ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae James Dillon, myfyriwr Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi dychwelyd yn ddiweddar o brofiad astudio dramor ym Mhrifysgol De Utah (SUU) yn Cedar City, Utah. Wedi’i ariannu gan raglen Taith, treuliodd James semester yn ymgolli yn llwyr ym mywyd academaidd a diwylliannol yn SUU, gan gael cip gwerthfawr ar ei faes astudio a thwf personol.

James Dillon playing golf

Yn ystod ei gyfnod yn SUU, mynychodd James gyrsiau a oedd yn ategu ei radd yn Y Drindod Dewi Sant gan fyw ar y campws mewn neuaddau preswyl. Un o’i brif amcanion oedd archwilio sut mae addysg gorfforol yn cael ei dysgu i fyfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr Unol Daleithiau, sef pwnc o ddiddordeb cynyddol yn ei yrfa academaidd.

“Ces i lawer o ganfyddiadau ar sut mae Addysg Gorfforol yn cael ei darparu i fyfyrwyr prif ffrwd yn ogystal â’r rhai sydd ag anghenion ychwanegol,” meddai James. “Es i hefyd i ffwrdd ag arddull addysgu rwy’n ei hedmygu ac rwy am ei defnyddio fy hun, yn ogystal â chanfyddiad i lwybr gyrfa rwyf am ei ddilyn.”

Yn ogystal â’i ymrwymiadau academaidd, cymerodd James rôl arweinyddiaeth yn un o’i ddosbarthiadau, gan helpu i addysgu sgiliau amrywiol ac arwain sesiynau ymarferol. Bu hefyd yn dogfennu ei daith drwy flogiau a chyflwyniadau, gan rannu ei brofiadau â chynulleidfa ehangach.

Fel llawer o fyfyrwyr sy’n astudio dramor, wynebodd James heriau megis hiraeth i ddechrau. Meddai: “Llwyddais i oresgyn hyn diolch i’r bobl gefnogol o’m cwmpas i a’r cyfle i archwilio fy amgylchedd newydd. Yn ystod gwyliau’r gwanwyn, cymerais i’r amser i ganolbwyntio o’r newydd ar fy nodau, a oedd yn help i mi wneud yn fawr o’r profiad.”

A photo of James Dillon sitting next door to a friend and somebody dressed up in an Eagle costume

Croesawodd James hefyd y cyfle i ymgysylltu â chyd-fyfyrwyr rhyngwladol, yn enwedig y rhai o Ganolbarth Ewrop a Sgandinafia. Gyda’i gilydd, buont yn archwilio diddordebau cyffredin ac yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau diwylliannol. “Roedd hi’n addysg cael deall gwahanol safbwyntiau a chred, gan fy nghyd-ddisgyblion Americanaidd a’r gymuned ryngwladol yn SUU,” ychwanegodd.

 “Ces i eglurder ar y cyfeiriad yr hoffwn i ei gymryd yn fy ngyrfa ac ailddatgan fy nghamau nesaf yn dilyn fy ngradd. Fe wnes i hefyd ddod o hyd i ran o’r byd y gwnes i fwynhau ymweld ag ef yn fawr ac rwy’n gobeithio dychwelyd yn y dyfodol agos.”

Canmolodd Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol (Gogledd America a Symudedd Allanol) yn Y Drindod Dewi Sant, ymrwymiad a gwytnwch James drwy gydol ei brofiad astudio dramor. Meddai: “Rydyn ni’n hynod falch o James am wneud yn fawr o’r cyfle unigryw hwn. Mae’r ffaith iddo fod yn agored i brofiadau newydd a’i barodrwydd i gamu allan o’i barth cysur yn enghraifft o fanteision astudio dramor. Mae ei daith yn tynnu sylw at y twf personol a phroffesiynol sy’n deillio o gofleidio heriau newydd mewn lleoliadau anghyfarwydd.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon