Wedi'i yrru gan angerdd: Cariad myfyriwr at chwaraeon moduro yn cyflymu ei lwybr at yrfa yn y dyfodol
Nid oedd Harvey Levell, myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), erioed wedi bwriadu mynd i brifysgol ar ôl gadael y chweched dosbarth. Gyda’i fryd ar ddilyn prentisiaeth, argymhelliad athro wnaeth ei annog i fynd i ddiwrnod agored PCYDDS. Profodd yr ymweliad hwnnw i fod yn brofiad trawsnewidiol, gan ei arwain tuag at ddyfodol mewn peirianneg chwaraeon moduro nad oedd wedi ei ystyried o’r blaen.
Ac yntau bellach yn ei ail flwyddyn o’r rhaglen BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro ar gampws y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, mae Harvey yn aelod allweddol o dîm rasio’r Brifysgol dan arweiniad myfyrwyr, sef Team MCR. Yn ddiweddar, rhannodd Harvey hanes ei daith, o’i betruster cychwynnol i’r heriau a’r llwyddiant a ddaeth i’w ran yn y rhaglen.
“Ni fu’r brifysgol erioed yn ddewis cyntaf i mi ar ôl gadael y chweched dosbarth gan fy mod bob amser wedi bod yn benderfynol o adael yr ystafell ddosbarth a chael profiad o’r byd go iawn trwy brentisiaeth. Roedd hynny tan i athro yn y Chweched Dosbarth ddangos y cwrs chwaraeon moduro a gynigir gan y Drindod Dewi Sant i mi a thîm Chwaraeon 2000 yn y Brifysgol. Ar ôl mynychu un o’r diwrnodau agored, cwrdd â’r holl staff a chael taith o amgylch y gweithdy ac ystafelloedd dosbarth, roeddwn i’n gwybod y byddai’r Drindod Dewi Sant yn addas iawn i mi. Gallwn ennill profiad bywyd go iawn mewn tîm chwaraeon moduro yn ogystal â datblygu fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o beirianneg.
“Mae fy nghwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro wedi rhoi cyfuniad i mi o theori a phrofiad ymarferol, gydag ymchwil yn y labordy yn cynnwys profi peiriannau a dynameg cerbydau. Un uchafbwynt i mi oedd Wythnos CAD, cyfnod dwys a neilltuwyd i ddatblygu ein sgiliau Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) gydag arholiad terfynol ar ddiwedd yr wythnos. Fe wnaeth hyn ddatblygu fy sgiliau CAD yn sylweddol gan ganiatáu i mi ddatblygu fy nyluniadau fy hun. Roedd y dull ymarferol yn fy ngalluogi i wella fy hyfedredd CAD yn sylweddol, gan weld fy nyluniadau’n datblygu’n gymwysiadau yn y byd go iawn.
“Heb os, yr elfen fwyaf cyffrous sydd wedi rhoi’r boddhad mwyaf i mi yn ystod fy amser yn y Drindod Dewi Sant yw Tîm MCR . Mae wedi rhoi gwybodaeth a phrofiad amhrisiadwy i mi o’r byd chwaraeon moduro. Y profiadau dysgu gorau yw pan fydd problemau’n codi ar y car, neu mae wedi bod mewn gwrthdrawiad. Fel tîm mae’n rhaid i ni oresgyn y materion hyn, gweithio i ddarparu atebion a’u gweithredu mewn cyfnod byr o amser a sicrhau bod y car yn dal i allu perfformio a bod yn gystadleuol. Mae’r profiadau hyn nid yn unig wedi cryfhau fy sgiliau peirianneg ond maent hefyd wedi dysgu gwersi amhrisiadwy i mi mewn arweinyddiaeth, gwaith tîm a gwydnwch.
Ar ôl tymor 2024, roeddwn yn falch o gael fy mhenodi’n arweinydd car #40, sydd wedi bod yn gyflawniad sylweddol i mi. Rwy’n gyffrous i ymgymryd â’r rôl hon, gan ddatblygu fy sgiliau arwain ymhellach wrth gymhwyso fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth i wella perfformiad y car.
Mae tymor 2024 wedi bod yn un cyfnewidiol iawn gyda llawer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, gan gynnwys gorfod ailadeiladu’r hongiad cefn yn llwyr ar ôl methiant yn yr amgaead cloch oherwydd taith annisgwyl dros gwrbyn. Ond mae adegau fel hyn yn wych ar gyfer dysgu am y car a datblygu fy sgiliau fy hun. Aethom ymlaen i gael rownd ddycnwch lwyddiannus yng Nghylchdaith Castle Combe gyda’r ceir yn gorffen yn y 3ydd a’r 5ed safle ar ôl ras wlyb iawn. Rhoddodd hyn foddhad mawr i ni i gyd yn dilyn dechrau llai na delfrydol i’r tymor.
Mae’r cyfuniad o ddarlithoedd dosbarth, sesiynau labordy a’m hamser ar dîm MCR wedi cynyddu fy ngwybodaeth yn sylweddol nid yn unig am beirianneg ond fy sgiliau arwain a’m gallu i weithio mewn tîm.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467071