Profiad PCYDDS Troy Wilkinson
Helo, Troy yw f’enw i, rwy’n fyfyriwr o bell wedi fy lleoli yn Nyfnaint ac ar hyn o bryd rwyf yn nhrydedd flwyddyn fy ngradd PhD mewn Hanes yr Hen Fyd yn PCYDDS.
Gwybodaeth Allweddol
Enw: Troy Wilkinson
Rhaglen: Hanes yr Hen Fyd
Astudiaethau Blaenorol: MRes Hanes yr Hen Fyd, BA Anrhydedd Sengl Hanes yr Hen Fyd
Tref eich Cartref: Exmouth, Dyfnaint
Troy's Ancient History Experience
Profiad Hanes yr Hen Fyd Troy

Beth oedd eich hoff beth am campws Llambed?
Fy hoff beth am fyw ar Gampws Llambed oedd yr Hen Adeilad a oedd yn rhoi ymdeimlad unigryw o bersonoliaeth a hanes.
Pam gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais i astudio yn PCYDDS am ei bod yn gymharol fach o ran maint ac yn bersonol iawn yn ei hagwedd at y myfyrwyr. Roedd agwedd bersonol PCYDDS tuag at ei myfyrwyr yn eglur i mi mewn diwrnod agored pan ges i gyfle i gwrdd â rhai o’r staff academaidd hynod o gyfeillgar a chefnogol.
Beth gwnaethoch chi fwynhau tu allan i’ch astudiaethau?
Tra bues i’n byw yn Llambed mwynheais i dreulio amser yng Nghampfa Campws Llambed yn ogystal â mynd am dro yng nghefn gwlad prydferth Cymru gyda ffrindiau. Wrth astudio gartref fel myfyriwr o bell rwy’n dal i fwynhau treulio amser yn y gampfa, gyda ffrindiau neu gyda’r teulu.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Yr ateb gonest yw fy mod i’n dal yn ansicr, mae 10 mlynedd yn amser hir wedi’r cwbl! Rwy’n gobeithio gallu defnyddio’r sgiliau a ddysgais i yn ystod fy ngradd(au) boed hynny drwy addysgu, ysgrifennu, siarad yn gyhoeddus, neu rywbeth hollol wahanol. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth sy’n dod yn y dyfodol!
Mae fy ngraddau yn PCYDDS wedi fy helpu’n bennaf i gael cipolwg da ar yrfa yn y byd academaidd. Mae hyn yn cynnwys gwneud ymchwil, trefnu cynadleddau a chyflwyno ynddyn nhw, mynd i ysgolion haf a chyhoeddi erthyglau mewn llyfrau a chyfnodolion academaidd.
Beth oedd eich hoff beth am Hanes yr Hen Fyd?
Fy hoff beth am fy PhD, a’m graddau blaenorol, yw’r cyfle i archwilio fy meysydd diddordeb fy hun ar yr un pryd ag arfer sgiliau gwerthfawr megis ymchwil, ysgrifennu a siarad yn gyhoeddus. Er, bu cael cyfle i ymweld â nifer o wledydd yn ystod f’astudiaethau yn cynnwys Gwlad Groeg, Ffrainc, yr Almaen a’r Swistir, yn sicr yn fonws neis!

A fyddech chi'n argymell PCYDDS a pam?
Er eu bod â ffocws academaidd yn bennaf, mae fy ngraddau wedi darparu toreth o sgiliau llafar, llenyddol a threfnu trosglwyddadwy a fyddai’n addas ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd yn fy marn i. Roedd y cyfle i gael hyfforddiant yn beth oedd y cynllun PASS (Sesiynau Astudio Dysgu gyda Chymorth Cymheiriaid) ar yr adeg honno, hefyd wedi darparu sgiliau ar gyfer hwyluso trafodaethau a gwybodaeth grŵp.