Het Reidio Imogent
Mae ATiC wedi bod yn gweithio gyda Cerebra i helpu dylunio helmedau pwrpasol. Bu inni gynorthwyo Dr Ross Head a’r tîm drwy ddarparu technoleg sganio 3D i fapio maint a siâp pen Imogen i greu amddiffyniad unigryw ar gyfer ei phen.
Ganed Imogen, sy’n 7 oed, 11 mis yn gynnar gyda pharlys yr ymennydd a hydroceffali, chwyddo gormodol ar yr ymennydd sy’n golygu bod ei phen yn lletach na’r arfer. Mae Imogen yn treulio cryn dipyn o’i hamser mewn cadair olwyn, felly mae marchogaeth yn ffynhonnell llawenydd mawr iddi – ond roedd yn amhosibl dod o hyd i helmed oedd yn ei ffitio.
Newidiodd hynny i gyd pan ddechreuodd Dr Ross Head a thîm Canolfan Arloesi Cerebra helpu. Roeddynt yn gallu defnyddio sgrinio digidol 3D i ddylunio het reidio pwrpasol i gadw Imogen yn saff yn y cyfrwy.