ºÚÁϳԹÏÍø

Skip page header and navigation

Cwestiynau Cyffredin

  • Mae’r FfAP yn fframwaith dysgu hyblyg ac anhraddodiadol a luniwyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol i gydbwyso eu hastudiaethau â’u hymrwymiadau proffesiynol a phersonol. Mae’n caniatáu i ddysgwyr integreiddio eu dysgu yn uniongyrchol i’w gweithle.

  • Mae profiad proffesiynol ar lefel briodol yn werthfawr iawn ac felly fel arfer mae’n cael ei ystyried yn gyfwerth â dyfarniadau addysg uwch.

  • Oes, mae’r rhan fwyaf o’n dysgwyr yn gyflogedig ar hyn o bryd neu’n dal rolau gwirfoddoli sylweddol y maent yn cyfrannu’n weithredol iddynt ac y gallant eu hintegreiddio i’w hastudiaethau.

  • Dylech ddisgwyl cyfuniad o aseiniadau ysgrifenedig, portffolios, a chyflwyniadau wedi’u teilwra i adlewyrchu heriau yn y byd go iawn, gan alluogi gwerthusiad cynhwysfawr o’ch sgiliau a’ch cynnydd mewn cyd-destun ymarferol heb unrhyw arholiadau safonedig.  

  • Rydym yn cynnig opsiynau dysgu ar gampws ac o bell i ddarparu ar gyfer dewisiadau dysgu ac amserlenni amrywiol. 

  • Mae credydau’r modylau yn amrywio o 5 i 60, ac wedi’u teilwra i weddu i lwybrau dysgu unigol. Mae’r modwl Cydnabod ac Achredu Dysgu (RAL) yn caniatáu i ddysgwyr hawlio dwy ran o dair o’r modwl am ddysgu drwy brofiad, yn ogystal ag 20 credyd am elfen y traethawd. 

  • Mae dysgu drwy brofiad yn golygu dysgu drwy brofiad uniongyrchol yn y gweithle ac adfyfyrio ar y profiad hwnnw. Mae cymhwyso hyn o fewn ein modwl RAL yn pwysleisio pwysigrwydd profiad ymarferol a geir yn y gweithle a sut mae’n cyfrannu at y broses ddysgu.

  • Mae’r FfAP yn cydnabod ac yn achredu dysgu blaenorol drwy brofiad (APEL) gan ganiatáu i ddysgwyr hawlio hyd at ddwy ran o dair o gymhwyster am y wybodaeth a’r profiad sydd ganddynt eisoes.

  • Ydy, rydyn ni’n cynnig darpariaeth ddwyieithog ar draws ein holl raglenni FfAP.

  • Mae’r FfAP yn canolbwyntio ar weithwyr proffesiynol a’u sefydliadau, gan ddarparu rhaglenni sy’n canolbwyntio ar gyflogwyr sy’n cyfoethogi datblygiad proffesiynol ac effeithiolrwydd yn y gweithle.

  • Mae’r rhaglenni FfAP yn hyblyg, gan ganiatáu i ddysgwyr astudio heb yr angen i fynychu’r brifysgol yn wythnosol. Mae pob modwl yn gofyn am ymrwymiad addysgu sy’n cyfateb i 4 diwrnod, sy’n ei wneud yn haws i’w gydbwyso â bywyd gwaith a phersonol.

  • Mae dysgwyr yn derbyn arweiniad a mentoriaeth arbenigol gan weithwyr proffesiynol profiadol, gan sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen i wella eu taith ddysgu a’u twf proffesiynol.

  • Mae’r manteision yn cynnwys y gallu i gydbwyso astudiaethau ag ymrwymiadau eraill, hyblygrwydd, cefnogaeth ardderchog, cyfle i weld gwerth y dysgu rydych wedi’i gaffael trwy weithio, ffocws ar hunanadfyfyrio a dadansoddi beirniadol, gwell hunanymwybyddiaeth a deallusrwydd emosiynol, a gwell sgiliau cyfathrebu a chydweithio.

  • Mae cyflogwyr yn elwa o’r FfAP gan ei fod wedi’i deilwra i wella sgiliau a galluoedd eu gweithlu, gan arwain at fod yn fwy effeithiol o ran datrys problemau, creadigrwydd, a chynhyrchiant cyffredinol yn y gweithle. 

