Cydweithio â Diwydiant: Cynhwysyn Allweddol ar gyfer Cyrsiau Prifysgol mewn Gastronomeg
Mae cydweithredu â diwydiant yn elfen allweddol o raglenni yn PCYDDS. Yma, mae Dr Jayne Griffith-Parry, yn amlygu pwysigrwydd partneriaeth o’r fath â’r diwydiant lletygarwch. Hi yw Cyfarwyddwr Academaidd rhaglenni Rheoli Lletygarwch a Thwristiaeth yn ogystal â’r grym y tu ôl i gystadleuaeth Cogydd Ifanc, Gweinyddwr Ifanc a Chymysgegydd Ifanc Cymru.
Yn y byd coginio sydd ohoni, sy’n datblygu’n gyflym, rhaid i gyrsiau prifysgol mewn gastronomeg sicrhau cysylltiadau cryf â’r diwydiant er mwyn parhau’n berthnasol, yn arloesol, ac yn ddylanwadol.
Yn PCYDDS, mae cydweithio rhwng y byd academaidd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn gynhwysyn hollbwysig wrth baratoi’r genhedlaeth nesaf o gogyddion, entrepreneuriaid bwyd, ac arweinwyr lletygarwch. Mae’r bartneriaeth hon yn sicrhau bod graddedigion â’r wybodaeth, y profiad a’r weledigaeth i ffynnu mewn maes cystadleuol a deinamig.
Mae rhaglenni gastronomeg PCYDDS yn datblygu’n gyflym i fodloni gofynion diwydiant bwyd a lletygarwch deinamig. Wrth i’r byd coginio symud ymlaen drwy arloesi, technoleg, a dewisiadau newidiol cwsmeriaid, mae cydweithio rhwng y Brifysgol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant wedi dod yn hollbwysig er mwyn pontio’r bwlch rhwng theori academaidd ac arbenigedd ymarferol.
Cyfoethogi Sgiliau’r Byd Go Iawn
Mae ffurfio partneriaethau ag arweinwyr y diwydiant yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol sy’n mynd tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae portffolio Gastronomeg y Brifysgol yn cynnwys interniaethau, gweithdai, a mentoriaethau gyda chogyddion, restaurateurs, a thechnolegwyr bwyd, gydag arbenigwyr lletygarwch yn darparu sgiliau a mewnwelediadau ar gyfer myfyrwyr na all gwerslyfrau eu darparu ar eu pennau eu hunain. Mae’r profiadau hyn yn paratoi graddedigion i fodloni gofynion y diwydiant gyda hyder, gan feithrin creadigrwydd, gallu i addasu, a chraffter busnes.
Cadw Cwricwla yn Berthnasol ac yn Flaengar
Mae’r sector bwyd a diod yn esblygu’n barhaus, dan arweiniad tueddiadau megis arferion cynaliadwy, arloesi gyda phlanhigion, a datblygiadau mewn technoleg bwyd. Drwy weithio’n agos â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, nod PCYDDS yw sicrhau bod ei rhaglenni’n parhau’n gyfredol â’r datblygiadau newydd diweddaraf, o arferion o’r fferm i’r bwrdd i’r defnydd o AI mewn gweithrediadau yn y gegin. Mae hyn yn helpu graddedigion i barhau’n gystadleuol mewn marchnad sy’n newid yn gyson.
Tanio Arloesi Drwy Ymchwil
Mae cydweithio â’r diwydiant o fudd nid yn unig i fyfyrwyr ond mae hefyd yn creu cyfleoedd am brosiectau ymchwil ar y cyd. Gall myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’i gilydd, archwilio syniadau, cynnyrch a thechnolegau newydd sy’n gyrru dyfodol gastronomeg. O ymchwilio i ffynonellau protein amgen i symud ymlaen o ran cynaliadwyedd bwyd, mae partneriaethau o’r fath yn arwain at ddarganfyddiadau ystyrlon sydd o fudd i’r byd academaidd a’r byd coginio ehangach.
Meithrin Arweinwyr y Dyfodol
Mae PCYDDS eisoes yn chwarae rôl bwysig o ran siapio dyfodol y diwydiant gastronomeg, gan gydweithio â ffigurau blaenllaw i feithrin datblygiad y genhedlaeth nesaf o arweinwyr coginio. Fel y deiliad trwydded yng Nghymru am y gystadleuaeth Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc, Cymysgwr Coctels Ifanc y Byd, nid yn unig y mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gystadlu ar y llwyfan byd-eang, ond hefyd i gystadlu wrth ochr eu cymheiriaid proffesiynol dan 28 oed sy’n gweithio o fewn maes lletygarwch ar draws Cymru.
Mae beirniaid y gystadleuaeth yn cynnwys Hywel Griffiths, Cyrus Todiwala, Tom Simmonds, Martyn Guest, Kevin Hodson a James Sommerin. Mae dod i gysylltiad â safbwyntiau mor amrywiol ar y diwydiant yn annog myfyrwyr i feddwl yn fyd-eang, datrys heriau’r byd go iawn, ac ymgymryd â rolau arwain ar ôl graddio.
Cryfhau Lleoliadau Swyddi a Chyfleoedd Gyrfa
Un o fuddion mwyaf arwyddocaol cydweithio â diwydiant yn rhaglenni gastronomeg PCYDDS yw ei effaith ar leoliadau swyddi. Mae’r lleoliad parhaus dros dair blynedd yn y rhaglen radd yn ymwreiddio myfyrwyr o fewn bwytai, yn caniatáu iddynt ddysgu’n ymarferol ac adnabod eu potensial llawn – cysyniad dysgu unigryw (yng Nghymru) ar y lefel hon.
Mae perthnasoedd â’n partneriaid yn creu sianel ar gyfer interniaethau, prentisiaethau, a chyfleoedd am waith. Mae’r partneriaethau hyn yn sicrhau nid yn unig fod myfyrwyr yn graddio gyda gradd, ond hefyd gyda chysylltiadau, profiad a rhagolygon gyrfa sy’n amhrisiadwy.
Main body of text.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467071