Taith Dr Lakshani Mendis yn amlygu effaith drawsnewidiol rhaglenni addysgol Y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi bod Dr Lakshani Nissanga Mendis wedi cwblhau ei Doethur mewn Gweinyddu Busnes (DBA) yn llwyddiannus ar gampws Llundain PCYDDS.
Yn ôl Dr Lakshani N. Mendis, mae ei thaith a’i chyflawniadau academaidd yn dyst i ansawdd y cyfleoedd addysg ac ymchwil sydd ar gael yn PCYDDS.
Dewisodd Dr Mendis, gweithiwr proffesiynol o Lundain, PCYDDS am ei rhaglenni busnes ag enw da a’r cyfle i gydweithio ag adran fusnes brofiadol ar bynciau ymchwil arloesol. “Dewisais PCYDDS am ei rhaglenni busnes ag enw da a’r cyfle i astudio gydag aelodau profiadol o’r gyfadran ar bynciau ymchwil blaengar,” meddai Dr Mendis. Gyda chefndir academaidd a phroffesiynol cadarn mewn gweinyddu busnes, mae Dr Mendis wedi bod yn ddarlithydd ers 2019 ac mae hefyd yn rheoli ei menter ei hun, Robes in Roses. Roedd ei awydd i ennill y cymhwyster DBA wedi’i ysgogi gan ei hangerdd am strategaeth fusnes ac effaith drawsnewidiol technolegau newydd, yn enwedig deallusrwydd artiffisial.
Dewisodd Dr Mendis y rhaglen DBA yn PCYDDS ar gyfer ei chwricwlwm cynhwysfawr sy’n cyfuno mewnwelediadau damcaniaethol â chymwysiadau ymarferol, gan alinio’n berffaith â’i dyheadau gyrfa. “Dewisais y Doethur mewn Gweinyddu Busnes yn PCYDDS oherwydd fy angerdd am strategaeth busnes ac arloesedd, yn enwedig yng nghyd-destun technolegau sy’n dod i’r amlwg fel deallusrwydd artiffisial,” eglura. Ei phrif nod oedd archwilio sut mae arloesiadau digidol, yn enwedig AI, yn chwyldroi’r sector bancio. Cynlluniwyd yr ymdrech academaidd hon nid yn unig i wella ei chymwysterau proffesiynol ond hefyd i gyfrannu mewnwelediad ystyrlon i faes strategaeth busnes.
Ymhlith uchafbwyntiau niferus ei thaith ddoethurol oedd y modiwlau difyr ar newid strategol, rheoli amgylcheddau cymhleth, a safbwyntiau entrepreneuraidd. Canolbwyntiodd ymchwil Dr Mendis ar systemau bancio digidol wedi’u galluogi gan AI a’u heffeithiau ar ymddygiad defnyddwyr yn y DU. “Un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd y cyfle i ymgymryd ag ymchwil manwl ar bwnc yr wyf yn angerddol amdano,” mae’n nodi. Roedd cael y cylfe i gymryd rhan mewn cynadleddau fel un yr Academi Rheolaeth Brydeinig (BAM) a symposia doethurol eraill yn rhoi cyfle arbennig iddi ddatblygu ei phrofiad yn y maes academaidd a chyfoethogodd ei phrofiad ymchwil.
Roedd cydbwyso cyfrifoldebau academaidd a phroffesiynol yn her sylweddol i Dr Mendis, ond llwyddodd i lywio’r gofynion hyn trwy reoli amser yn effeithiol a blaenoriaethu. “Roedd cydbwyso fy nghyfrifoldebau academaidd â’m hymrwymiadau proffesiynol yn un o’r heriau sylweddol a wynebais yn ystod fy astudiaethau,” ychwanegodd. Cyflwynodd y pandemig rwystrau ychwanegol, yn enwedig wrth gasglu data, y gwnaeth hi eu goresgyn trwy ddefnyddio offer digidol a llwyfannau cydweithredu o bell.
Mae Dr Mendis yn argymell y rhaglen DBA yn Y Drindod Dewi Sant yn fawr am ei chwricwlwm cadarn, ei hamgylchedd cefnogol, a chyfleoedd eithriadol ar gyfer twf academaidd. “Mae’r rhaglen Doethur mewn Gweinyddu Busnes yn PCYDDS yn cynnig cwricwlwm cadarn sy’n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â chymwysiadau ymarferol,” meddai. Mae hi’n cydnabod bod dilyn y cwrs hwn wedi gwella ei harbenigedd mewn rheoli busnes ac AI, gan ei gwneud yn ymgeisydd mwy cystadleuol ar gyfer rolau academaidd a diwydiant.
Wrth edrych i’r dyfodol, mae Dr Mendis yn bwriadu parhau â’i chyfraniadau i’r byd academaidd a diwydiant trwy addysgu, ymchwil ac ymgynghoriaeth mewn bancio digidol ac AI. “Fy nghynllun ar hyn o bryd yw parhau i gyfrannu at y byd academaidd a diwydiant trwy addysgu ac ymchwil,” dywedodd. Ei nod yw cyhoeddi ei chanfyddiadau mewn cyfnodolion uchel eu parch ac mae’n anelu at ymgymryd â rolau arwain sy’n ysgogi arloesedd a thwf strategol o fewn sefydliadau academaidd a sefydliadau diwydiant.
Mae Dr Lakshani N. Mendis yn credu bod ei hanes yn enghraifft o effaith drawsnewidiol y rhaglenni addysgol yn PCYDDS.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071