Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams 2024
Bydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn cynnal Darlith Goffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams nos Iau, 12 Rhagfyr.
Sefydlwyd y Ddarlith Goffa hon yn 2001 er cof am y diweddar Athro J. E. Caerwyn Williams a’r ddiweddar Mrs Gwen Williams. Y siaradwr gwadd eleni yw Dr Ceridwen Lloyd-Morgan.
Magwyd Ceridwen Lloyd-Morgan yn Nhre-garth ac fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgolion Rhydychen a Poitiers. Cyn ymddeol mi fu hi’n gyn-bennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol yn y Llyfrgell Genedlaethol. Llenyddiaeth Arthuraidd a’r cysylltiadau rhwng llenyddiaethau Ffrainc a Chymru yw un o’i phrif feysydd ymchwil, a hi oedd cyd-olygydd, gydag Erich Poppe, y gyfrol Arthur in the Celtic Languages (GPC, 2019). Mae hi’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig ac yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae hi’n aelod o Fwrdd Rheoli Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor, ac ar hyn o bryd mae hi’n cydarwain, gyda dwy ysgolhaig o Ffrainc, brosiect ar gyfieithadau ac addasiadau o ramantau’r greal o’r Ffrangeg i’r ieithoedd Celtaidd a Sgandinafaidd.
Testun y ddarlith fydd “O’r Hen Ogledd i ‘anturyeu y greal’: Esblygiad Peredur”. Bydd y ddarlith hon yn edrych o’r newydd ar y cymeriad(au) o’r enw Peredur mewn llenyddiaeth Gymraeg, gan olrhain y trawsnewid a ddigwyddodd yn y ffordd y’i portreadwyd, o’r ffynonellau cynnar hyd diwedd yr Oesoedd Canol. Wrth dafoli dylanwad cynyddol y rhamantau Ffrangeg, ystyrir y gwahanol ffactorau a ddylanwadodd ar ddewisiadau’r awduron Cymraeg wrth iddynt ymateb i’r her o ymgorffori’r deunydd o dramor yn y traddodiad brodorol, a’r atebion creadigol a gafwyd.
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ‘Mae’n fraint cael croesawu Dr Ceridwen Lloyd-Morgan i draddodi darlith Goffa Gwen a J. E. Caerwyn Williams eleni. Mae ei chyfraniad i ysgolheictod fel archifydd ac ymchwilydd yn ein Llyfrgell Genedlaethol yn un sylweddol a phwysig, gyda’i harbenigedd ar lenyddiaeth yr oesoedd canol a’i chyfraniad i astudiaethau Cymraeg a chymharol yn hynod nodedig. Cydnabyddwyd hyn gan y Brifysgol yn ddiweddar wrth ddyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddi. Yn ysgolhaig amlieithog, rydym yn hynod falch o’r agwedd ryngwladol a ddaw drwy waith Ceridwen, â’i chenadwri ehangach, yn enwedig yn ein perthynas â Llydaw a’r byd ffrancoffôn. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at y digwyddiad’.
Cynhelir y ddarlith yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein nos Iau, 12 Rhagfyr 2024, am 5.00 o’r gloch.
E-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i gofrestru.
Nodiadau i Olygyddion
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru:
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07384&Բ;467076