ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae’r Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (IICED) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi derbyn yr anrhydedd uchaf mewn addysg yng nghynhadledd ryngwladol y Sefydliad Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth (ISBE), a gynhaliwyd eleni yn Sheffield. A hwythau wedi’u cydnabod am eu gwaith arloesol ym maes addysg entrepreneuraidd, cyflwynwyd y wobr i aelodau tîm IICED-PCYDDS  yn lleoliad hanesyddol Eglwys Gadeiriol Sheffield, gan amlygu eu cyfraniadau at drawsnewid addysg yng Nghymru a thu hwnt.

Three smiling and happy people standing in front of a banner.

Mae gwaith IICED-PCYDDS yn cyd-fynd yn agos â’r nod “Cyfranwyr Creadigol Mentrus” a amlinellir yng Nghwricwlwm Cymru. Wedi iddi gael y dasg gan Lywodraeth Cymru o ddatblygu canllawiau cenedlaethol, creodd IICED-PCYDDS nifer o raglenni datblygu athrawon trwy bartneriaethau â Gyrfa Cymru a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL). 

Mae’r rhaglenni hyn, dan arweiniad yr Athro Emeritws Andy Penaluna, wedi grymuso athrawon ledled Cymru i integreiddio dysgu entrepreneuraidd yn eu hystafelloedd dosbarth a datblygu dulliau arloesol i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn meddwl creadigol a menter.

Meddai’r Athro Andy Penaluna: “Dim ond rhan o’r broses yw datblygu rhaglenni hyfforddi newydd; mae’n cymryd ymrwymiad gwirioneddol i wrando ar adborth gan athrawon cymwysedig a mireinio ein dull yn seiliedig ar eu mewnwelediadau. Mae’r Drindod Dewi Sant bob amser wedi rhagori ar gysylltu ag anghenion addysgwyr, ac mae wedi bod yn amhrisiadwy clywed yn uniongyrchol gan y rhai sy’n arwain creadigrwydd ac arloesedd ar draws ysgolion Cymru.”

Siaradodd Dr Felicity Healey-Benson, cyd-arweinydd ymyriadau rhanbarthol ar gyfer NAEL, am effaith y rhaglenni:

Meddai: “Mae ein hymchwil yn crisialu lleisiau athrawon sy’n dod â Phedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru yn fyw, yn enwedig fel ‘Cyfranwyr Mentrus Creadigol.’ Drwy gyfnodau o weithdai, datblygu adnoddau, a chynlluniau peilot manwl yn Sir Gaerfyrddin, rydym wedi gweld ymroddiad addysgwyr Cymru i drosi polisi yn arfer ystyrlon. Mae’r gwaith cydweithredol hwn nid yn unig wedi sbarduno dulliau arloesol o ddysgu entrepreneuraidd ond mae wedi dangos i ni sut i gefnogi’r trawsnewidiad hwn ymhellach.”

Enillodd adroddiad IICED-PCYDDS, An Entrepreneurial Education Pipeline: Lessons from School Teacher Training in Wales, wobr categori addysg ISBE, gan danlinellu perthnasedd byd-eang addysg entrepreneuraidd mewn ysgolion. 

Fe wnaeth yr un a ddaeth yn ail, Dr Trudie Murray o Brifysgol Technoleg Munster yn Iwerddon, y mae ei hymchwil hithau hefyd yn canolbwyntio ar addysg entrepreneuraidd, ganmol cyflawniadau’r Drindod Dewi Sant:

Meddai: “Mae gweld effaith Cymru yn cael ei dathlu ar y lefel hon yn ysbrydoledig. Mae’r gwaith a wneir gan yr Athro Penaluna a’i dîm yn darparu gwersi gwerthfawr wrth hyrwyddo addysg entrepreneuraidd ar draws pob cam, neges sy’n atseinio’n gryf yma yn Iwerddon.”

Fe wnaeth yr Athro Norris Krueger, arbenigwr byd-eang blaenllaw mewn addysg entrepreneuraidd, hefyd ganmol ICED-PCYDDS:

Meddai: “Mae creu system addysg entrepreneuriaeth gynhwysfawr yn gofyn am weledigaeth a chalon, y mae’r Athro Penaluna a’i dîm yn sicr yn eu darparu. Mae eu gwaith yng Nghymru bellach yn fodel ar gyfer dysgu entrepreneuraidd ledled y byd.”

Gan adeiladu ar ei lwyddiant, mae IICED-PCYDDS wedi cwblhau gwaith gydag UNESCO yn ddiweddar, gan gefnogi arweinyddiaeth brifysgol entrepreneuraidd ar draws De America a’r Caribî. Mae trafodaethau hefyd ar y gweill gyda’r OECD i ehangu’r ymdrechion hyn yn fyd-eang, gan gadarnhau ymhellach rôl y Drindod Dewi Sant fel arweinydd rhyngwladol mewn addysg entrepreneuraidd.

Rhannodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, ei llongyfarchiadau:

“Roedd Gyrfa Cymru yn falch iawn o weithio gyda’r Athro Andy Penaluna ar rai datblygiadau dysgu proffesiynol ac adnoddau ar gyfer ysgolion.  Roeddem yn hapus iawn gyda’r canlyniadau a’r adborth cadarnhaol gan yr athrawon.  Rydym yn llongyfarch yr Athro Andy Penaluna a’r cyfranwyr ar eu gwobr gan ISBE am y papur gorau.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
ô:&Բ;07384&Բ;467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon