Ap Newydd â'r nod o ddarparu offer i rieni gefnogi datblygiad corfforol eu plant yn y blynyddoedd cynnar hanfodol.
Gyda data byd-eang yn dangos bod dros 70% o blant ag oedi datblygiadol yn eu sgiliau echddygol, a data yma yng Nghymru’n canfod bod 88% o blant 3 oed â sgiliau echddygol gwael, mae llawer o blant bellach yn mynd i’r ysgol heb gymwyseddau corfforol hanfodol, gan effeithio nid yn unig ar eu hiechyd corfforol ond hefyd ar eu sgiliau cymdeithasol ac academaidd.
Mae ap newydd a ddatblygwyd gan dîm llythrennedd corfforol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Plant y Byd ar 20 Tachwedd 2024 gyda’r thema eleni “Mae buddsoddi yn ein dyfodol yn golygu buddsoddi yn ein plant.”
Bydd yr ap MiniMovers, sy’n seiliedig ar ddegawdau o dystiolaeth ymchwil a ddatblygwyd gan dîm o arbenigwyr llythrennedd corfforol y Drindod Dewi Sant, yn mynd ati i wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd yng Nghymru a thu hwnt trwy ddarparu offer i rieni gefnogi datblygiad corfforol eu plant yn y blynyddoedd cynnar hanfodol.
Mae ymchwil gan y Drindod Dewi Sant a ledled y byd yn amlygu tuedd bryderus bod plant ifanc heddiw yn treulio mwy a mwy o amser yn gwneud gweithgareddau eisteddog, gan arwain at oedi mewn sgiliau echddygol a heriau gwybyddol a synhwyraidd cysylltiedig.
Gyda data byd-eang yn dangos bod dros 70% o blant ag oedi datblygiadol yn eu sgiliau echddygol, a data yma yng Nghymru’n canfod bod 88% o blant 3 oed â sgiliau echddygol gwael, mae llawer o blant bellach yn mynd i’r ysgol heb gymwyseddau corfforol hanfodol, gan effeithio nid yn unig ar eu hiechyd corfforol ond hefyd ar eu sgiliau cymdeithasol ac academaidd. Gydag ymchwil yn dangos bod 90% o blant â sgiliau echddygol gwael yn methu â bodloni canllawiau gweithgarwch corfforol, gwnaeth tîm y Drindod Dewi Sant, mewn cydweithrediad â’r Athro Jackie Goodway o Brifysgol Talaith Ohio a’r partner technoleg a chreadigol Matt Bond o Popex, ddatblygu MiniMovers i fynd i’r afael â’r mater hwn, trwy helpu rhieni i feithrin sylfaen o fyw’n iach ac yn egnïol o’u genedigaeth.
Dengys dros 30 mlynedd o ymchwil ym maes datblygiad echddygol fod angen datblygu sylfeini symud a dysgu yn ystod plentyndod cynnar. Dywedodd Dr Nalda Wainwright, Athro Cyswllt a chyd-sylfaenydd MiniMovers:
“Mae angen i blant ifanc gael mynediad at chwarae o ansawdd uchel, ond yn hanfodol mae angen cyfarwyddyd priodol arnynt hefyd i sicrhau eu bod yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i wneud dewisiadau bywyd iach. Gan adeiladu ar ddata byd-eang presennol a thros 12 mlynedd o ymchwil yma yng Nghymru, rydym wedi datblygu rhaglen datblygiad proffesiynol a hyfforddiant ar gyfer athrawon, staff cyn-ysgol, gweithwyr iechyd proffesiynol a hyfforddwyr. Argymhellwyd yr hyfforddiant hwn – SKIP Cymru - gan Lywodraeth Cymru yn 2019 a’i wneud yn astudiaeth achos yn neunyddiau cymorth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sef Taith i Gymru Iachach.
“Er y gall yr hyfforddiant hwn fynd i’r afael ag arbenigedd staff sy’n gweithio ym maes addysg, iechyd a chwaraeon i sicrhau y gallant gefnogi datblygiad sgiliau echddygol hanfodol plant, mae’r mater yn dechrau cyn i blant fynd i mewn i’r system addysg. Nid yw rhieni’n ymwybodol o’r niwed y mae newidiadau yn y gymdeithas yn ei achosi i’w plant ac yn sicr nid ydynt yn dewis gohirio datblygiad eu plant.”
Mewn ymateb i’r broblem hon, bu’r tîm o arbenigwyr llythrennedd corfforol yn y Drindod Dewi Sant ynghyd ag arbenigedd byd-eang gan yr Athro Jackie Goodway o Brifysgol Talaith Ohio yn UDA, yn gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiannau digidol a chreadigol i ddatblygu MiniMovers.
Mae MiniMovers yn rhoi gwybodaeth i rieni ac, yn hollbwysig, weithgareddau addas o ran datblygiad y gallant eu gwneud yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain i gefnogi datblygiad corfforol eu plant a thros amser gwrthdroi’r duedd bryderus o oedi datblygiadol echddygol.
Gan ddefnyddio algorithm unigryw, mae’r ap yn darparu gweithgareddau addas o ran datblygiad sydd wedi’u teilwra i gyfnod pob plentyn, yn seiliedig ar egwyddorion sefydledig datblygiad echddygol. Ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae MiniMovers yn offeryn dwyieithog unigryw sy’n cael ei gyfieithu ar hyn o bryd i’r Almaeneg a’r Ffrangeg, gan danlinellu uchelgais y Drindod Dewi Sant i ymestyn ei effaith yn fyd-eang. Amlygwyd effeithiolrwydd yr ap eisoes trwy astudiaeth beilot a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ac mae astudiaeth PhD amser llawn yn y Drindod Dewi Sant ar hyn o bryd yn archwilio profiadau teuluoedd gyda’r ap i wella ac ehangu’r hyn y mae’n ei gynnig ymhellach.
Ychwanegodd Dr Nalda Wainwright:
“Mae’r Drindod Dewi Sant ar flaen y gad o ran datrysiadau arloesol sydd nid yn unig yn mynd i’r afael ag anghenion addysgol ond sy’n ymateb yn uniongyrchol i newidiadau cymdeithasol. Gyda MiniMovers, rydym yn defnyddio arloesedd digidol i gefnogi teuluoedd i adeiladu sylfeini cryf ar gyfer dyfodol iach, egnïol.
“Mae’r blynyddoedd cynnar yn gyfnod hanfodol ar gyfer gosod y sylfeini hyn. Yn ôl cyhoeddusrwydd diweddar mae’r adenillion cymdeithasol o fuddsoddi mewn chwaraeon yn cyfateb i £4.44 am bob £1 a werir ac os ydym am fanteisio ar hyn mae angen i ni sicrhau bod y sgiliau echddygol hanfodol hyn yn cael eu datblygu yn y blynyddoedd cynnar fel y gall pob plentyn fanteisio ar gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol.”
Mewn oes lle mae datblygiad corfforol plant mewn mwy a mwy o berygl, mae’r ap MiniMovers yn symbol o ymrwymiad y Drindod Dewi Sant i lesiant cymunedol a datblygiad cynaliadwy. Drwy lansio’r ap hwn ar Ddiwrnod Plant y Byd, mae’r Drindod Dewi Sant yn atgyfnerthu ei hymroddiad i greu adnoddau hygyrch, effeithiol sy’n helpu i greu dyfodol mwy disglair ac iach i blant yng Nghymru a thu hwnt.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
ô:&Բ;07449&Բ;998476