PCYDDS yn Croesawu Uchel-Siryf Gorllewin Morgannwg i Fenter Cwpwrdd Cymunedol sy’n Cefnogi Myfyrwyr, Teuluoedd a Chynaliadwyedd
Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Mrs Melanie James Ynad Heddwch, Uchel-Siryf Gorllewin Morgannwg i’w menter Cwpwrdd Cymunedol sy’n galluogi unigolion i roddi nwyddau cartref diangen - o lestri cegin a dodrefn meddal i eitemau trydanol - fel y gellir eu hail-bwrpasu gan bobl mewn angen.
Mae’r fenter gynaliadwy hon sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas y Brifysgol, nid yn unig yn cefnogi teuluoedd ac unigolion sy’n wynebu costau byw cynyddol, ond mae hefyd yn cyfrannu at nod Abertawe o ddod yn ddinas sero net erbyn 2050, fel rhan o Brosiect Sero Abertawe.
Croesawyd Mrs James gan Dr Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd Academi Golau Glas, a gydsefydlodd y prosiect gyda Michelle Treasure a chydweithwyr eraill o’r brifysgol. Cymeradwyodd Mrs James effaith y Cwpwrdd Cymunedol.
“Rwy’n falch iawn i ymweld â’r fenter anhygoel hon, lle mae nwyddau cartref diangen yn cael pwrpas newydd ac yn dod â llawenydd i eraill. Mae’n galonogol gweld y Brifysgol a’r gymuned leol yn dod at ei gilydd, gan drawsnewid yr hyn a allai fod wedi’i daflu i gyfleoedd ar gyfer cysylltiad, cynaliadwyedd, a rhoi yn ôl,” meddai.
Meddai Dr Williams: “Ein nod yw gallu cynnig help llaw i bobl mewn cyfnodau anodd, i leihau gwastraff a hefyd, gobeithio, feithrin ysbryd o haelioni a gwytnwch sy’n cryfhau ein cymuned.”
Mae eitemau sydd wedi’u rhoi i’r Cwpwrdd Cymunedol yn cael eu glanhau a’u gwirio, gydag eitemau trydanol yn cael profion PAT i sicrhau diogelwch. Mae’r cwpwrdd ar agor i’r cyhoedd, ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm, gan ddarparu eitemau rhad ac am ddim i unrhyw un yn y gymuned, enwedig y rhai sy’n profi caledi ariannol.
Ers ei lansiad gan Carolyn Harris, AS, yn gynharach eleni, mae’r Cwpwrdd Cymunedol eisoes wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon i lawer. Mynegodd Mandy Fairhead, Swyddog ASA yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, ei diolch gan ddweud, “Diolch o galon am y cyfraniad caredig o feiros a pheli o’r Cwpwrdd Cymunedol i’r disgyblion ADY yn ysgol Cefn Hengoed. Roedd y disgyblion wrth eu boddau, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich caredigrwydd”.
Roedd Rachel Hart, gwarchodydd plant o Lansamlet wedi elwa o’r Cwpwrdd Cymunedol hefyd, gan dderbyn teganau i helpu i lansio ei busnes. Rhannodd “Alla’i ddim diolch digon i chi. Mae’r gefnogaeth a gafodd ei darparu wedi bod yn gymorth enfawr, gan fy nghaniatáu i sefydlu fy musnes gwarchod plant a gwella cydbwysedd bywyd a gwaith fy nheulu. Mae’r Cwpwrdd Cymunedol wedi bod yn achubiaeth wirioneddol.”
Nododd Janette Thorne, sy’n cefnogi teuluoedd yn Abertawe, effaith ar y teuluoedd y mae’n gweithio gyda nhw: Trwy gynllun arloesol y Brifysgol a chyfraniadau hael, fe wnes i ddosbarthu amrywiaeth o eitemau ail-law a oedd wedi plesio teulu, sy’n straffaglu ar hyn o bryd. “Mae’n amlwg bod PCYDDS yn brifysgol flaengar sydd ag ysbryd cymdogaethol, gan ei bod wedi sefydlu’r cynllun anhygoel hwn”.
Mae’r Cwpwrdd Cymuned yn adlewyrchu ymrwymiad PCYDDS i gynaliadwyedd, cymorth cymunedol, ac atebion ymarferol i heriau heddiw. Mae’r fenter yn cyd-fynd â Phrosiect Sero Cyngor Abertawe, sy’n anelu at wneud Abertawe’n ddinas net sero erbyn 2050.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467071