ϳԹ

Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o longyfarch María José (Mache) Treviño Gonzalez, Rheolwr Rhaglen MA Addysg Antur Awyr Agored a Darlithydd mewn Chwaraeon a Byw’n Iach, ar dderbyn gwobr nodedig, sef Gwobr Creadigrwydd Karl Rohnke 2024 gan y Gymdeithas er Addysg Drwy Brofiadau.  Cyflwynwyd y wobr yn ddiweddar yng Nghynhadledd Ryngwladol y Gymdeithas yn Colorado.

An image of Mache on a beach

Mae’r wobr yn cydnabod ymrwymiad eithriadol Mache i addysg drwy brofiadau, gan arddangos ei dulliau addysgu arloesol, a’i gwaith yn datblygu adnoddau, ac yn ymgysylltu â chymunedau amrywiol.  Sefydlwyd Gwobr Creadigrwydd Karl Rohnke yn 1997 ac mae’n dathlu addysgwyr y mae’u gwaith arloesol yn ysbrydoli llawenydd, chwarae, a phrofiadau dysgu ystyrlon – rhinweddau y mae Mache yn eu harddangos yn ei gyrfa.

Wrth dderbyn y wobr, meddai Mache:  

“Rwy’n ddiolchgar dros ben ac mae derbyn y wobr hon yn fraint fawr i mi.  Mae gen i gof byw o Karl yn dweud bod ganddo weledigaeth ohonom ni’n ‘symbylwyr’, yn fwy na ‘hwyluswyr’, ac rwy’n cymryd hyn o ddifri yn fy rôl yn PCYDDS. Mae gennym y cyfle gwych i ‘symbylu’ newid, cysylltiad, empathi a chyfiawnder cymdeithasol gyda’n gweithredoedd, a thrwy hynny, feithrin y byd rydym yn breuddwydio amdano.”

A hithau â mwy na dau ddegawd o brofiad, mae effaith Mache ar addysg drwy brofiadau’n rhychwantu cyfandiroedd.  Mae’i hymrwymiad i wneud addysg yn hygyrch a dylanwadol yn amlwg yn ei phortffolio helaeth o lyfrau, llawlyfrau, ac adnoddau digidol, sy’n cael eu defnyddio’n eang gan addysgwyr ac arweinwyr cymunedol ar draws y byd.  Fel aelod o staff yn PCYDDS, mae Mache yn dod â’i chyfuniad unigryw o greadigrwydd a dysgu drwy brofiadau i Addysg Antur ac Awyr Agored, gan lunio rhaglenni dysgu hybrid gafaelgar a chydweithio â chymunedau lleol yng Nghymru. 

Tu hwnt i’w gwaith yn PCYDDS, mae dylanwad Mache yn ymestyn i America Ladin, lle oedd yn gyd-sylfaenydd Crecimiento y Aventura, asiantaeth ymgynghori sy’n integreiddio dysgu drwy brofiadau â datblygu cymunedol er mwyn mynd i’r afael â materion cymdeithasol hollbwysig, yn cynnwys cydraddoldeb rhywedd a chyfiawnder cymdeithasol.  Mae’i hymdrechion wedi helpu i ymestyn cyrhaeddiad addysg drwy brofiadau yn y rhanbarth, gyda ffocws ar greu cyfleoedd dysgu trawsffurfiol. 

Meddai Dr Dylan Blain, Cyfarwyddwr Academaidd y Portffolio Chwaraeon a Byw’n Iach yn PCYDDS: 

“Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych i aelod o staff yn yr Adran Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored. Mae’n haeddiannol iawn ac yn tynnu sylw at wobr wir am greadigrwydd ac arloesedd y mae Mache yn dod â hi i’w holl waith, ac rydym yn ddiolchgar ei bod wedi gallu gwneud hynny yn y brifysgol hefyd.”

Mae gwobr Mache yn dathlu’i hymrwymiad i feithrin creadigrwydd, chwarae, ac archwilio mewn dysgu – gwerthoedd sy’n cyd-fynd ag ymrwymiad PCYDDS i addysg arloesol sy’n cael effaith.  Rydym yn ymuno â’r gymuned fyd-eang wrth gymeradwyo’i hanrhydedd haeddiannol. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
ô:&Բ;07449&Բ;998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon