Symposiwm ATiC 2022 – Cynyddu Arloesedd mewn Iechyd a Lles
Ymunwch ag ATiC a’i phartneriaid Cyflymu – Partneriaeth Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdydd (CIA), Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe (HTC), a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru – gyda’n partner bwrdd iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Sefydliad TriTech, ynghyd â siaradwyr gwadd, am symposiwm un-diwrnod sy’n canolbwyntio ar Gynyddu Arloesedd mewn Iechyd a Lles.
Teitl: Symposiwm Cynyddu Arloesedd mewn Iechyd a Lles 2022.
Trefnydd: Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Dyddiad: Dydd Iau, 13eg Hydref 2022.
Amser: Cofrestru 9am–9:30am. Symposiwm 9:30am–5pm. Darperir lluniaeth a chinio iach am ddim, gan gynnwys opsiynau llysieuol/fegan/heb glwten.
Lleoliad: Digwyddiad hybrid am ddim fydd hwn. Ymunwch â ni ar-lein (manylion i ddilyn) neu’n bersonol yng Nghanolfan Dylan Thomas, Somerset Place, Abertawe, SA1 1RR.
Bydd rhaglen lawn y Symposiwm a manylion cofrestru drwy Eventbrite yn dilyn yn fuan, ond cadwch y dyddiad nawr os gwelwch yn dda!
Cysylltwch â ni:
E-bost: atic@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô: 01792 481232
Gwe:
Cyllidir Cyflymu ar cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a’r byrddau iechyd; nod eithaf Cyflymu yw creu gwerth economaidd parhaol i Gymru.