Lansio’r Llyfr Global Perspectives on Children's Health Literacy yn Uwchgynhadledd Llythrennedd Iechyd Byd-eang 2024
Rhoddodd Uwchgynhadledd Llythrennedd Iechyd Byd-eang 2024, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Rotterdam, lwyfan i arbenigwyr ledled y byd arddangos datblygiadau mewn llythrennedd iechyd.
Ymhlith nifer o uchafbwyntiau’r uwchgynhadledd roedd lansio Global Perspectives on Children’s Health Literacy, yn cynnwys gwaith academyddion o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Dr Nalda Wainwright, a Dr Kate Piper. Mae’r bennod a gydysgrifennodd y ddwy ar gyfer y llyfr yn canolbwyntio ar eu gwaith yng Nghymru ar ddatblygiad echddygol plentyndod cynnar a’i rôl hanfodol wrth hyrwyddo gweithgarwch corfforol a llesiant gydol oes. Mae’n pwysleisio dull blaengar o ymdrin ag iechyd, sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad echddygol yn ystod plentyndod cynnar. Trwy feithrin hyder a chymhelliant i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, mae’r gwaith hwn yn hyrwyddo dull seiliedig ar gryfderau iechyd - sy’n canolbwyntio ar atal afiechyd a chefnogi lles hirdymor.
Meddai Dr Nalda Wainwright, Cyfarwyddwr Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru:
“Rydyn ni mor falch bod ein gwaith yma yng Nghymru wedi ei arddangos mewn llyfr mor anhygoel sy’n edrych ar arfer gorau yn fyd-eang. Mae’r gydnabyddiaeth o’n gwaith o gefnogi iechyd yn dangos y potensial sydd gennym ni yma yng Nghymru i fuddsoddi yn ein plant ifanc i atal cyflyrau iechyd sy’n gysylltiedig ag anweithgarwch”.
Mae’r astudiaeth achos yn y bennod yn tynnu sylw at SKIP Cymru, rhaglen datblygiad proffesiynol arloesol a ddarperir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae SKIP Cymru yn hyfforddi athrawon, staff blynyddoedd cynnar, a gweithwyr iechyd proffesiynol ar draws sectorau, gan roi’r offer iddynt gefnogi datblygiad echddygol mewn plant. Mae’r cydweithrediad traws-sector hwn wedi bod yn allweddol wrth wella llythrennedd iechyd yng Nghymru ac wrth sicrhau bod plant yn weithgar, yn hyderus ac yn ymgysylltu’n gorfforol o oedran ifanc.
Meddai Dr Kate Piper, Rheolwr Rhaglen ar gyfer BA Addysg Gorfforol:
“Mae’n bwysig i ni fod Llythrennedd Iechyd yn cael ei ystyried yn gysyniad cyfannol ehangach sydd nid yn unig yn cynnwys deall gwybodaeth iechyd ond sydd hefyd yn amlygu’r adnoddau gwerthfawr o’n cwmpas ac sy’n cefnogi ein hiechyd. Roeddem ni’n falch iawn o gael y cyfle i ysgrifennu’r bennod hon ac ystyried y cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol a llythrennedd iechyd.”
Mae’r bennod hefyd yn tynnu sylw at y cydweithio arloesol rhwng SKIP Cymru a , sydd wedi arwain at ddatblygu hyfforddiant arbenigol ar gyfer hyfforddwyr chwaraeon. Mae hyn yn sicrhau bod egwyddorion llythrennedd corfforol ac iechyd yn cael eu hymgorffori ar draws y sectorau addysg, iechyd a chwaraeon. Yn ogystal, datblygwyd y fenter i rymuso rhieni â’r wybodaeth a’r offer i gefnogi datblygiad echddygol eu plant gartref. Trwy ap hygyrch, gall rhieni gefnogi twf corfforol eu plant, gan sicrhau eu bod nhw’n datblygu sgiliau echddygol hanfodol yn ystod y blynyddoedd ffurfiannol hyn.
Mae cyfraniad staff Y Drindod Dewi Sant i’r llyfr yn tanlinellu pwysigrwydd ymyrraeth gynnar a chydweithio traws-sector i sicrhau bod plant yn datblygu’r sgiliau corfforol sydd eu hangen ar gyfer bywyd iach. Trwy hyfforddi gweithwyr proffesiynol ac ymgysylltu â rhieni, mae’r rhaglenni hyn yn gosod meincnod ar gyfer mentrau llythrennedd iechyd byd-eang sy’n canolbwyntio ar atal a lles.
I gael rhagor o wybodaeth am SKIP Cymru a’r rhaglenni cysylltiedig cysylltwch â:
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476