Angerdd am waith ieuenctid a gwaith dyngarol yn arwain at wobr arbennig
Mae Holly Gooch, o Aberteifi, wedi graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyda BA mewn Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (ETS Cymeradwy). Enillodd hefyd Wobr Goffa Carl John am Astudiaethau mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned*, gyda’i chyd-fyfyriwr Ash Lewis, am yr ymroddiad a’r ymrwymiad y maent wedi’i ddangos i’w hastudiaethau a’u hymarfer Gwaith Ieuenctid.
Dywed Holly fod ei thaith yn y brifysgol wedi newid ei bywyd ac wedi cadarnhau ei chariad at waith ieuenctid a hefyd at waith dyngarol.
Yn ystod blwyddyn i ffwrdd yn dilyn ei Lefel A, bu Holly yn gweithio mewn tafarn leol a roddodd gyfle iddi fyfyrio ar ei phrofiadau ei hun ac effaith tyfu i fyny mewn pentref anghysbell heb gyfleusterau i bobl ifanc. Penderfynodd wneud cais am gwrs gradd a fyddai’n ei galluogi i roi yn 繫l i bobl ifanc mewn ffyrdd a fyddai wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’w phrofiad ei hun.
Arweiniodd y penderfyniad hwn at raglen BA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol, a gymeradwywyd gan ETS, yn Y Drindod Dewi Sant. Dywed:
Ar 繫l fy nghyfweliad gydag Angharad Lewis ac Alana Enoch, fe wnes i syrthio mewn cariad 璽’r ffyrdd roedd y cwrs yn cefnogi ac yn grymuso pobl ifanc mewn ffyrdd yr oeddwn i eu hangen fel person ifanc. Dewisais Y Drindod Dewi Sant oherwydd y berthynas gref sydd gan y darlithwyr 璽’u myfyrwyr. Ar ben hynny, yn byw yn Aberteifi roedd yn ddigon agos i mi gymryd rhan ym mywyd prifysgol ond hefyd rhoi yn 繫l i’r gymuned y cefais fy magu ynddi i wneud yn si霾r y gallwn gael cymaint o effaith 璽 phosibl wrth ddysgu.&紳莉莽梯;
Fe wnes i wir syrthio mewn cariad 璽 phob agwedd ar y cwrs y ffordd maen eich grymuso, ei berthynas gref 璽 phobl ifanc a’r ffordd yr ydym yn dyrchafu teuluoedd a phobl ifanc. Mae wedi datblygu fy nghred ynof fy hun, fy hyder a fy ngwaith gyda phobl ifanc.&紳莉莽梯;
Nodau Holly oedd symud ymlaen i raglen meistr mewn gwaith cymdeithasol fel y gallai ddilyn gyrfa fel gweithiwr cymdeithasol, ond ar 繫l profiad o wirfoddoli yn Affrica fel rhan o’r cwrs yn ei hail flwyddyn, sylweddolodd faint roedd ei nodau a’i huchelgeisiau wedi newid i fod eisiau gwneud gwaith dyngarol.
Ychwanegodd: Yn ystod 2023, cefais gyfle i fynd i Affrica gyda i adeiladu meysydd chwarae ar gyfer ieuenctid difreintiedig ledled Uganda. Dyma lle daeth fy nghariad diamod tuag at waith dyngarol. Newidiodd fy mywyd yn wirioneddol, heb i’m darlithwyr ddweud wrthyf a dangos y cyfle hwn i mi, ni fyddai erioed wedi newid fy mywyd yn y ffordd y maei. Ynghyd 璽 deg myfyriwr arall, adeiladais feysydd chwarae, gan ddefnyddio dulliau creadigol i feithrin perthynas 璽 phobl ifanc a chael effaith wirioneddol ar gymuned Buyala yr oeddem wedi’n lleoli ynddi. Newidiodd y cyfle hwn fy mywyd yn wirioneddol, ac rwyf bellach wrthi’n gwneud cais i fod yn gydlynydd gwirfoddol gyda’r elusen.
Er y gallai cydbwyso gwaith ac ymrwymiadau personol, gan gynnwys cymudo i gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin, fod yn heriol ac yn llethol weithiau, dywed Holly fod ei darlithwyr yn hynod o gymwynasgar. Mae hi’n parhau:
Roedd fy narlithwyr mor gefnogol ac weithiau’n gallu symud amseroedd y darlithoedd a byddent yn aml yn cynnig sesiynau ar-lein yn ystod fy nhraethawd hir i leihau faint o straen yr oeddwn yn ei wynebu. Llwyddais i oresgyn yr holl heriau hyn oherwydd cefnogaeth fy narlithwyr, fy nheulu, ffrindiau a fy mhartner, Dan. Un frwydr fawr a wynebais wrth ddechrau yn y brifysgol oedd fy Anhwylder Gorbryder Cymdeithasol, roedd hyn yn golygu y byddwn yn aml yn cael pyliau o banig am fy nghyflwyniadau neu aseiniadau. Dyma lle roedd fy rhwydweithiau cymorth o ddarlithwyr, teulu a ffrindiau a phartner yn anhygoel.
Dywed Holly: Byddwn yn argymell y cwrs hwn i eraill sy’n meddwl am unrhyw astudiaethau sy’n ymwneud 璽 Phobl Ifanc. Doeddwn i ddim yn sylweddoli faint fyddai’r cwrs hwn yn rhoi hyder i mi weithio gyda phobl ifanc a’r cyfleoedd y byddai’n eu rhoi imi. Mae’n gwrs anhygoel sy’n llawn darlithwyr a myfyrwyr anhygoel sydd i gyd yn angerddol am gael effaith ar bobl ifanc trwy ffyrdd diddorol a hwyliog. Ar ben hynny, mae’r cwrs wedi dyrchafu fy hyder a’m sgiliau i gael effaith positif yn fy nghymuned.
Dywed Angharad Lewis, Rheolwr y Rhaglen: Mae gweld taith Holly dros y tair blynedd diwethaf, yn bersonol ac yn academaidd, wedi bod yn fraint. Mae hi wedi goresgyn nifer o heriau ac mae hi wir wedi camu allan o’i pharth cysur yn ystod ei chyfnod fel myfyriwr Gwaith Ieuenctid. Mae hyn yn dangos gwydnwch Holly a’i gallu i ymateb i unrhyw amgylchiadau y mae’n eu hwynebu. Bydd y rhinweddau hyn yn ei rhoi mewn sefyllfa dda fel Gweithiwr Ieuenctid 璽 chymwysterau proffesiynol.
Pan dwi’n meddwl am Holly, dwi’n gweld rhywun sy’n hynod greadigol gyda gallu gwych i feddwl tu allan i’r bocs. Gellid gweld hyn yn y ffordd y byddai’n mynd at ei hasesiadau, er enghraifft y ffordd y byddai’n troi ei llaw at greu adnoddau Gwaith Ieuenctid rhagorol mewn sefyllfaoedd lle nad oedd y rhain yn bodoli, ac yn y ffordd y creodd fideos TikTok fel rhan o gyfnodolyn proffesiynol ei lleoliad i dynnu sylw at ddiwrnod ym mywyd myfyriwr ar leoliad. Roedd Holly yn fyfyriwr eithriadol o weithgar, mewn perthynas 璽’i hastudiaethau academaidd a’i hymgysylltiad ar leoliad, ac rydym yn gobeithio gallu cyhoeddi peth o’i gwaith ar fel y gellir gweld ei gwaith yn eang, ac y gall lywio ymarfer a strategaeth. Mae Holly yn Weithiwr Ieuenctid ardderchog, gyda llygad creadigol iawn, a bydd yn cael effaith ar bobl ifanc a’u cymunedau lle bynnag y bydd ei gyrfa raddedig yn mynd 璽 hi, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd gan y dyfodol i Holly.
DIWEDD
*Mae Gwobr Goffa Carl John am Astudiaethau mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned wedi’i henwi ar 繫l cyn-ddarlithydd Gwaith Ieuenctid ar gampws Caerfyrddin.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk
幛款繫紳:&紳莉莽梯;07968&紳莉莽梯;249335