Myfyrwyr Addysg gyda SAC yn gweithio yn Camp Kodiak
Cafodd pedwar myfyriwr o’r cwrs BA Addysg gyda SAC o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant y profiad o weithio dros yr haf yng ngwersyll haf Camp Kodiak yn Canada, gyda phlant ag ASD, ADHD ac Anableddau Dysgu.
Teithiodd Catrin Williams, Emily Palmer, Liv Mathias a Jamie Le Messurier i Ganada ar ôl i un o’r gyfarwyddwyr y gwersyll ddod i’r brifysgol i gynnal sesiwn er mwyn hyrwyddo’r gwersyll a’i gyfleoedd, a dangos iddynt pa fath o weithgareddau roeddent yn eu ddarparu i blant allan yno.
Ar ôl i’r myfyrwyr gyrraedd Canada, fe gawsant hyfforddiant gan staff y gwersyll. Cawsant gyfle i sgwrsio â chyn wersyllwyr a chlywed am eu profiadau, a thrafod themâu fel iechyd meddwl a diogelu plant.
Dywedodd Catrin:
“Gan ein bod i gyd yn astudio’r cwrs Addysg Cynradd (SAC) roedd yn fuddiol gweld strategaethau a chyfleoedd a roddir i blant mewn rhan arall o’r byd. Roedd yn wersyll preswyl, ac yn cynnig ystod o weithgareddau a fyddai’n ehangu sgiliau’r plant yn ogystal â’n rhai ni.”
Yn ystod eu cyfnod yn y gwersyll, bu’r plant yn dysgu sgiliau amrywiol drwy nifer o weithgareddau difyr, ac roeddent yn cael awr academaidd bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Roedd yna bwyslais hefyd ar ddysgu sgiliau cymdeithasol iddynt, a rhoi’r cyfle i nhw weithio fel tîm er mwyn cyflawni tasgau dyddiol fel tacluso’r caban, a gosod y bwrdd amser cinio.
Bu’r cyfle i weithio â phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol yn brofiad gwerthfawr i’r myfyrwyr. Roedd y plant yn dilyn strwythur a rheolau clir yn y gwersyll, rhywbeth tebyg i ddiwrnod ysgol. Oherwydd anghenion y plant, doedden nhw ddim yn hoffi newid, felly bu’n rhaid i’r myfyrwyr rannu newyddion i’r gwersyllwyr y noson cynt er mwyn gallu sicrhau cysondeb. Mae’r sgiliau wedi’u helpu i baratoi ar gyfer y modiwlau ar y cwrs gradd yn y brifysgol gan eu bônt wedi cael profiad ‘go iawn’ o ddelio gyda iechyd a lles.
Ychwanegodd Catrin:
“Agorodd Camp Kodiak fy llygaid am y trafferthion mae plant yn gallu cael tra’u bod yn yr ysgol, ac roedd hi’n hyfryd i weld faint oedd y gwersyll yn meddwl iddyn nhw. Roedd nifer o’r plant yn disgrifio’r gwersyll fel ‘adref’, rhywle ‘saff’ a’i lle gorau yn y byd! Roedd pob plentyn wedi datblygu, ac roedd yn anhygoel i weld.
“Mae Canada wedi agor fy llygaid am allu pob disgybl, ac roedd gweld technegau i adael plant ddatblygu dros yr haf yn anhygoel.”
Ychwanegodd Jamie:
“Roedd fy amser yng Nghanada yn brofiad anhygoel. Gwnaeth ganiatáu i mi brofi addysgu mewn amgylchedd gwahanol, a gyda grŵp amrywiol o wersyllwyr. Rhoddodd camp Kodiak y cyfle i mi ddatblygu sgiliau unigryw wrth addysgu. Llwyddais i feithrin perthynas anhygoel gyda’r cwnselwyr a’r gwersyllwyr, ac roedd gweld cynnydd y gwersyllwyr dros yr haf yn dyfnhau fy ngwerthfawrogiad o effaith dysgu ymarferol.
“Ar y cyfan, nid oedd fy amser yn Camp Kodiak yn ymwneud ag addysgu yn unig, roedd yn daith o ddarganfod fy hun, cyfeillgarwch a hunan-dwf y byddaf yn ei drysori am byth.”
Mae’r cyfnod yn y gwersyll hefyd wedi dysgu’r myfyrwyr sut i fedru addasu gweithgareddau o dan amgylchiadau annisgwyl, a oedd yn eu gorfodi i wneud penderfyniadau pwysig yn sydyn – sgil hanfodol i’w paratoi ar gyfer eu gyrfa dysgu.
Arweiniodd y pedwar weithgaredd arbenigol yr un yn y gwersyll, Emily gyda’r hwylio, Catrin yn marchogaeth, Liv gyda’r creigiau a rhaffau, a Jamie yn arbenigo yn y maes chwaraeon a fu’n gyfle euraidd iddynt.
Meddai Emily:
“Bu’n gyfle i ni ehangu a dysgu sgiliau newydd – ar bethau na fyddwn yn gallu gwneud adref, er enghraifft, hwylio - profiad bythgofiadwy! Os gewch chi fyth o’r cyfle, ewch amdani!”
Dywedodd Liv:
“Roedd fy mhrofiad yn Camp Kodiak yn wirioneddol anhygoel ac mae wedi newid fy mywyd. Dysgais nid yn unig sgiliau newydd amhrisiadwy fel amynedd, gwytnwch ac arweinyddiaeth, ond fe wnes i hefyd ffurfio cyfeillgarwch gydol oes gyda gweithwyr arall a gwersyllwyr.
“Fel athro dan hyfforddiant, mae’r profiad hwn wedi fy siapio’n bersonol ac yn broffesiynol, gan fy helpu i dyfu mewn ffyrdd nad oeddwn i erioed wedi’u disgwyl. Er nad oedd gen i unhyw brofiad blaenorol gyda dringo creigiau na rhaffau uchel, ar ôl wythnos o hyfforddiant, roeddwn yn hyderus, ac wedi cael fy hyfforddi i sicrhau diogelwch y gwersyllwyr. Byddwn yn argymell Camp Kodiak yn Ilwyr i unrhyw un sy’n ei ystyried”
Dywedodd Fiona Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen BA Addysg gyda SAC yn y Drindod Dewi Sant:
“Mae’r profiadau mae’r myfyrwyr wedi cael allan yn Canada wedi bod yn werthfawr iawn. Wrth iddynt ddilyn y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC, mae wedi caniatáu y myfyrwyr i addysgu mewn amgylchedd gwahanol a datblygu sgiliau unigryw wrth addysgu. Mae’r profiadau maen nhw wedi derbyn yn eu galluogi i feddwl am wersi cyd destun dilys bywyd go iawn, trwy gael profiadau yn yr awyr agored, sydd yn holl bwysig i Gwricwlwm i Gymru 2022. Atgofion bythgofiadwy.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476