Galwad am Bapurau: Dathlu 40 mlynedd o Desperately Seeking Susan
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyhoeddi cynhadledd ryngwladol i gofio 40 mlynedd o Desperately Seeking Susan, y ffilm eiconig, wedi’i chyfarwyddo gan Susan Seidelman, a ailddiffiniodd gyfeillgarwch benywaidd ar y sgrin.
Cynhelir y digwyddiad hwn ddydd Iau, 10 Ebrill, a dydd Gwener, 11 Ebrill 2025, yng Nghanolfan Dylan Thomas PCYDDS yn Abertawe. Bydd yn dod ag ysgolheigion, pobl greadigol, a selogion at ei gilydd i archwilio treftadaeth ddiwylliannol y ffilm a phortreadu cyfeillgarwch benywaidd sy’n cael ei esgeuluso’n aml yn y cyfryngau gweledol.
Yn y sinema, straeon o gyfeillgarwch gwrywaidd sy’n dwyn y sylw yn aml, wedi’u mawrygu drwy naratifau anturus neu lawn emosiwn. Ond, anaml y rhoddid yr un sylw i gyfeillgarwch benywaidd, sydd yr un mor ddeinamig ac yn drawsffurfiol iawn. Torrodd Desperately Seeking Susan y mowld hwnnw, gan gyflwyno darluniad llawen a haenog o fenywod yn ffurfio cysylltiadau, yn adfer galluogedd, ac yn herio disgwyliadau cymdeithasol.
Meddai Rebecca Ellis, darlithydd yn PCYDDS a threfnydd y gynhadledd:
“Rydym yn falch o gynnal y gynhadledd hon i ddathlu cyfeillgarwch benywaidd mewn ffilm – pwnc sy’n cael ei archwilio’n anaml yn y byd academaidd. Mae’n gyffro i ni groesawu (yn rhithwir) y cyfarwyddwr Susan Seidelman (Desperately Seeking Susan, Sex & The City) i gyflwyno cipolwg newydd ar y ffilm wrth iddi ddathlu 40 mlynedd.
“Rydym wrth ein boddau i anrhydeddu’r ffilm arloesol hon ac yn croesawu cyfraniadau gan leisiau o bob rhan o’r byd”
Gwahoddir ysgolheigion, ymchwilwyr, ac ymarferwyr i gyflwyno crynodebau o ddim mwy na 250 o eiriau, ynghyd â bywgraffiad byr o hyd at 150 o eiriau. Dylai cyflwyniadau archwilio pynciau megis:
- Portreadau o gyfeillgarwch benywaidd mewn ffilm a theledu, yn y gorffennol a’r presennol.
- Gweithiau gan gyfarwyddwyr benywaidd nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi ddigon.
- Astudiaethau achos o DesperatelySeeking Susan a naratifau tebyg wedi’u gyrru gan fenywod.
- Dadansoddiadau o berfformiad a phersona seren Madonna, a thrac sain y ffilm.
Rhaid cyflwyno crynodebau erbyn dydd Gwener, 17 Ionawr 2025. Anfonir hysbysiadau o dderbyniad erbyn dydd Mercher, 20 Chwefror 2025, a dylai’r cyflwyniadau terfynol gael eu hanfon mewn erbyn dydd Mawrth, 1 Ebrill 2025. Dylid anfon pob cyflwyniad at Rebecca Ellis yn r.ellis@uwtsd.ac.uk
Peidiwch â cholli’r cyfle cyffrous hwn i dwrio i gyfraniadau diwylliannol arloesol DesperatelySeeking Susan ac i ddathlu pŵer oesol cyfeillgarwch benywaidd.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Rebecca Ellis yn r.ellis@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476