ϳԹ

Skip page header and navigation

Mewn digwyddiad arddangos yn Adeilad IQ y Brifysgol yn Abertawe, bu gweithwyr proffesiynol GIG Cymru a’r maes Gofal Cymdeithasol yn rhannu enghreifftiau o ymchwil arloesol gan fyfyrwyr sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn lleoliadau iechyd a gofal ledled y wlad i gefnogi trawsnewid digidol.

A large group of lecturers and students standing on the staircase in IQ.

Mae’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn astudio ar gyfer  yn y Brifysgol, sef y cwrs cyntaf o’i fath yn y DU i gael ei achredu yn erbyn meini prawf rhyngwladol mewn addysg gwybodeg feddygol.

Mae’r cwrs yn addas i’r rhai sydd â diddordeb mewn ehangu a gweithio o fewn tirwedd ddigidol y ddarpariaeth iechyd a gofal.

Mae’r rhaglen wedi’i datblygu fel rhan o WIDI ac mae PCYDDS wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gefnogi’r myfyrwyr.

Mae’r bartneriaeth hon yn ysgogydd allweddol i wella’r gweithlu digidol ar gyfer y Sector Iechyd a Gofal yng Nghymru.

Cafwyd cyflwyniadau gan y myfyrwyr canlynol:

  • Angela Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 
  • Ambu Ambalavanan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 
  • Carl Davies, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 
  • Sian Perry, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 
  • Dafydd James, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 
  • Robert Brain, Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Andrew Shuler, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 
  • Claire Muxworthy, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
  • Luke Padwick, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre 
  • Sheiladen Aquino, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 
  • Thoko Owino, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Meddai’r Athro Philip Scott, Rheolwr y Rhaglen: “Rydym yn falch iawn i weld sut mae ein myfyrwyr wedi gallu cymhwyso eu dysgu yn y gweithle, gan ddod â dull seiliedig ar dystiolaeth i drawsnewid digidol. 

“Maent wedi dod â phersbectifau newydd i nifer o brosiectau ledled Cymru, fel bod eu meddylfryd yn academaidd drylwyr a’u ffocws ar wella gwasanaethau nid yn unig y dechnoleg er ei mwyn ei hun.  

“Mae myfyrwyr wedi gweithio mewn llawer o feysydd amrywiol fel nyrsio pediatrig, gofal cymdeithasol, fferylliaeth, gofal diwedd oes, cofnodion iechyd personol, therapi lleferydd a rheoli wardiau ysbyty.”

Meddai’r Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn y Drindod Dewi Sant: “Yn y Drindod Dewi Sant, rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i weithio â phartneriaid i sicrhau bod ein rhaglenni’n gyfoes ac yn adlewyrchu cyd-destun y ‘byd go iawn’, ac nid yw’r rhaglen feistr hon yn eithriad. 

“Rydym wedi galw gweithwyr proffesiynol y diwydiant i mewn i weithio ochr yn ochr â’n timau academaidd a’n partneriaid er mwyn rhoi’r adnoddau i’n myfyrwyr adeiladu ar eu harbenigedd unigryw i feithrin diwylliant o gynhwysiant, gan ddefnyddio eu sgiliau digidol a data i barhau i gyflwyno gwasanaeth iechyd a gofal o’r radd flaenaf i’n dinasyddion.”

A lady wearing a floral dress standing in front of a large screen.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon