ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae angerdd am geir a chwaraeon moduro wedi gyrru Joao Ferreira i symud o Bortiwgal i’r DU, lle mae’n astudio ar hyn o bryd ar gyfer BEng mewn Peirianneg Fodurol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Ar ôl cwblhau addysg uwchradd ym Mhortiwgal a chymryd amser i ystyried ei ddyfodol, dywed Joao iddo gael ei ddenu i’r Brifysgol oherwydd ei dull ymarferol a chysylltiadau cryf â’r diwydiant. Heddiw, mae’n paratoi ar gyfer gyrfa yn  niwydiannau cystadleuol y maes modurol a chwaraeon moduro.

A happy smiling student standing close to a river with woodland behind.

“Ar ôl cael fy hun yn byw yn y DU, sylweddolais mai dyma’r amser iawn i ddilyn fy angerdd am beirianneg fodurol,” meddai Joao. “Cefais fy nenu at y Drindod Dewi Sant oherwydd ei henw da yn y meysydd modurol a chwaraeon moduro, yn enwedig ar gyfer prosiectau ymarferol fel tîm MCR ym Mhencampwriaeth Sports 2000. Roedd ffocws y Brifysgol ar gymhwyso ymarferol, ochr yn ochr â dysgu yn yr ystafell ddosbarth, yn ei gwneud yn lle perffaith i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnaf i roi hwb i’m gyrfa.”

Dywedodd Joao ei fod wedi dewis cwrs peirianneg fodurol y Drindod Dewi Sant i ddyfnhau ei wybodaeth mewn meysydd allweddol fel datblygu pwerwaith a dynameg cerbydau. Mae arfer y rhaglen o integreiddio technolegau datblygol, gan gynnwys cerbydau trydan a pheirianneg gynaliadwy, yn cyd-fynd yn dda â’i nod o gyfrannu at dirwedd gyfredol y diwydiant modurol ac yn y dyfodol. 

“Cynigiai’r cwrs hwn y sgiliau technegol sydd eu hangen arnaf i lywio technoleg heddiw a’r newidiadau sydd ar ddod mewn rheoliadau,” meddai.

Un o uchafbwyntiau astudiaethau Joao hyd yma yw cymryd rhan mewn prosiect tîm ar gyfer ras 24 awr Cwpan Rasio C1 yn Silverstone. “Roedd cymhwyso’r hyn a ddysgais yn y dosbarth i amgylchedd chwaraeon moduro cystadleuol yn brofiad anhygoel,” meddai. Parhaodd ei angerdd am ddysgu ymarferol yn ystod lleoliad diwydiannol yn Xtrac Ltd., lle bu’n gweithio yn yr adran Ymchwil a Datblygu am flwyddyn. “Roedd fy rôl yn cynnwys popeth o ddylunio rigiau profi i weithio ar brofion trawsyrru, a roddodd brofiad ymarferol i mi mewn dylunio mecanyddol, dadansoddi data, a chymwysiadau yn y byd go iawn. Fe wnaeth y profiad hwn atgyfnerthu fy sgiliau technegol ac ehangu fy nealltwriaeth o’r diwydiant modurol.”

Roedd dychwelyd i’r brifysgol ar ôl sawl blwyddyn allan yn cyflwyno heriau unigryw i Joao, sydd wedi cydbwyso ei astudiaethau â gwaith rhan-amser i’w gynnal ei hun. “Yn sgil y pandemig roedd hi’n arbennig o anodd dod o hyd i waith addas, ond fe wnaeth y profiadau hyn ddysgu gwytnwch a hyblygrwydd i mi,” meddai. Er gwaethaf y rhwystrau hyn, mae wedi ymrwymo i gwblhau ei flwyddyn olaf ac mae’n edrych ymlaen at ddod â’i sgiliau i’r sectorau modurol a chwaraeon modurol.

“Mae’r Drindod Dewi Sant yn darparu amgylchedd dysgu cefnogol gyda phrosiectau ymarferol sy’n pontio theori ac arfer, sy’n amhrisiadwy wrth baratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn peirianneg.”

Wrth iddo gwblhau ei flwyddyn olaf, mae Joao’n gyffrous am y llwybr sydd o’i flaen. “Rwyf am adeiladu gyrfa sy’n cyfuno fy angerdd am beirianneg gyda fy nghariad at gerbydau modur. Rwy’n ddiolchgar i’r Drindod Dewi Sant am roi’r sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnaf i wireddu’r weledigaeth honno.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon