Profiad PCYDDS Emily
Helo! Emily Morgan ydw i. Rwyf newydd orffen fy ngradd israddedig yn astudio addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Mae’r cwrs hwn wedi fy mharatoi’n ddwys ar gyfer y cwrs TAR y byddaf yn dechrau ym mis Medi.
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Emily Morgan
Rhaglen: Addysg Blynyddoedd a Gofal Blynyddoedd Cynnar
Astudiaethau Blaenorol: Graddio 2024 a dechrau TAR
Tref eich Cartref: Castell-nedd
Profiad Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Emily
Profiad Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Emily
Beth oedd eich hoff beth am campws Abertawe?
Fy hoff beth am gampws SA1 PCYDDS oedd lleoliad hardd y brifysgol hon y drws nesaf i’r traeth.
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais PCYDDS oherwydd ei henw da iawn am raddau addysg.
Mae’r cwrs wedi fy narparu â llawer o wybodaeth a phrofiad gwerthfawr ac wedi fy ngwneud yn fwy hyderus wrth weithio gyda phlant ifanc.
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Rwy’n mwynhau pobi cacennau. Rwy’n coginio trwy’r amser i’m teulu a’m ffrindiau ac ar gyfer achlysuron arbennig.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Byddaf yn astudio’r TAR yn PCYDDS gyda’r gobaith o ddod yn athrawes ysgol gynradd.
Beth oedd eich hoff beth am Addysg Blynyddoedd a Gofal Blynyddoedd Cynnar ?
Rwyf wrth fy modd ar ba mor gynhwysol yw’r cwrs hwn gyda thîm gwych, calonogol a chefnogol o ddarlithwyr.
Mae astudio’r radd Blynyddoedd Cynnar a Gofal wedi bod yn un o’r penderfyniadau gorau rwyf erioed wedi’i wneud. Rwyf wedi mwynhau pob agwedd o’r cwrs hwn ac wedi gwneud rhai ffrindiau oes. Mae cynnwys y cwrs hwn wedi bod yn addysgiadol a phleserus iawn. Rwyf wedi ennill cymaint o wybodaeth a phrofiad gwerthfawr sydd wedi fy mharatoi ar gyfer gyrfa mewn addysg blynyddoedd cynnar.
Mae’r holl dîm darlithio blynyddoedd cynnar yn haeddu canmoliaeth arbennig. Maen nhw wedi bod mor gefnogol, calonogol ac amyneddgar dros y tair blynedd ddiweddaf. Maen nhw wir yn mynd gam ymhellach i’w myfyrwyr ac yn gwneud y cwrs hwn yn gynhwysol i bawb. Fyddwn i ddim wedi gwneud hyn heb eu cefnogaeth barhaus.
A fyddech chi'n argymell PCYDDS a pam?
I unrhyw un sy’n ystyried astudio Addysg Blynyddoedd Cynnar a Gofal, rwy’n meddwl y byddant yn cael cwpl o flynyddoedd gwerth chweil.
Fe gewch chi gefnogaeth ac anogaeth ddiddiwedd gan dîm gwych o ddarlithwyr a chyfle i ennill gwybodaeth werthfawr a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y blynyddoedd cynnar.