ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn falch o gyhoeddi enillwyr gwobrau Cronfa Dreftadaeth Y Werin Prifysgol Cymru am gyfraniadau ysgolheigaidd nodedig ym meysydd llenyddiaeth, y gyfraith a llawysgrifau.

External image of CAWCS building in Aberystwyth which is a white square building with a lawn in front
Headshot image of Paul Russell with bookshelf behind
Yr Athro Paul Russell

Cyflwynir Gwobr Hywel Dda 2023 i’r Athro Paul Russell am ei gyhoeddiadau niferus ar Gyfraith Hywel a’i gyfraniad oes i’r maes. Diddordebau ymchwil yr Athro Russell yw Cyfraith Hywel, testunau dysgedig mewn ieithoedd Celtaidd (yn enwedig geirfâu Gwyddeleg cynnar), ieitheg ac ieithyddiaeth Geltaidd, orgraff Cymraeg cynnar, cyfieithiadau Cymraeg Canol, testunau gramadegol, hagiograffeg, a thestunau Lladin o Gymru’r Oesoedd Canol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme o’r enw ‘The Writings of Gerald of Wales’.

Meddai Paul Russell: ‘Rwyf wrth fy modd; mae Gwobr Hywel Dda yn ffordd bwysig o atgoffa pobl o bwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol Cyfraith Hywel.’

Daw’r wobr hon o incwm cronfa a godwyd drwy danysgrifiadau cyhoeddus i goffáu dathlu milflwyddiant Hywel Dda ym 1928. Rhoddir y wobr i bwy bynnag a wnaeth fwyaf i helaethu gwybodaeth am gyfraith a defod y Cymry yn yr Oesoedd Canol, neu a wnaeth fwyaf i daflu goleuni ar eu tarddiad a’u hanes a’r iaith a’r llawysgrifau sy’n ymwneud â hwynt.

Headshot of image of Professor Ann Parry Owen with fields and houses in background
Yr Athro Ann Parry Owen

Dyfernir Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith 2023 i’r Athro Ann Parry Owen am ei chyfrol Geirfâu’r Fflyd, 1632–1633: Casgliad John Jones, Gellilyfdy o Eiriau’r Cartref, Crefftau, Amaeth a Byd Natur (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2023).  Mae’r Athro Ann Parry Owen wedi bod yn aelod o staff y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ers 1 Hydref 1985. Bu’n Gymrawd Ymchwil ar brosiect ‘Beirdd y Tywysogion’ a hi oedd arweinydd prosiect ‘Beirdd yr Uchelwyr’ a phrosiect ‘Guto’r Glyn’. Bu’n Gyd-Archwilydd ar brosiectau ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’, ‘Tirweddau Cysegredig Mynachlogydd yr Oesoedd Canol’, a ‘Barddoniaeth Myrddin’. Ers 2017 mae’n Olygydd HÅ·n gyda Geiriadur Prifysgol Cymru, ac mae’n ymddiddori yn hanes cynnar geiriau, a geirfa’r beirdd yn benodol. 

Meddai’r Athro Parry Owen: ‘Rwy’n hynod o falch ac yn ddiolchgar i’r beirniaid. Mae’r gyfrol hon yn agos iawn at fy nghalon – dyma oedd fy mhrosiect cyfnod clo yn ystod y pandemig, ac fe ges i gymaint o bleser yn gweithio arni ac yn ei chynllunio. Dysgais bob math o bethau difyr am bob math o bynciau wrth ymchwilio i hanes y geiriau a’u hystyron, gan fwynhau sawl sgwrs fuddiol dros ebost gydag arbenigwyr. Lluniodd John Jones, Gellilyfdy, y geirfâu tra oedd yntau dan glo, fel dyledwr yng Ngharchar y Fflyd, Llundain, yn 1632–1633. Mae’n siŵr ei fod yntau, fel finnau, wedi cael budd mawr o fedru ymgolli’n llwyr yn y gwaith mewn cyfnod anodd.’

Cyflwynir y wobr yn flynyddol o Gronfa Ellis-Griffith yn enw Prifysgol Cymru ar gyfer y cyhoeddiad gorau yn y Gymraeg sy’n ymdrin â llenorion, arlunwyr neu grefftwyr Cymraeg neu eu gweithiau. Daw’r wobr o gronfa a godwyd i gofio enw’r diweddar Wir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis-Griffith MA KC PC (1860–1926), a fu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Fôn. 

Professor Barry Lewis sitting on a stone wall with fields and mountains in the background
Yr Athro Barry Lewis

Yr Athro Barry Lewis sy’n ennill Gwobr Goffa Vernam Hull 2023 am ei gyfrol, Bonedd y Saint: An Edition and Study of the Genealogies of the Welsh Saints (Dublin: School of Celtic Studies, Dublin Institute for Advanced Studies, 2023). Mae’r Athro Barry Lewis yn frodor o’r Trallwng. Astudiodd yng Nghaer-grawnt ac wedyn yn Aberystwyth, lle enillodd ddoethuriaeth yn y Gymraeg. Daeth yn aelod o staff y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn 2001. Yn 2014 fe’i penodwyd yn athro yn yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn Athrofa Uwchefrydiau Dulyn. Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol yw ei faes ymchwil, ac mae ganddo ddiddordeb penodol yn llenyddiaeth y seintiau. Bonedd y Saint yw ei ail lyfr ar y pwnc, gan iddo gyhoeddi casgliad o gerddi Cymraeg Canol i’r seintiau yn 2015.

Daw’r wobr/cyfrodd o log blynyddol cymynrodd i Brifysgol Cymru gan y diweddar Dr Vernam Edward Nunnemacher Hull (1894–1976), Athro mewn Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Harvard, y dyfarnwyd iddo radd DLitt honoris causa gan Brifysgol Cymru ar achlysur y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Gydwladol yn 1963.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones ar ran y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: ‘Hoffwn longyfarch yr Athro Paul Russell, yr Athro Ann Parry Owen a’r Athro Barry Lewis ar eu cyfraniadau nodedig i wybodaeth ysgolheigaidd ac ymchwil. Diolchwn i Gronfa Dreftadaeth Y Werin Prifysgol Cymru unwaith eto eleni am eu haelioni yn cefnogi’r gwobrau hyn.’

Meddai’r Athro Elwen Evans KC, Is-ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: ‘Mae’n destun balchder gweld enillwyr hynod deilwng ar gyfer gwobrau coffa Hywel Dda, Vernam Hull a Syr Ellis-Griffith. Dyma ddathliad pellach o bwysigrwydd gwaith parhaus y Gronfa Dreftadaeth yn cefnogi a gwobrwyo llwyddiant ar hyd y cenedlaethau.’

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk 

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. 

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk 

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru:  


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon