Cofio Ymgyrchydd Gwrth-gaethwasiaeth o Abertawe ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, drwy rannu stori ysbrydoledig Jessie Donaldson o Abertawe, a frwydrodd yn ddewr yn erbyn caethwasiaeth yn America oddeutu 170 o flynyddoedd yn ôl.
Bydd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, yn traddodi darlith am waith Jessie er mwyn dathlu a thynnu sylw at gyflawniadau, cyfraniadau, a gwytnwch yr athrawes a’r ymgyrchydd gwrth-caethwasiaeth.
Cynhelir y ddarlith yn Ystafell Ddarllen y Brifysgol yn Adeilad Alex yn Abertawe, a hon yw’r ddiweddaraf mewn cyfres flynyddol newydd gan PCYDDS mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Menywod y Brifysgol.
Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024 yw Ysbrydoli Cynhwysiant.
Meddai’r Athro Evans: “Mae Jessie wedi’i disgrifio’n arloeswr, a frwydrodd am gyfartaledd a newid, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yn UDA. Ar un adeg disgrifiwyd ei stori fel un a oedd ‘wedi mynd yn angof.’ Fodd bynnag, mae hynny wedi newid erbyn hyn, gyda phlac glas i gydnabod yn falch ei chyfraniad yn Abertawe.
“Trwy arddangos naratifau amrywiol megis un Jessie, gallwn ni ysbrydoli pobl eraill tebyg iddi i rannu eu gwaith, gan feithrin cymdeithas fwy cynhwysol a grymusol.”
Mae’r plac glas a gyflwynwyd i waith Jessie i’w weld ar wal allanol Adeilad Dinefwr y Brifysgol yng nghanol y ddinas.
Fe’i dadorchuddiwyd yn 2021 ar 19 Mehefin – dyddiad y cyfeirir ato hefyd fel y ‘Juneteenth’, sef y dathliad hynaf hysbys o ddod â chaethwasiaeth i ben yn yr Unol Daleithiau.
Teithiodd Jessie i Ohio yn y 1850au i gadw tŷ diogel ar y ‘rheilffordd danddaearol’ enwog, ac roedd mewn perygl o gael dirwyon a dedfrydau o garchar am gynnig lloches a diogelwch i gaethion wrth iddynt geisio dianc o daleithiau’r de i ogledd America.
Cyflwynwyd yr enwebiad am blac glas i Gyngor Abertawe gan yr hanesydd diwylliannol o Abertawe, y ddiweddar Athro Jen Wilson, sylfaenydd Treftadaeth Jazz Cymru, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas yn y ddinas yn rhan o PCYDDS.
Bu’r Athro Wilson yn cynnal ymchwil i fywyd Jessie dros nifer mawr o flynyddoedd, yn cynnwys ymweld nifer o weithiau â Chanolfan Ryddid Genedlaethol y Rheilffordd Danddaearol yn Cincinnati, a meddai ar y pryd: “Yn 57 oed gadawodd Jessie Donaldson Abertawe i ddechrau bywyd hynod o wleidyddiaeth ryngwladol ar raddfa fawr, a’i thŷ hithau ar lannau Afon Ohio oedd y trydydd o’r tai diogel Cymreig i gaethion ar ffo.
“Gydol Rhyfel Cartref America bu Jessie yn gweithio wrth ochr ei ffrindiau, gan alluogi ffoaduriaid o’r planhigfeydd ar draws yr afon i geisio rhyddid.”
Yn dilyn y ddarlith bydd seremoni wobrwyo hefyd i nodi a dathlu cyflawniadau menywod ar draws y Brifysgol.
Meddai Caroline Lewis, Pennaeth (interim) Canolfan Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth y Brifysgol ac un o’r menywod a sefydlodd Rwydwaith Menywod y Brifysgol: “Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod rydym yn falch iawn o allu dod â chydweithwyr at ei gilydd i gydnabod cyflawniadau’r gorffennol tra byddwn hefyd yn edrych ymlaen i’r dyfodol ac i dynnu sylw at waith y rheini sy’n gweithio i ddatblygu cymdeithas fwy cynhwysol.
‘Yn y digwyddiad, byddwn hefyd yn dathlu’r rheini a enwebwyd am wobr ‘Menywod y Flwyddyn’ Rhwydwaith y Menywod, gan nodi’r cyfraniad anhygoel y bydd cydweithwyr yn ei wneud yn barhaus i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau i’n staff a’n myfyrwyr,”
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07968&Բ;249335