Myfyriwr Doethurol yn Dilyn Ymchwil mewn Iechyd Meddwl Cyn-filwyr.
Mae Susan McCormack, myfyrwraig Doethuriaeth mewn Ymarfer Proffesiynol (DProf) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn cynnal ymchwil i gefnogi iechyd meddwl cyn-filwyr yn ystod eu cyfnod pontio i fywyd sifil.
Mae ymchwil Susan yn canolbwyntio ar heriau iechyd meddwl unigryw cyn-filwyr ym mywyd sifil, gyda’r nod o nodi anghenion a rhwystrau penodol. Meddai:
“Drwy archwilio eu profiadau, rwy’n gobeithio datgelu’r bylchau penodol yn yr ymchwil a deall sut mae cyn-filwyr yn canfod ac yn mynd i’r afael â’u heriau iechyd meddwl ac i nodi ffactorau sydd naill ai’n cefnogi neu’n creu rhwystrau.”
Dywedodd Susan ei bod hi’n cydnabod bod naratif pob milwr yn haeddu trugaredd a chymorth ac y bydd hi’n defnyddio ei gwybodaeth i adeiladu ar yr ymchwil i gefnogi rhaglenni’r dyfodol.
“Yn aml mae’n bwrw goleuni ar effeithiau adfyd plentyndod, ymlyniad wrth ddisgyblaeth, a’r hiraeth am berthyn, sydd fel arfer yn gyrru unigolion i chwilio am ystyr mewn gwasanaeth milwrol. Trwy archwilio’r tebygrwydd hwn, gallwn ni ddeall yn well y creithiau seicolegol y mae cyn-filwyr yn eu dwyn a’r gwytnwch y maen nhw’n ei ymgorffori.” Meddai.
Disgwylir i’w chanfyddiadau lywio llunwyr polisi, cyflogwyr a gwasanaethau cymorth, gan arwain at ymyriadau mwy effeithiol wedi’u targedu. Yn y pen draw, mae’n gobeithio cyfrannu at well canlyniadau iechyd meddwl a systemau cymorth i gyn-filwyr.
Dywed Susan iddi benderfynu astudio yn Y Drindod Dewi Sant, gan ei fod yn darparu amgylchedd academaidd cyfoethog sy’n ysgogol ac sy’n gynhwysol.
“Mae ymrwymiad y brifysgol i ymchwil, datblygiad proffesiynol ac ymgysylltiad cymunedol yn sefyll allan, gan greu gofod dysgu lle gall myfyrwyr ffynnu. Mae hygyrchedd adnoddau a chymorth gan staff academaidd a chyd-fyfyrwyr yn dyst i ymroddiad Y Drindod Dewi Sant i lwyddiant myfyrwyr.”
Mae Susan wedi pwysleisio’r cymorth eithriadol a ddarparwyd gan ddarlithwyr Y Drindod Dewi Sant, y mae ei hadborth a’i hadnoddau wedi ei hannog i wthio ffiniau ei hymchwil. Mae’r rhwydwaith cymorth hwn wedi bod yn hanfodol wrth lywio heriau a mireinio ei sgiliau. Ychwanegodd:
“Mae eu harbenigedd a’u hygyrchedd wedi bod yn allweddol wrth lunio ymchwil a’m helpu i lywio heriau ar hyd y ffordd.”
Mae penwythnosau preswyl Y Drindod Dewi Sant a gynhaliwyd ar gampws Llambed hefyd wedi chwarae rhan sylweddol yn nhaith Susan, gan greu ymdeimlad cryf o gymuned ymhlith myfyrwyr, cyfadrannau a gweithwyr proffesiynol gwadd. Meddai:
“Mae’r digwyddiadau hyn yn creu ymdeimlad cryf o gymuned ac yn cynnig llwyfan ar gyfer cyfnewid syniadau, cael canfyddiadau, a derbyn adborth.”
Dywedodd Susan fod astudio ar gyfer y DProf wedi mireinio ei sgiliau ymchwil yn sylweddol ac wedi dyfnhau ei harbenigedd yng nghymuned y lluoedd arfog, yn arbennig, iechyd meddwl cyn-filwyr.
“Mae hefyd wedi gwella fy meddwl beirniadol a’m gallu i ddefnyddio theori i ymarfer, sydd wedi bod yn werthfawr yn fy rĂ´l bresennol. Y gobaith yw y bydd y rhaglen yn ehangu fy rhwydwaith proffesiynol ac yn agor cyfleoedd newydd ar gyfer ymgynghori ym maes iechyd meddwl ac arweinyddiaeth mewn gwasanaethau cymorth i gyn-filwyr.”
Meddai Laura James, Uwch Ddarlithydd a Rheolwr Rhaglen DProf yn PCYDDS:
“Rydym wrth ein bodd o gael Susan fel un o’n hymchwilwyr Doethuriaeth mewn Ymarfer Proffesiynol ac mae wedi bod yn bleser gweld ei siwrnai. Mae ymchwil Susan yn hynod bwysig ac rydym yn hyderus y bydd y canfyddiadau’n cyfrannu’n sylweddol at y maes mewn sawl ffordd. Rhannodd Susan yn garedig iawn ei chynnydd ymchwil gyda’n myfyrwyr Doethuriaeth mewn Ymarfer Proffesiynol eraill yn ein preswylfa ddiweddar yn Llambed a derbyniodd ganmoliaeth a diddordeb sylweddol yn ei phwnc. Rydym yn gyffrous i weld ymchwil Susan yn datblygu ymhellach!”
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen DProf yn Y Drindod Dewi Sant, cysylltwch â Laura James: laura.james@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ąó´ÚĂ´˛Ô:&˛Ô˛ú˛ő±č;07449&˛Ô˛ú˛ő±č;998476