ϳԹ

Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr o raglenni Diploma Lefel 3 a Diploma Estynedig UAL mewn Celf a Dylunio gyfle i ymgolli mewn diwrnod o weithdai creadigol yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS, gan weithio ochr yn ochr â thîm BA/MA Patrymau Arwyneb.

A group of students seated around a large white table strewn with pens, paints and creative work.

Darparodd y gweithdai gefnogaeth dechnegol ac ysbrydoliaeth i helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer cystadleuaeth Ysbrydoli Sgiliau Cymru, y bydd y brifysgol yn ei chynnal ym mis Chwefror 2024. 

Eleni, bydd y digwyddiad yn dangos dau gategori cystadleuaeth newydd cyffrous am y tro cyntaf: tecstilau a chrefftau.
Yn ystod yr ymweliad, bu’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, gan arbrofi gyda llifynnau gwasgaredig a gweisg gwres i greu dyluniadau unigryw. 

Buont hefyd yn archwilio sut i blethu adrodd straeon a chynaliadwyedd yn eu gwaith dylunio, wrth dynnu ar dreftadaeth decstilau byd-eang gyfoethog y DU i gael ysbrydoliaeth.

Canmolodd y Rheolwr Rhaglen Georgia McKie y myfyrwyr, gan ddweud: “Roedden nhw’n grŵp gwych, ac fe wnaethon ni fwynhau eich cael chi i gyd gymaint. Roedd rhai dyluniadau hardd! Rydyn ni wir yn gobeithio y bydd rhai yn penderfynu ymuno â’n cystadlaethau a chymryd rhan ar ddiwrnod y rhagrasys byw.”

A student wearing protective blue gloves painting onto fabric.

Sbardunodd y gweithdai frwdfrydedd ymhlith y myfyrwyr, ac mae llawer ohonynt yn awyddus i gymryd rhan yn y gystadleuaeth sydd i ddod. Nododd yr Arweinydd Cwrs Louise Sheppard effaith y profiad: “Fe wnaeth y gweithdai wir ysgogi proses ddylunio’r myfyrwyr, ac mae llawer yn awyddus i gael eu dewis ar gyfer cystadlu. 

Bydd y tîm addysgu yn dewis dau gystadleuydd a dwy gronfa wrth gefn fesul cystadleuaeth. Ym mis Chwefror, bydd y myfyrwyr hyn yn cymryd eu gwaith dylunio ac yn ymuno ag eraill o ysgolion a cholegau ledled Cymru i wneud naill ai sgarff sgwâr ar gyfer y briff tecstilau neu lestr sy’n gysylltiedig â the ar gyfer yr un grefft.”

Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Mae PCYDDS yn falch o gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr trwy fentrau fel hyn, gan feithrin creadigrwydd, cynaliadwyedd, a datblygu sgiliau technegol. Wrth i gystadleuaeth Ysbrydoli Sgiliau Cymru agosáu, mae’r gweithdai hyn wedi gosod y llwyfan i fyfyrwyr arddangos eu talent a gwthio ffiniau eu potensial dylunio.”

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid Cymru herio, meincnodi a chodi eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i redeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae’n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy’n cyd-fynd â WorldSkills ac anghenion economi Cymru. Mae’r cystadlaethau yn rhad ac am ddim ac fel arfer yn rhedeg rhwng Ionawr a Mawrth bob blwyddyn.

A piece of blue fabric with floral designs in gold and russet colour.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon