Amdani! Gwobrau eChwaraeon i Ysbrydoli Arweinwyr Digidol y Dyfodol
Daeth myfyrwyr ysgolion cyfun Sir Gaerfyrddin at ei gilydd am ddiwrnod ysbrydoledig yn Yr Egin ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Roedd y digwyddiad yn gyfuniad o gystadleuaeth eChwaraeon cyffrous a chyflwyniadau symbylol gan eChwaraeon Cymru, gan amlygu gyrfaoedd yn y diwydiannau gemau electronig a digidol.
Buodd disgyblion Ysgol Coedcau, Llanelli; Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman; Ysgol Sant John Lloyd, Llanelli; ac Ysgol Gyfun Emlyn, Castell Newydd Emlyn yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Daeth y diwrnod i ben gyda seremoni wobrwyo, i ddathlu eu cyraeddiadau ac arddangos potensial eChwaraeon fel porth i gyfleoedd gyrfaol ac addysgol gwerthfawr.
Nod y digwyddiad oedd datblygu sgiliau digidol dysgwyr ac amlygu’r ystod eang o yrfaoedd sydd o fewn gemau electronig a’r meysydd cysylltiedig, fel codio, dylunio gemau, podledu a’r diwydiannau creadigol. Rhoddodd bwyslais hefyd ar y sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu meithrin trwy eChwaraeon fel gwaith tîm, meddwl strategol, ac arweinyddiaeth – sgiliau hanfodol er mwyn llwyddo yn y gweithle.
Meddai Nicola Powell, Swyddog Datblygu Ymgysylltu Dinesig a Rheolwr Prosiect:
“Ar y cyd â’r Egin, darparodd eChwaraeon Cymru ddiwrnod arbennig er mwyn i’r dysgwyr ifanc chwarae cystadleuaeth eChwaraeon y gellid ei gwylio ar sgrin fawr. Dyfarnwyd tlysau enillwyr i ddysgwyr ifanc o ysgolion cyfun Sir Gaerfyrddin a chwaraeodd yn erbyn ei gilydd yn y gyfres o Ddiwrnodau Arwyr Gemau Electronig yng Ngholeg Sir Gar, Y Graig.
“Mae hwn yn blatfform mor wych i hyrwyddo gyrfaoedd digidol yng Nghymru a chyflwyno dysgwyr ifanc i’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y dyfodol.
“Hefyd, cawsant gyfle i ymweld ag ystafell ymdrochi PCYDDS a roddodd flas i ddysgwyr ifanc ac athrawon ar ffordd sy’n effeithiol yn ddigidol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau a mewnwelediad cyffrous i ddyfodol dysgu digidol.â€
Yn ystod y seremoni, cyflwynodd John Jackson o eChwaraeon Cymru brif anerchiad ysbrydoledig. Amlygodd boblogrwydd cynyddol eChwaraeon, sydd bellach yn 8fed chwaraeon mwyaf poblogaidd ‘Gen Z’ yng Nghymru, gan drechu undeb rygbi. Pwysleisiodd John yr angen i hodi ymwybyddiaeth o lwybrau llawr gwlad i broffesiynol y diwydiant a’r galw cynyddol am ymarferwyr proffesiynol medrus mewn meysydd fel cyfathrebu, datrys problemau, ac arloesi digidol. Ychwanegodd:
“Rwyf uwchben fy nigon i weld y dalent a’r angerdd anhygoel a welwyd yn y Twrnamaint Arwyr Gemau Electronig. Nid yn unig mae’r digwyddiad hwn yn ddathliad o echwaraeon ond hefyd yn blatfform grymus i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd yn y diwydiant gemau electronig. Trwy ysbrydoli a rhoi sgiliau digidol newydd i unigolion, rydym yn llunio llwybrau ar gyfer gyrfaoedd y dyfodol a thwf sector creadigol ffyniannus Cymru.
Y cyflwynydd oedd Ameer Davies-Rana, sy’n gyflwynydd profiadol i S4C a BBC Radio Cymru ac yn ymweld ag ysgolion a phrifysgolion yn rheolaidd i hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Meddai:
“Mae digwyddiadau gemio fel hyn yn gwbl hanfodol ar gyfer cydnabod, datblygu a sbarduno sgiliau gemio ymhlith pobl ifanc. Ond yn fwy na hynny, maen nhw’n cynnig profiad unigryw ac yn agor drysau i faes enfawr sy’n tyfu ar gyflymder anhygoel. Mae’n ffordd wych o ddangos i bobl, ifanc a hŷn, fod y byd digidol – unwaith yn cael ei ystyried fel hobi yn eich stafell wely – bellach yn cynnig cyfleoedd a gyrfaoedd y gellir eu cymryd o ddifrif, gyda’r potensial i newid bywydau’n llwyr.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i John Jackson, CEO eChwaraeon Cymru, am y cyfle arbennig yma. Dwi wrth fy modd yn gwrando ar ei syniadau o sut i dyfu y bwrlwm yma a dwi wir eisiau cydweithio gyda fe yn yr hir dymor i droi’r breuddwydion yma i fewn i realiti.
“Dyna pam rwy’n hynod falch o fod yn rhan o’r camau cynnar hyn wrth hyrwyddo rhywbeth sydd, yn fy marn i, yn mynd i fod yn hanesyddol. Fel cyflwynydd a pherchennog busnes (1Miliwn), rwyf bob amser yn chwilio am ffyrdd i ysbrydoli pobl ifanc Cymru i fanteisio ar gyfleoedd mawr i’w dyfodol. Mae’n fraint i fod yn un o’r bobl hynny sydd â’u traed yn y drws, fel y dywedir, ac rwy’n gyffrous dros ben i adeiladu rhywbeth arbennig gyda eChwaraeon Cymru.â€
Cyflwynwyd tlysau i dimau o bob ysgol a fu’n cymryd rhan, ac yna bu cinio i ddathlu. Canmolodd athrawon y fenter, gan amlygu ei heffaith bositif ar ddyheadau a datblygiad sgiliau myfyrwyr:
Dywedodd Steffan Hubbard, athro o Ysgol Gyfun Emlyn:
“Mae mynychu’r digwyddiadau fel yr un yn Yr Egin, Caerfyrddin yn grymuso disgyblion trwy arddangos llwybrau gyrfa yn y diwydiant echwaraeon, meithrin sgiliau mewn gwaith tîm, cyfathrebu a thechnoleg, a thanio angerdd a all arwain at lwyddiant yn y dyfodol mewn gemau a thu hwnt.â€
Bu’r prosiect arloesol hwn yn bosibl trwy gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Gaerfyrddin, a ddiogelwyd trwy gais ar y cyd gan dîm Ymgysylltiad Dinesig PCYDDS a Choleg Sir Gâr, sy’n gweithio’n gydweithredol i gyflwyno’r fenter.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
¹ó´Úô²Ô:&²Ô²ú²õ±è;07449&²Ô²ú²õ±è;998476