  • I gael rhagor o wybodaeth am gofrestru ar raglen FfAP, ewch i dudalennau’r cwrs.

  • Ym mhob carfan, mae amrywiaeth o ddysgwyr o sectorau gwahanol, ac fel dysgwr byddwch yn ymuno â chymuned dysgu FfAP sefydledig lle byddwch yn elwa o gyfleoedd i rwydweithio. 

  • Gallwch ddilyn ein ffrwd cyfryngau cymdeithasol i gael newyddion am ddigwyddiadau, diweddariadau cwrs ac astudiaethau achos dysgwyr.

  • Ydyn. Mae Profion Seicometrig Insights yn helpu dysgwyr i ddeall mwy amdanyn nhw’u hunain ac eraill, gwella eu harferion gwaith a’u perthnasoedd rhyngbersonol. 

  • Gallant, gall dysgwyr astudio un modwl ar y tro a’i gwblhau, sy’n wych ar gyfer datblygiad proffesiynol a dysgu hyblyg.

  • Mae’r FfAP yn annog dysgu hunangyfeiriedig sy’n gefnogol ac yn canolbwyntio ar y dysgwr, gan ganiatáu i unigolion gymryd rheolaeth o’u taith addysgol eu hunain.

  • Mae’r FfAP yn cynnwys modylau generig sydd wedi’u llunio i fod yn berthnasol ar draws pob diwydiant a chefndir, gan wneud y dysgu’n berthnasol iawn i’r unigolyn.

  • Mae dysgwyr yn cymryd rhan mewn ymchwil seiliedig ar waith sydd wedi’i deilwra i fynd i’r afael â heriau neu faterion go iawn yn y gweithle, gan sicrhau bod eu hymchwil yn cael effaith sylweddol ar eu datblygiad personol a’u sefydliad.

  • Cyfunir astudiaeth academaidd yn y FfAP â dysgu yn y gweithle, gan roi gwell gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i ddysgwyr i wella eu perfformiad yn y gwaith tra maent yn ennill cymhwyster academaidd.

  • Gellir, mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig y FfAP fel darpariaeth unigryw yn y gwaith y gellir ei deilwra i fodloni anghenion dysgwyr unigol yn ogystal â sefydliadau.

  • Gall dysgwyr yn y Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP) astudio amrywiaeth o fodylau a luniwyd i fod yn hyblyg a pherthnasol ar draws pob diwydiant. Mae’r modylau’n cwmpasu ystod eang o bynciau sy’n gwella datblygiad proffesiynol ac effeithiolrwydd yn y gweithle. 

    Gwahoddir pob dysgwr i gwrdd ag aelod o dîm Derbyniadau’r FfAP er mwyn trafod a llunio llwybr dysgu a negodir yn unigol sy’n cyd-fynd â dyheadau gyrfa’r dysgwr yn awr ac yn y dyfodol. 

  • Ydy, mae’n bosibl astudio am ddyfarniad penodol mewn hyfforddiant a mentora yn y Drindod Dewi Sant. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau wedi’u teilwra yn y maes hwn, gan gynnwys Meistr yn y Celfyddydau (MA), Diploma Ôl-raddedig (PGDip), a Thystysgrif Ôl-raddedig (PGCert) mewn Hyfforddiant a Mentora. Mae’r rhaglenni hyn wedi’u llunio i ddarparu gwybodaeth fanwl a sgiliau ymarferol mewn hyfforddiant a mentora, gan eu gwneud yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n awyddus i wella eu harbenigedd neu achredu eu profiad.  

  • Er nad oes grantiau neu fwrsariaethau sy’n benodol ar gyfer talu ffioedd cwrs, unwaith y byddwch wedi cofrestru ceir mynediad at ystod o grantiau a chronfeydd trwy’r uned Gwasanaethau Myfyrwyr i gefnogi eich dysgu trwy gysylltedd digidol, costau datblygu gyrfa, bwrsariaeth costau cwrs e.e. ar gyfer llyfrau neu offer arbenigol.   

    Cymorth cyllido ôl-raddedig   
    Cymorth cyllido israddedig