ϳԹ

Skip page header and navigation

Bydd Brandon Roberts, Cadwraethwr Cynaliadwy o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn annerch Cynhadledd Ryngwladol BIM yng Nghaerlŷr 2025 ar 5 Chwefror. Mae’r digwyddiad hwn yn dod â lleisiau blaenllaw ynghyd o’r diwydiannau pensaernïaeth, peirianneg ac adeiladu  i archwilio dyfodol Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM) a’i rôl mewn dylunio cynaliadwy.

A male standing against a railing with a large red brick building in the background.

Mae Brandon Roberts o Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) y Brifysgol yn eiriolwr angerddol dros ailddefnyddio a chynnal yr amgylchedd adeiledig trwy gadwraeth, ôl-osod ac adfer. Gyda’i ymrwymiad dwfn i ddulliau adeiladu traddodiadol a defnyddio defnyddiau naturiol, mae Brandon yn ailffurfio’r ffordd rydym ni’n meddwl am gynaliadwyedd yn y diwydiant pensaernïaeth, peirianneg ac adeiladu.

Mae gan Brandon radd o PCYDDS, lle dyfarnwyd iddo BSc (Anrh) mewn Pensaernïaeth (2019-2022). Dechreuodd ei ddiddordeb mewn cadwraeth bensaernïol yn ystod ei ail flwyddyn, gyda phrosiect dylunio yn canolbwyntio ar ail-osod capel presennol.

Mae Brandon wedi gweithio fel Cynorthwyydd Pensaernïol Rhan 1 gyda chwmni Penseiri Darkin, gan gyfrannu at brosiectau domestig yng nghamau gwaith 1-4 RIBA. Mae hefyd wedi darparu cymorth llawrydd yn PCYDDS, gan helpu myfyrwyr pensaernïaeth i ddatblygu sgiliau digidol mewn Revit ac AutoCAD. 

Fel Arddangoswr Technegol a Staff Pensaernïol yn CWIC, mae Brandon yn cefnogi creu modelau pensaernïol, arddangosiadau VR/AR, argraffu 3D a chyflwyno modylau.   Mae hefyd yn datblygu gefeilliaid digidol pensaernïol gan ddefnyddio technolegau sganio datblygedig a chymylau pwyntiau.

Mae gwaith Brandon yn cynnwys cefnogi’r prosiect hyfforddi Passivhaus yn Sir Gaerfyrddin, “Effeithlonrwydd Heb Gyfaddawd,” gan hyrwyddo effeithlonrwydd ynni yn y maes adeiladu. Ac yntau ar hyn o bryd yn dilyn gradd meistr mewn Pensaernïaeth Gynaliadwy yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, mae Brandon yn parhau i ddyfnhau ei arbenigedd mewn cadwraeth a dylunio cynaliadwy.

Meddai Gareth Evans, Pennaeth CWIC: “Mae Brandon wedi ymrwymo i feithrin newid trawsnewidiol yn y diwydiant pensaernïaeth, peirianneg ac adeiladu, gan flaenoriaethu cadwraeth dros adeiladau newydd a hyrwyddo meddylfryd cynaliadwy trwy ddulliau cadwraeth bensaernïol arloesol.

Dywedodd llefarydd ar ran trefnwyr y gynhadledd, Ysgol Bensaernïaeth Caerlŷr:  “Mae’n anrhydedd  i ni groesawu Brandon Roberts i Gynhadledd BIM yng Nghaerlŷr 2025. Mae ei arbenigedd ym maes cadwraeth a’i ymrwymiad i gynaliadwyedd yn cyd-fynd yn berffaith â’n cenhadaeth i ysbrydoli arloesedd yn yr amgylchedd adeiledig.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon