Trawsnewid Arweinyddiaeth Trwy Ddysgu Drwy Brofiad
Caroline Assalian yw Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hyfforddiant Busnes KasKor, ac ar hyn o bryd mae’n dilyn MA mewn Hyfforddi a Mentora drwy’r Fframwaith Ymarfer Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae ei thaith yn tynnu sylw at y pŵer trawsnewidiol o gydnabod dysgu drwy brofiad gan ei gyfuno â thrylwyredd academaidd.
I Caroline:
“Mae’r cwrs hwn, ynghyd â fy nhaith MA, wedi tanio trawsnewidiad dwys yn fy musnes. Mae wedi fy ngalluogi i ehangu y tu hwnt i wasanaethu cwmnïau yn unig i gynnig hyfforddiant a datblygu arweinyddiaeth yn uniongyrchol i unigolion. Mae’r esblygiad hwn wedi bod yn gam boddhaus dros ben o ran cynyddu fy nghenhadaeth i ysbrydoli arweinwyr, datgloi eu galluoedd uchaf i gyflawni canlyniadau rhyfeddol a gyrru newid ystyrlon, parhaol ar raddfa ehangach.”
Mae’r modwl Cydnabod Dysgu Blaenorol Drwy Brofiad (RAL) yn Y Drindod Dewi Sant yn galluogi gweithwyr proffesiynol megis Caroline i drosi eu harbenigedd helaeth yn y byd go iawn yn gredyd academaidd. Mae’r dull unigryw hwn yn grymuso dysgwyr i ennill cymwysterau academaidd wrth barhau i ragori yn eu gyrfaoedd.
Meddai:
“Mae dilyn y rhaglen hon wedi fy ngalluogi i integreiddio fy mhrofiad proffesiynol gydag arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fireinio fy nghrefft a gwasanaethu fy nghleientiaid yn well. Mae’r modwl RAL wedi rhagori ar fy nisgwyliadau, gan droi dyhead oes o ennill gradd meistr yn realiti.”
Mae Caroline yn disgrifio’r effaith ddwys y mae’r cwrs wedi’i chael ar ei gwaith a’i datblygiad personol.
“Mae’r modwl RAL wedi dyrchafu fy arferion adfyfyriol ac wedi hogi fy sgiliau meddwl beirniadol. Mae wedi atgyfnerthu fy nghred nad proffesiwn yn unig yw hyfforddi ond ei fod yn gyfle pwerus i greu newid cadarnhaol a pharhaol ym mywydau pobl.”
Mae’r cydbwysedd rhwng adfyfyrio a’r defnydd ymarferol hwn nid yn unig wedi gwella ei sgiliau proffesiynol ond hefyd wedi dyfnhau ei hunanymwybyddiaeth a’i hunan-gred.
Yn fyfyriwr rhyngwladol, mae Caroline wedi gweld bod ei phrofiad yn Y Drindod Dewi Sant yn arbennig o gyfoethog.
“Mae dysgu ochr yn ochr â grŵp amrywiol o fyfyrwyr wedi ehangu fy mydolwg ac wedi fy agor i ffyrdd newydd o feddwl. Mae cyfadran a staff y brifysgol wedi bod yn hynod gefnogol, gan sicrhau bod fy nhaith wedi bod yn ddi-dor a gwerth chweil.”
Meddai Sarah Loxdale, Uwch Ddarlithydd yn y Tîm Fframwaith Ymarfer Proffesiynol yn Y Drindod Dewi Sant:
“Mae taith Caroline wir yn dangos pŵer trawsnewidiol dysgu trwy brofiad pan fydd yn gysylltiedig ag ymchwiliad academaidd. Yn Y Drindod Dewi Sant, rydyn ni’n falch o gefnogi gweithwyr proffesiynol fel Caroline i gydnabod gwerth eu profiad proffesiynol a’u galluogi i drosi hyn yn gyflawniadau academaidd pendant. Mae ei stori yn dyst i effaith ymarfer adfyfyriol wrth lunio nid yn unig rhagoriaeth broffesiynol ond hefyd twf personol.”
Ychwanegodd Julie Crossman, Uwch Ddarlithydd a Rheolwr Rhaglen ar gyfer yr MA mewn Hyfforddi a Mentora:
“Rwy wrth fy modd bod profiad Caroline wedi rhoi’r fath ganfyddiadau iddi hi yn ystod ei hastudiaethau ar gyfer yr MA Hyfforddi a Mentora hyd yma. Mae natur hyblyg y modylau yn yr MA Hyfforddi a Mentora yn sicrhau bod anghenion datblygu gweithwyr proffesiynol yn cael eu hateb yn llawn. Caiff myfyrwyr gymorth i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau o ran ymarfer adfyfyriol ac atgyrchol ac mae’n hynod werth chweil bod Caroline wedi croesawu’r profiad dysgu hwn mor frwdfrydig. Am dystiolaeth wych o ymroddiad ac ymrwymiad Caroline i’w hymarfer hyfforddi!”
Mae Caroline yn eiriolwraig gref dros gydnabod dysgu drwy brofiad. Ychwanegodd:
“Rwy’n ei argymell yn llwyr i unrhyw weithiwr proffesiynol sy’n ceisio twf. Mae’n dilysu sgiliau presennol ac yn agor drysau i gyfleoedd newydd, gan bontio arbenigedd ymarferol ac ymchwiliad academaidd.”
Am ragor o wybodaeth am y Fframwaith Ymarfer Proffesiynol yn Y Drindod Dewi Sant, ewch i: Fframwaith Ymarfer Proffesiynol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Neu cysylltwch â coaching@pcydds.ac.uk am ragor o wybodaeth am yr MA mewn Hyfforddi a Mentora.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476