymlaen at barhau i gefnogi PCYDDS mewn unrhyw ffordd y gallaf.â€
Daeth Sarah Clark i’r casgliad: “Mae cyfraniadau Maria Stedman i’w phroffesiwn a’i chymuned yn wirioneddol ryfeddol. Mae’n anrhydedd i ni gyflwyno’r Gymrodoriaeth er Anrhydedd hon iddi, ac rydym yn ddiolchgar am ei chefnogaeth barhaus a’i hymroddiad i PCYDDS.â€
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467076