窪蹋勛圖厙

Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol wedi bod yn cael budd o ddefnyddio technegau dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg i ddyfnhau eu dealltwriaeth o addysg gorfforol a hyfforddi chwaraeon.  

Dr Dylan Blain teaching in the Immersive Suite
Dr Dylan Blain with students - immersive suite

Mae Dr Dylan Blain, Cyfarwyddwr Academaidd Chwaraeon a Bywn Iach ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn defnyddior Ystafell Drochi ar gampws Caerfyrddin i gefnogi dysgu gan fyfyrwyr mewn modwl Gweithgareddau Cystadleuol.    

Mae Dr Blain yn defnyddior gofod i archwilio senarios chwaraeon go iawn i gefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth am ddarparu profiadau chwaraeon o ansawdd uchel ar gyfer pobl ifanc.  Drwy ddelweddu senarios chwaraeon lefel uchel or byd go iawn, gall myfyrwyr ddynodi elfennau allweddol o chwaraeon y gall pobl ifanc eu dysgu ar lefel syn briodol yn ddatblygiadol. 

Meddai Dr Blain:  Yr allwedd yw i fyfyrwyr ddeall beth yw agweddau craidd yr amrywiaeth o chwaraeon y bydd pobl ifanc yn eu dysgu fel arfer mewn addysg gorfforol yn yr ysgol a chwaraeon cymunedol er mwyn iddynt hwythau wedyn allu dyfeisio gweithgareddau syn briodol yn ddatblygiadol syn cefnogi dysgu mewn modd hwyliog y gall pawb ei fwynhau.  Yn y modwl hwn rydym yn canolbwyntio ar yr hyn a elwir yn ddull tactegol o addysgu chwaraeon. 

Gosodwyd yr Ystafelloedd Trochi yn 2023 ar gampysau Caerfyrddin ac Abertawe y Brifysgol, ac maent yn darparu ffyrdd effeithiol i lawer o ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth au sgiliau.   Maent yn darparu cynnwys ac amgylcheddau artiffisial a gr禱wyd yn ddigidol syn atgynhyrchu senarios bywyd go iawn yn fanwl gywir, yn yr achos hwn digwyddiadau chwaraeon, er mwyn gallu dysgu a pherffeithio sgiliau a thechnegau newydd. 

Meddai James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol PCYDDS: Trwy ein gofodau trochi, rydym yn chwyldroir ffordd y mae myfyrwyr yn dysgu, trwy ddarparu profiad addysgol rhyngweithiol, diddorol, a chofiadwy ar eu cyfer syn dod 璽r cwricwlwm yn fyw.

Nid yn unig y mae gweithredu gofodau trochi ym maes addysg yn cyfoethogi ymgysylltiad a chymhelliant myfyrwyr, ond maen eu galluogi hefyd i brofi a rhyngweithio 璽r cwricwlwm mewn ffordd fwy ystyrlon a chofiadwy. Maer dull hwn yn darparu ar gyfer dysgu trwy brofiad a dysgu mwy gweithredol, sydd, yn 繫l yr ymchwil, yn fwy effeithiol o ran cadw gwybodaeth yn y cof yn hirdymor.

Maer defnydd o dechnoleg drochi fel realiti rhithwir ac estynedig, yn caniat獺u i fyfyrwyr archwilio a dysgu am bynciau a chysyniadau a fyddai fel arall yn anodd neun amhosibl eu hatgynhyrchu mewn ystafelloedd dosbarth traddodiadol. Maer defnydd y mae cydweithwyr addysg gorfforol a hyfforddi chwaraeon yn ei wneud or dechnoleg yn enghraifft wych o beth y mae modd ei gyflawni.

Yn ogystal 璽 defnyddior ystafell drochi yn ei addysgu, mae Dr Dylan Blain wedi bod yn flaenllaw o ran integreiddio technoleg i mewn i addysg gorfforol a chwaraeon. Ynghyd 璽 chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerfaddon ac Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain, cyhoeddodd bapur yn ddiweddar ar botensial dulliau cyfunol ag elfennau o gemau ar gyfer addysg gorfforol yn yr ysgol fel modd o ddychmygu dyfodol ar gyfer y pwnc.  

Ychwanega Dr Blain: Gwnaeth gorfod darparu addysg gorfforol o bell yn y cyfnodau clo yn ystod Covid-19 i ni ailystyried sut gallen ni ddefnyddior gwersi a ddysgwyd i wella addysg gorfforol ar 繫l y pandemig.  Mae cyfuno opsiynau darparu o bell or fath 璽 dysgu mwy wyneb yn wyneb yn ffordd amlwg, fodd bynnag maen bosibl bod gweithredu dulliau or fath mewn ffyrdd syn cynnwys elfennau o gemau yn gallu darparu profiadau mwy ysgogiadol a deniadol ar gyfer pobl ifanc.  At ei gilydd, ein nod yw hyrwyddo profiadau gweithgarwch corfforol cadarnhaol ar gyfer pobl ifanc ac maen bosibl bod archwilior defnydd o brofiadau cyfunol ag elfennau o gemau yn un ffordd o wneud hyn.

Gallwch ddarllen y papur a gyhoeddwyd yn European Physical Education Review gyda mynediad agored a rhad ac am ddim yma - 

I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau ym maes Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored ewch i wefan y Brifysgol.

Nodiadau i olygyddion:

Gofodau Trochi:  Gan weithio gydar partner Clyweledol, IDNS, ac wediu hariannun rhannol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gynt (CCAUC, Medr bellach), gosodwyd y mannau dysgu newydd cyntaf ou bath yng Nghymru ar gampysau Caerfyrddin ac Abertawe y Brifysgol.  

Maer Gofodau Trochi yn defnyddio sgriniau LED diweddaraf Samsung ar draws tair wal gan greu profiad ir defnyddiwr syn llwyr ymdrochol gyda realiti rhithwir ac estynedig. Maer mannau dysgu yn galluogi i fyfyrwyr brofi realiti rhithwir trochi, fideos a delweddau 360簞 a chymwysiadau trwy feddalwedd drochi ein partner Igloo Vision.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
幛款繫紳:&紳莉莽梯;07968&紳莉莽梯;249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon