Ffair Gyrfaoedd Adeiladu Cynaliadwy
Ffair Gyrfaoedd Adeiladu Cynaliadwy
Ar y 6 Mawrth bydd ein digwyddiad Gyrfaoedd Adeiladu Cynaliadwy yn cael ei gynnal ar gampws Abertawe. Fe fydd yn gyfle i fyfyrwyr yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd a dysgwyr adeiladu addysg bellach gwrdd ag ystod eang o gwmnïau o feysydd pensaernïaeth, adeiladu, yr amgylchedd ac ynni cynaliadwy.
Gan ei bod yn Wythnos Menywod mewn Adeiladu rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth o’r gyrfaoedd niferus sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu. Rydym ni wrth ein boddau y bydd 4 siaradwr gwadd gyda ni a fydd yn rhannu eu teithiau gyrfaol i mewn i fyd adeiladu a’u profiadau o weithio yn y sector.
Estynnwn groeso i;
Dr Alissa Flatley, Uwch Ddarlithydd mewn Cadwraeth Arfordirol a Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Rachel Cook, Pennaeth Rhwydweithiau, Woodknowledge Wales
Lindsay Richards, Cyfarwyddwr Rheoli The Richards Partnership Ltd; Syrfëwr Meintiau Siartredig; Peiriannydd Adeiladu Siartredig;
Michelle Murillo, Un o Raddedigion rhaglen BSc (Anrh) Pensaernïaeth, PCYDDS
Ynghyd â’n siaradwyr gwadd, bydd ymwelwyr hefyd yn gallu dewis o blith rhaglen amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys;
* Arddangosiadau adeiladu gyda byrnau gwellt
* Cyfle i eistedd mewn efelychydd cerbyd trydan (ddim yn gwybod am hyn)
* Adeiladu tÅ· drwy ddefnyddio deunyddiau rhithwir
* Chwarae gyda Gêm Minecraft Campws Llambed PCYDDS
Bydd bagiau nwyddau a lluniaeth ar gael trwy gydol y digwyddiad.
Lleoliad
ºÚÁϳԹÏÍø
Swansea Campus
IQ Building
Swansea
Y Deyrnas Unedig