ϳԹ

Skip page header and navigation

Cymerodd myfyrwyr o gwrs Troseddeg a Phlismona Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ran mewn ymarferiad hyfforddi trochol ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn Uned Hyfforddi Earlswood. Cynigiodd y cydweithredu hwn brofiad ymarferol gwerthfawr i’r myfyrwyr, gan bontio dysgu academaidd â senarios ymateb brys yn y byd go iawn.

A group of people wearing high vis jackets standing in front of a fire engine at a training centre

Drwy gydol yr ymarfer hyfforddi, a arweiniwyd gan y darlithydd Melanie Thomas, bu myfyrwyr yn ymgysylltu’n uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau brys, gan gael cipolwg ar y cydweithredu hollbwysig sydd ei angen rhwng asiantaethau ar safle digwyddiad. Roedd y profiad yn caniatáu iddynt roi eu gwybodaeth a’u sgiliau academaidd ar brawf mewn amgylchedd efelychiadol ond realistig, gan atgyfnerthu cymwysiadau ymarferol eu hastudiaethau.

Amlygodd Dr Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona yn PCYDDS, bwysigrwydd mentrau o’r fath, gan ychwanegu: “Mae’n rhan hanfodol o’n rhaglen yma yn PCYDDS i sicrhau bod myfyrwyr sy’n cychwyn ar yrfa broffesiynol yn cael cyfleoedd i  ymgysylltu â chyflogwyr yn ystod eu hastudiaethau.

“Mae hyn yn eu galluogi i gael cipolwg dyfnach ar eu dewis broffesiwn o safbwynt academaidd ac ymarferol. Mae PCYDDS yn ddiolchgar i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am ddarparu’r cyfleoedd dysgu amhrisiadwy hyn i’n myfyrwyr.”

Pwysleisiodd Chris Coles, Dirprwy Bennaeth Hyfforddiant GTACGC werth yr ymarfer i fyfyrwyr a phersonél y gwasanaeth tân.

“Mae’n bleser croesawu myfyrwyr o gwrs Troseddeg a Phlismona PCYDDS i leoliad hyfforddi GTACGC yn Earlswood i ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant realistig sy’n seiliedig ar senarios. Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i bersonél y gwasanaeth tân a’r myfyrwyr fel ei gilydd ddeall rolau ei gilydd yn well mewn amgylchedd dysgu cyffredin, gan adeiladu a meithrin perthnasoedd gwaith rhagorol sy’n hanfodol i ddarparu ymateb brys aml-asiantaeth effeithiol.”

Mae’r cydweithredu’n amlinellu ymrwymiad PCYDDS i integreiddio profiadau dysgu ymarferol i’w rhaglenni academaidd, gan arfogi myfyrwyr â’r wybodaeth a’r mewnwelediadau ymarferol sy’n hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol ym maes plismona a throseddeg. Mae ymroddiad GTACGC i ragoriaeth hyfforddi a meithrin partneriaethau gyda sefydliadau addysgol yn chwarae rhan hanfodol wrth baratoi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes diogelwch y cyhoedd.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon