ϳԹ

Skip page header and navigation

Roedd myfyrwyr BA Theatr Gerddorol a BA Perfformio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wrth eu boddau i gael y cyfle i weithio gyda’r Athro Actio, Bella Merlin.

WAVDA students with Bella Merlin

Mae Bella yn Athro  Actio a Chyfarwyddo Adnabyddus yn yr adran  ym Mhrifysgol California, Riverside.

Mae’r actores yn adnabyddus ar y gylchdaith ryngwladol am ei gwaith ar Konstantin Stanislavsky ac yn arbennig am y broses ymarfer Stanislavsky, Active Analysis.

Cafodd Arweinydd Gweithredol PCYDDS, Angharad Lee y pleser o gyfarwyddo Bella mewn taith yn ystod gwyliau’r haf o ‘The Wild Tenant’ a ysgrifennwyd gan Lucy Gough. Achubodd ar y cyfle i wahodd Bella i weithio gyda myfyrwyr y brifysgol yn ogystal â rhoi cyfle iddynt wylio’r ddrama.

Meddai Angharad:

“Gan wybod bod ein myfyrwyr yn astudio llyfr poblogaidd Bella, The Complete  ,mae’r cyfle i’w chael hi gyda ni yn rhannu ei gwybodaeth wyneb yn wyneb wedi bod yn amhrisiadwy.  Rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod ein myfyrwyr yn gweithio gydag arbenigwyr yn eu maes ac rydym yn cymryd pob cyfle i gadw mewn cysylltiad â’r diwydiant fel y mae.”

Yn dilyn y gweithdy lle archwiliwyd trosolwg o sgiliau a chreadigrwydd, cafodd y myfyrwyr y cyfle i wylio’r ddrama, The Wild Tenant’, a berfformiwyd gan Bella a Jams Thomas a gyfarwyddwyd gan Angharad Lee.

“Mae’n wych cael ein hatgoffa bod ein tiwtoriaid a’r rhai sy’n dod i’n haddysgu yn dal i weithio o fewn y diwydiant”, meddai un o’r myfyrwyr. 

Meddai’r myfyriwr Jona Milone:

 “Roedd yn gyfle goleuedig ac addysgol iawn, lle cawsom gyfle i ddeall pileri Stanislavsky drwy gymhwyso ymarferol. Roedd yn gymaint o brofiad prin, cyffrous a chyfareddol i weld sut oedd Merlin wedi cymhwyso ei hymchwil ei hun i’w rolau – gan ddarparu mewnwelediad i’r byd academaidd, a’r cymhwyso ymarferol ond hefyd sut mae pob agwedd yn gweithio ar gymeriad penodol.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon