Arbenigwyr Peirianneg Fodurol yn dychwelyd i’r brifysgol i ysbrydoli myfyrwyr
Daeth cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol Peirianneg Fodurol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant at ei gilydd ar gyfer cynhadledd yn Adeilad IQ y brifysgol yn Abertawe i drafod gyrfaoedd ym maes Peirianneg Chwaraeon Moduro a Beiciau Modur.
Gwnaeth cyn-fyfyrwyr, sydd bellach yn gweithio gyda chwmnïau modurol byd-enwog megis McLaren, Gordon Murray, Arc, Bentley, Ford a Toyota Gazoo Racing, ddychwelyd i’r Drindod Dewi Sant i rannu eu llwybrau gyrfa a’u llwyddiannau gyda’r garfan bresennol o fyfyrwyr.
Nod y gynhadledd oedd ysbrydoli myfyrwyr trwy roi mewnwelediad iddynt gan arbenigwyr yn y diwydiant a ddechreuodd eu gyrfaoedd yn yr un man â nhw, gan dynnu sylw at y posibiliadau a’r cyfleoedd sydd o fewn cyrraedd. Roedd y diwrnod hefyd yn gyfle i’r cyn-fyfyrwyr gael aduniad, gyda chyfnodau astudio rhai ohonynt yn y Drindod Dewi Sant wedi gorgyffwrdd.
Darparodd y siaradwyr ddiwrnod difyr i’r myfyrwyr gan roi hwb iddynt ac ysgogi’u meddwl. Aethpwyd i’r afael â phynciau yn amrywio o bwysigrwydd ymweld ag ysgolion cynradd i greu diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes Chwaraeon Moduro o oedran ifanc, i gadw cymhelliad ac angerdd yn fyw mewn bywyd proffesiynol er mwyn parhau i fod yn arloesol.
Meddai Abi Summerfield, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro yn y Drindod Dewi Sant: “Roedd y diwrnod yn ysbrydoliaeth i’r siaradwyr a’r myfyrwyr oedd yn bresennol. Cawsom ein sicrhau bod yr arweiniad a gawn gan gynghorwyr o fyd diwydiant ynglŷn â chynnwys ein cyrsiau yn gwneud ein graddedigion yn rhai nodedig a chyflogadwy iawn. Cadarnhaodd i ni fod y cyfuniad o brofiad ymarferol a chynnwys academaidd traddodiadol yn rhinwedd gwerthu unigryw.”
Gan adfyfyrio ar eu hamser yn y Drindod Dewi Sant, soniodd rhai o’r cyn-fyfyrwyr am y modd yr oedd eu gradd wedi helpu siapio eu gyrfaoedd. Gan ddisgrifio ei amser yn y Drindod Dewi Sant fel cyfnod “buddiol a manteisiol tu hwnt”, dywedodd Mark Truman, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Arc Vehicles: “Mae’r pethau a ddysgais ynglŷn ag ymroddiad i waith wedi bod yn amhrisiadwy, ac wedi parhau gyda mi drwy gydol fy ngyrfa.
“Y peth sylfaenol wych am y brifysgol hon yw’r profiad ymarferol go iawn y mae’n ei rhoi i bobl. Roeddwn wedi edrych ar gyrsiau mwy damcaniaethol ar y pryd, ond dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un ohonyn nhw wedi tanio’r angerdd ynof i’r un graddau â gallu cael fy nwylo ar gerbydau, arbrofi, gwneud addasiadau a mynd â nhw ar y trac i weld sut maen nhw’n perfformio. Mae hynny’n rhywbeth mae’r brifysgol hon yn ei wneud yn arbennig o dda.”
Gan gynnig cyngor i’r myfyrwyr cyfredol, meddai: “Peidiwch â bod ofn mentro, peidiwch â rhoi’r gorau iddi a thrysorwch yr hyn sydd gennych. Os daliwch ati, fe gyrhaeddwch y nod yn y pen draw.”
Mae amrywiaeth eang o gyrsiau Peirianneg ar gael i’w hastudio yn y Drindod Dewi Sant, o lefel sylfaen yr holl ffordd drwodd i raglenni ôl-raddedig.
Nodyn i’r Golygydd
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad hwn roedd:
Mark Truman, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Arc Vehicle; Will Gray a James Hewer, Pennaeth Powertrain a Phennaeth Siasi yn Gordon Murray Design, yn y drefn honno; Sam Mayers, Rheolwr Cymeradwyo Ford Pro; Charlotte White, Rheolwr Gweithrediadau Digwyddiadau yn BRSCC; Justin Morden, Uwch Beiriannydd Aerodynameg yn Canolfan Dechnegol Ewropeaidd Tata Motors; Will Hunt, Rheolwr Swyddogaethol Systemau Powertrain yn Bentley Motors Ltd; Tiegen Lillicrap, Cydlynydd, Rheoli Rhaglenni Prosiectau yn Toyota Gazoo Racing; Harley Gasson, Uwch Beiriannydd Dylunio Peiriannau McLaren; Joe Thomas, Peiriannydd Dylunio, Darwin Group Ltd.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: ella.staden@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384467078