ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Nabila Jrida wedi graddio’n ddiweddar gyda Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes (DBA) o gampws Llundain PCYDDS, wedi cynnal ymchwil i’r gwahaniaeth rhwng y cenedlaethau o ran agweddau tuag at hysbysebion wrth chwilio drwy Google.

Myfyrwraig sydd newydd raddio yn edrych yn hapus

Yn ei hymchwil, mae Nabila, cyn ffisiotherapydd o Casablanca, yn darparu fframwaith cysyniadol sy’n cynnwys dull cam wrth gam ar gyfer prosesau mabwysiadu hysbysebion ar beiriannau chwilio, wrth drafod carfanau’r cenedlaethau.  Nod ei gwaith yw darparu dealltwriaeth i helpu busnesau i deilwra’u hymdrechion hysbysebu’n fwy effeithiol.   Meddai:

“Mae fy mhrofiadau academaidd a phroffesiynol wedi rhoi safbwynt unigryw i mi ar dirwedd esblygol marchnata digidol, ac rwy’n teimlo’n frwd am ddefnyddio’r wybodaeth hon i gael effaith ystyrlon ar y diwydiant. 

“Mae meddu ar ddoethuriaeth yn sicr wedi gwella fy hygrededd a’m henw da o fewn y gymuned fusnes.  Mae’n arwydd o lefel uchel o arbenigedd ac ymrwymiad, sy’n briodweddau hollbwysig yn y diwydiant ymgynghori.  Nid yn unig y mae’r radd hon yn rhoi dilysrwydd i’m gwybodaeth, mae hefyd yn arwydd fy mod i’n arweinydd meddwl yn fy maes.”

Ar hyn o bryd Nabila yw’r Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu ar gampws Llundain PCYDDS ac mae’n defnyddio’i chanfyddiadau ymchwil i ddatblygu ymgyrchoedd marchnata wedi’u targedu sy’n canu cloch gyda chynulleidfaoedd amrywiol, gan sicrhau bod y strategaethau cyfathrebu’n effeithiol ac yn gynhwysol.   At hynny, mae wedi lansio’i busnes ymgynghori’i hun – EcoMaj Consulting – sy’n canolbwyntio ar helpu busnesau bach i lywio’u ffordd drwy gymhlethdodau marchnata digidol, gan dynnu ar ei harbenigedd mewn marchnata i’r cenedlaethau i ddarparu atebion pwrpasol. 

Wedi cychwyn ei phractis ffisiotherapi ei hun i ddechrau gyda chyd-fyfyriwr, gwelai Nabila mai marchnata a rheoli’r busnes oedd o wir ddiddordeb iddi hi, ac yn sgil hynny newidiodd lwybr ei gyrfa.   Wedi cymryd saib o flwyddyn, penderfynodd ddilyn y rhaglen DBA gan gofrestru ar gwrs PCYDDS yn Llundain.  

Meddai:  “Mae fy nhaith ym maes marchnata a chyfathrebu wedi bod dan ddylanwad mawr gan f’ymchwil ar wahaniaethau rhwng y cenedlaethau o ran agweddau tuag at hysbysebion wrth chwilio drwy Google.  Mae’r pwnc hwn yn arbennig o berthnasol yn yr oes ddigidol sydd ohoni, lle gall deall gwahaniaethau bach rhwng y cenedlaethau gael effaith arwyddocaol ar strategaethau marchnata a chanlyniadau busnes.  Drwy f’ymchwil, fy nod oedd darparu dealltwriaeth a allai helpu busnesau i deilwra’u hymdrechion hysbysebu’n fwy effeithiol.

“Un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd y cyfle i ymgysylltu â grŵp amrywiol o gymheiriaid o amryw o ddiwydiannau a chefndiroedd.  Bu hyn yn fodd i gyfoethogi fy mhrofiad dysgu gan ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i rwydweithio.  Roedd arbenigedd y tîm academaidd a’r mewnwelediadau ymarferol hefyd yn fuddiol dros ben.  At hynny, caniatâi’r prosiectau ymchwil a’r astudiaethau achos i mi gymhwyso cysyniadau damcaniaethol i senarios o’r byd go iawn. 

“Mae’r cwrs wedi gwella fy meddwl strategol a’m galluoedd arwain yn sylweddol.  Mae wedi rhoi safbwyntiau newydd i mi ar heriau busnes a’r offer i fynd i’r afael â nhw’n effeithiol.  Ar lefel bersonol, mae’r profiad wedi bod yn foddhaus dros ben, gan feithrin ymdeimlad o lwyddiant a hyder yn fy ngalluoedd.” 

Mae cwrs DBA PCYDDS yn cynnig cyfuniad unigryw o wybodaeth ddamcaniaethol a chymhwyso ymarferol, gan ei wneud yn berthnasol iawn i weithwyr proffesiynol sy’n gobeithio symud eu gyrfaoedd yn eu blaenau.  Mae’r amgylchedd dysgu cefnogol a’r cyfle i ymwneud ag arbenigwyr diwydiant yn amhrisiadwy.  Mae’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i fyfyrwyr er mwyn rhagori yn y dirwedd fusnes ddeinamig sydd ohoni. 

Nawr mae Nabila yn bwriadu parhau i ehangu’i heffaith ym maes marchnata digidol, gan fireinio strategaethau marchnata ymhellach i aros ar flaen tueddiadau’r diwydiant yn PCYDDS. Gydag EcoMaj mae’n awyddus i helpu mwy o fusnesau bach i ddefnyddio pŵer marchnata digidol  i wireddu eu nodau. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon