ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o dynnu sylw at daith lawn ysbrydoliaeth myfyriwr a raddiodd yn ddiweddar o’r rhaglen Addysg Antur Awyr Agored, sydd nid yn unig wedi rhagori’n academaidd ond hefyd wedi goresgyn heriau personol arwyddocaol.

an image of Rhein wearing her cap and gown

Yn ystod ei hastudiaethau, darganfu Rhein Mikaelson fod ADHD arni yn ogystal â diagnosis cyfredol o dyspracsia, gan dderbyn offer hanfodol a chymorth i’w helpu i lwyddo’n academaidd ac yn ei bywyd o ddydd i ddydd.  Dywed Rhein fod y cymorth hwn wedi chwarae rhan hanfodol o ran cyfoethogi ei dealltwriaeth a’i safbwynt ynghylch addysg, gan agor lwybrau a chyfleoedd newydd. 

Roedd taith academaidd Rhein yn cynnwys astudio amrywiaeth o fodylau diddorol megis Antur yn y Cwricwlwm, Tirwedd a Hamdden Cynaliadwy, Safbwyntiau ar Addysg Awyr Agored, Teithiau Cynaliadwy, Seicoleg Antur Bersonol, a Digwyddiadau Tyngedfennol mewn Gweithgareddau Antur.  Roedd ei thraethawd hir yn canolbwyntio ar bresgripsiynu cymdeithasol gwyrdd, gan dynnu sylw at y cymorth i bobl ymwneud ag ymyriadau a gweithgareddau seiliedig ar natur i wella eu hiechyd meddwl a chorfforol.  

Dechreuodd ei hamser yn PCYDDS â gallu cyfyngedig i nofio, a oedd yn rhwystr i gymryd rhan yn llawn yng ngweithgareddau awyr agored y cwrs.  Er gwaethaf y rhwystr gychwynnol hon, dangosodd benderfyniad a gwytnwch nodedig, gan ennill yn y pen draw Ddyfarniad i Addysgu Nofio, sydd bellach yn ei galluogi i addysgu nofio i bobl eraill. 

Gan adfyfyrio ar ei thaith, meddai Rhein:

“Pan ymunais i â PCYDDS yn gyntaf, doeddwn i ddim yn gallu nofio nac arnofio hyd yn oed.  Roedd nofio yn sgil yr oedd wedi bod arnaf i eisiau ei feistroli erioed ond byth wedi gallu.  Gyda chymorth staff cefnogol, a Karin yn benodol, a roddodd wersi un-i-un, bu modd i mi gyflawni fy nod.”

Mynegodd Rhein ddiolch mawr am y staff ymrwymedig yn PCYDDS a chwaraeodd rolau canolog ar ei thaith.  Ychwanega: 

“Roedd llawer o aelodau staff wedi fy helpu ar fy nhaith academaidd ond byddem ni yma am byth os byddwn i’n eu henwi nhw i gyd.  Y staff yn y Brifysgol hon yw’r staff mwyaf gofalgar, cadarnhaol a barod i helpu dwi wedi eu hadnabod mewn unrhyw sefydliad academaidd ac maen nhw’n wir yn unigryw.”

Dywedodd Graham Harvey, Darlithydd Addysg Antur Awyr Agored Y Drindod Dewi Sant:

“Mae wedi bod yn bleser dysgu Rhein.  Roedd hi bob amser yn dod i sesiynau wedi paratoi ac yn frwdfrydig i ddysgu, gan fabwysiadu dull rhagweithiol a chwilfrydig iawn o ddysgu.  Mae Rhein wedi dangos ymrwymiad gwych i’w datblygiad personol dros y tair blynedd ac mae ei phenderfyniad a’i hiwmor da wedi caniatáu iddi wella ei dealltwriaeth a’i gallu yn fawr mewn ystod eang o weithgareddau.  Mae’r tîm staff yn edrych ymlaen at weld sut mae cynnydd rhagorol Rhein yn parhau wrth iddi gymryd y camau nesaf yn ei hantur.”

I gael rhagor o wybodaeth am raglenni Addysg Antur Awyr Agored PCYDDS, ewch i Addysg Antur Awyr Agored (Llawn Amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk/cy) neu cysylltwch ag info@uwtsd.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon