“Beth yw’r peth gwaethaf a allai ddigwydd?” – Taith yn y byd academaidd o Fecsico i Gymru
Darlith Jessie Donaldson 2023
Mewn darlith arbennig i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gwahodd y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Elena Rodriguez-Falcon, i rannu taith ei bywyd hyd yma.
A hithau’n Beiriannydd Mecanyddol benywaidd a aned ym Mecsico, daeth Elena i’r DU 25 mlynedd yn ôl. Ymhlith yr agweddau ar ei gyrfa y bydd hi’n eu rhannu ac yn adfyfyrio arnynt, mae ei throsglwyddiad i’r byd academaidd, dysgu am ddysgu ac aflonyddu ar Addysg Uwch.
Ond mae bywydau proffesiynol a phersonol yn plethu dro ar ôl tro, a dysgir nifer o wersi yn y broses o gyrraedd Cymru. Efallai mai’r un o’r gwersi pwysicaf oll yw “Beth yw’r peth gwaethaf a allai ddigwydd?
Ymunwch â ni o 12pm am de a choffi cyn i’r ddarlith ddechrau am 12.30pm. Bydd cinio ysgafn ar ôl y sgwrs.
Manylion y Digwyddiad
7 Mawrth 2023, o 12pm
Lleoliad
Yr Ystafell Ddarllen, Coleg Celf Abertawe, SA1 5DU
Traddodir y ddarlith er cof am Jessie Donaldson, y mae plac glas iddi ar y wal yn adeilad Dinefwr y Brifysgol. Roedd Jessie, a anwyd yn Abertawe, yn allweddol yn y frwydr yn erbyn caethwasiaeth yn ystod Rhyfel Cartref America. Teithiodd i Ohio yn y 1850au i gadw tŷ diogel, gan beryglu cael dirwyon a dedfrydau o garchar am gynnig lloches a diogelwch i gaethweision wrth iddynt geisio dianc o daleithiau’r de.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: ella.staden@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384467078