Rhaglen Digwyddiadau a Thwristiaeth PCYDDS yn Fuddugol yn y Gwobrau Digwyddiadau Cenedlaethol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu llwyddiant dwbl yn y Gwobrau Digwyddiadau Cenedlaethol arobryn, gyda’r rhaglen Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn ennill y teitl Cwrs Digwyddiadau Gorau (cyd-enillydd) a Pharti Tŷ Abertawe yn cipio’r wobr am y Digwyddiad Myfyrwyr Gorau.
Mae’r cyflawniadau rhagorol hyn yn arddangos yr arloesi, yr ymroddiad, a’r ymdrechion cydweithredol gan fyfyrwyr, staff addysgu, a phartneriaid diwydiant PCYDDS.
Mae rhaglen Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol PCYDDS wedi’i chydnabod yn un o’r rhaglenni gorau yn y DU, diolch i’w hymagwedd arloesol at ymgorffori digwyddiadau byw yn y cwricwlwm. Mae myfyrwyr yn cael profiad o’r byd go iawn mewn gwyliau, cyngherddau, cynadleddau, a digwyddiadau chwaraeon, gan roi iddynt y sgiliau ymarferol a’r ddealltwriaeth o’r diwydiant sydd eu hangen i ragori yn y sector digwyddiadau cystadleuol.
Tynnodd Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen – y Portffolio Teithio Rhyngwladol, Twristiaeth, Rheoli Digwyddiadau a Gwyliau, sylw at gyfuniad unigryw’r cwrs o drylwyredd academaidd a phrofiad ymarferol:
“Mae’r wobr hon yn dathlu ymrwymiad ein staff, myfyrwyr, a phartneriaid i ddarparu profiad dysgu eithriadol.”
Roedd Parti Tŷ Abertawe yn brosiect nodedig, wedi’i drefnu mewn cydweithrediad rhwng Arena Abertawe ATG a myfyrwyr Digwyddiadau a Thwristiaeth Lefel 4 PCYDDS. Roedd y digwyddiad arloesol hwn yn cynnwys rhaglen drawiadol o fandiau, i gyd ag aelodau dan 25 oed, yn perfformio mewn lleoliad mawr am y tro cyntaf.
Gyda mwy na 800 o docynnau wedi’u gwerthu, cododd y digwyddiad swm anhygoel o £10,000 i gefnogi gwaith y Music Venue Trust ar draws de-orllewin Cymru. Roedd y myfyrwyr yn cymryd rhan yn uniongyrchol ymhob agwedd ar y digwyddiad, o gynllunio a marchnata i gynhyrchu a darparu, gan ennill profiad gwerthfawr a gadael effaith hirhoedlog ar y sîn gerddoriaeth leol.
Canmolodd James Morgan, Cyfarwyddwr Dysgu yn Arena Abertawe, broffesiynoldeb a chreadigrwydd y myfyrwyr:
“Cyflawnodd y cydweithrediad hwn ddigwyddiad ffantastig ond hefyd dangosai botensial aruthrol ein cenhedlaeth nesaf o weithwyr digwyddiadau proffesiynol.”
Meddai Dr Jayne Griffith-Parry, Cyfarwyddwr Academaidd Rheolaeth Lletygarwch a Thwristiaeth: “Am lwyddiant i fyfyrwyr sy’n astudio o fewn ein rhaglen Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol BA (Anrh); mae’r dysgu drwy brofiadau a gânt gydol eu taith academaidd heb ei ail. Fel y dangosir unwaith eto gan y gydnabyddiaeth hon, mae Cymru yn cynhyrchu doniau lletygarwch ffantastig ac mae mewn lle da ar gyfer y dyfodol gyda chyfleoedd gwaith gwych.”
Capsiwn llun: Roedd y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Digwyddiadau Awyr Agored Genedlaethol yn The Pump Rooms yng Nghaerfaddon, yn noson o ddathlu a balchder i PCYDDS. Yn cynrychioli’r brifysgol oedd Debbie Jenkins, cynrychiolydd myfyrwyr Sinead Edwards, a James Morgan o Arena Abertawe.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071