Croeso i Athro Preswyl Cymrodoriaeth Etxepare Alan R. King
Dr Mikel Gartziarena o Brifysgol Gwlad y Basg fydd Athro Preswyl Cymrodoriaeth Etxepare Alan R. King 2024 yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
Mae’r Gymrodoriaeth, a enwir ar ôl yr ieithydd nodedig, y diweddar Dr Alan R. King, yn gyfle i ysgolhaig o Wlad y Basg ddod i Gymru i ymchwilio a chyfrannu at addysgu a chyfnewid gwybodaeth ym meysydd sosioiethyddol a pholisi cynllunio iaith.
Bydd Mikel Gartziarena yn treulio chwe wythnos yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Tra yn y Ganolfan bydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymchwil yn ymwneud â sosioieithyddiaeth a’r iaith Fasgeg.
Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru:
“Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i ni groesawu ysgolhaig o Wlad y Basg i Gadair Breswyl Alan R. King mewn Sosioieithyddiaeth, fel rhan o’r bartneriaeth arbennig rhwng y Brifysgol a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg. Mae arbenigedd Dr Mikel Gartziarena ym maes addysg ddwyieithog a chyfrwng Basgeg, ac wrth i Fil y Gymraeg ac Addysg fynd drwy’r Senedd mae hyn yn arbennig o amserol i ni yng Nghymru. Yn gynharach eleni, bu’n rhan o brosiect arloesol i gyflwyno elfennau newydd i hyfforddiant athrawon yn y modelau addysg yng Ngwlad y Basg. Bydd yn rhannu’r canlyniadau cychwynnol gyda ni yn ei ddarlith hybrid o’r Llyfrgell Genedlaethol ac yn y gweithdy dilynol. Edrychwn ymlaen at ei groesawu yma a bydd ei raglen waith ym maes sosioieithyddiaeth, polisi iaith a chynllunio yn cryfhau’r cyswllt eto fyth rhwng Cymru a Gwlad y Basg. â€
Meddai Mikel Gartziarena, “Rwy’n awyddus i ddysgu mwy am realiti a heriau ieithyddol Cymru, a rhannu strategaethau a gweledigaethau ar Fasgeg a Chymraeg yn ein llwybrau cyfochrog a rhyng-gysylltiedig tuag at normaleiddio iaith.â€
Mae gan Mikel Gartziarena raglen amrywiol fel rhan o’i gyfnod fel Athro Preswyl yng Nghymru. Y digwyddiad cyntaf fydd darlith ganddo yn dwyn y teitl ‘Agweddau Ieithyddol Athrawon Cyn- ac Mewn Swydd Tuag at Basgeg’. Cynhelir y ddarlith nos Iau, 24 Hydref 2024, am 5.00 o’r gloch yn fyw yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein drwy Zoom.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Gofynnir i westeion archebu lle ymlaen llaw i ddod i’r ddarlith yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd paned am 4:30yh. Anfonwch RSVP at canolfan@cymru.ac.uk.
Os ydych am ymuno arlein cofrestrwch yma i dderbyn y ddolen Zoom:
Y diwrnod canlynol, dydd Gwener 25 Hydref, cynhelir gweithdy ar addysg yng Ngwlad y Basg i drafod manylion gwaith Mikel ymhellach ac i ystyried yr heriau a’r arfer dda sydd yn bodoli yng Nghymru. Noder mai digwyddiad wyneb yn wyneb yw’r Gweithdy. Rhaid cofrestru o flaen llaw:
Croeso cynnes i bawb.
Nodiadau i Olygyddion
Cyswllt: yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan 07590 428404. elin.jones@pcydds.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Ymysg y meysydd ymchwil mae Ieithoedd Celtaidd Cynnar, Hagiograffeg, Llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd, Rhamantiaeth a’r Ymoleuo yng Nghymru ac Ewrop, Enwau Lleoedd yng Nghymru a Phrydain, Geiriadureg. Cyfieithu llenyddol, Sosioieithyddiaeth Gyfoes a Pholisi a Cynllunio Iaith mewn Ieithoedd Lleiafrifedig. Dyma gartref Geiriadur Prifysgol Cymru a ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021.
2. Mae Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg yn hyrwyddo cydweithio ym meysydd diwylliant a’r byd academaidd gyda phartneriaid rhyngwladol (prifysgolion, endidau diwylliannol, gwyliau, canolfannau celfyddydol, ac ati), i gynyddu presenoldeb a gwelededd rhyngwladol yr iaith Basgeg a chreadigrwydd cyfoes Gwlad y Basg ac i hyrwyddo cydweithredu a chyfnewid rhyngwladol.
3. Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg i greu Cadair mewn Sosioieithyddiaeth a’i henwi ar ôl yr ieithydd nodedig Dr Alan R. King yn 2022. Mae’n rhaglen flynyddol er mwyn rhoi sylfaen gadarn i’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg yn y maes blaenoriaeth hwn gan y ddwy wlad. Mae Cadair Alan R. King yn un o ddeg o gadeiriau a gefnogir gan Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg mewn prifysgolion ar draws y byd, a hon yw’r unig un ym maes polisi a chynllunio iaith.
4. Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07384&²Ô²ú²õ±è;467076